成人快手

Hafina Clwyd - Mynd i'r Gwrych

Rhan o glawr y llyfr

11 Hydref 2011

Adolygiad o Mynd i'r Gwrych. Detholiad o ddyddiaduron Hafina Clwyd rhwng 1993 a 1999. Tud. 172. Gwasg Carreg Gwalch. 拢7.50. Dilyniant i Prynu Lein Ddillad.

Doedd Hafina Cwyd ddim yn gyrru car ac yn y detholiad hwn o'i dyddiaduron rhwng 1993 a 1999 eglurir pam - gyda llun a geiriau ar y clawr i ddarlunio'r tro chwithig.

Un o fanteision y ffaith na allai Hafina ddreifio oedd i lawer ohonom ddod i adnabod ei g诺r, Cliff.

Y g诺r bonheddig, hynaws a diwylliedig, hwn fyddai'n ei chludo o le i le gan gynnwys cynadleddau i'r Wasg pan oedd Hafina yn olygydd Y Faner.

Mewn cariad o'r cychwyn

Os bu dau enaid hoff cytun erioed Hafina a Cliff oedd y rheini ac y mae hynny'n cael ei gadarnhau yn y detholiad hwn o'i dyddiaduron.

Syrthiodd y ddau mewn cariad ar yr olwg gyntaf.

"Un edrychiad ar draws ystafell yr athrawon, 15 Hydref 1969. Roeddwn yn eistedd yno, yn aelod newydd o'r staff, pan ddaeth un o'r penaethiaid i mewn: g诺r ysgafndroed, penfelyn hanner cant oed a'i lygaid glas yn troi fel ar un llinyn ac edrych arnaf. O'r eiliad honno nid oedd yr un dyn arall ar wyneb daear o ddiddordeb i mi," meddai.

Daeth eu cydfyw rhamantus hwnnw i ben yn dilyn cyfnod adfydus a ddechreuodd ar Ragfyr 4, 1996, pan gafodd Cliff str么c yn dilyn llawdriniaeth clun newydd.

Mae'r cofnodion o'r cyfnod hwn yn gymysgedd o'r dirdynnol, y rhwystredig ac o sawl profiad chwerw gyda'r gwasanaeth iechyd.

Ychwanegir at y dwyster o gofio mai yn ystod ei dyddiau olaf hithau yr oedd Hafina yn llywio y gyfrol hon drwy'r wasg gan farw cyn gweld ei chyhoeddi.

Clawr y llyfr

Nid pawb ohonom ddymunai fod mor agored wrth ymdrin 芒 phrofiadau fel hyn ond yn amlwg yr oedd yn rhywbeth y gwelai Hafina yr angen i'w wneud a phwy sydd 芒'r hawl i warafun hynny ond mewn un lle mae'n cofnodi sut y cafodd ei brifo pan gwestiynwyd galar cyhoeddus o'r fath.

Wedi ymddangos ar Beti a'i Phobl meddai:

"Llwyddodd Beti i fy yspsetio drwy ofyn braidd yn wawdlyd paham fy mod wedi mwrnio mor gyhoeddus. Aeth hyn 芒 ngwynt yn l芒n. Efallai iddi ddifaru oherwydd cefais lythyr gan y cynhyrchydd yn diolch am fy ngonestrwydd," meddai Tachwedd 1998.

Nid pruddglwyfus

Er bod i'r gyfrol ei phrudd-der nid cyfrol bruddglwyfus mohoni o ran ei thuedd achos fel bywyd ei hun mae'r tristwch yn gorgyffwrdd 芒 llawenydd, y smala, y doniol a'r difyr gydag ambell i daith dramor wedi eu stwffio i mewn.

A'r cyfan yn cael ei groniclo mewn Cymraeg gafaelgar gyda dogn hiwmor a'r siarad plaen a diflewyn ar dafod hwnnw y mae'r rhai sy'n adnabod Hafina yn ei gysylltu 芒 hi.

O gofio'r hen ddywediad, nad oes dim mwy anniddorol na phapur newydd ddoe, gellid maddau i rywun am amau pa mor ddiddorol allai detholion o ddyddiaduron cyfnod mor ddiweddar yn ein hanes a 1993-99 fod ac yr oeddwn innau'n un o'r amheuwyr hynny.

O'r cychwyn, chwalwyd yr amheuon ac y mae'n anodd credu hyd yn oed mewn perthynas a chyfnod mor ddiweddar pa mor ddiffygiol all cof rhywun fod ac mae Mynd i'r Gwrych yn gymorth i ail fyw ac ail ryfeddu at sawl peth.

Fel hyn y mae Hafina ei hun yn crynhoi bendith dyddiaduron:

"Efallai nad yw pawb yn cofio'r union ddiwrnod ond yr wyf i'n cadw dyddiadur!" meddai. "Yn cofnodi er mwyn medru crisialu. Nid rhith o 1665 ac ati ydy Hanes ond rhywbeth sydd yn digwydd yn ddyddiol, wythnosol, eiriasol," meddai.

mawr a bach

Mae'r detholiad hwn o'i dyddiaduron hi yn gymysgedd hyfryd o'r mawr a'r bach - o ddigwyddiadau cenedlaethol a rhai personol a'r ddau weithiau yn dod at ei gilydd megis yn hanes Eisteddfod Genedlaethol 1999 yn Llanbedrgoch, Ynys M么n.

Yng nghyswllt y steddfod honno y mae'n s么n am ddigwyddiad difyr iawn:

Ar goll ym M么n yn chwilio am westy Nant yr Odyn mae ei chwaer a hithau yn holi dau 诺r bonheddig ar y stryd yn Llangefni am gyfarwyddiadau.

"Ac meddai un, 'Mi af a chi yno.' A ffwrdd 芒 fo i n么l ei gar. Mewn chwinciad dyma fodur gwyn yn agos谩u a dyn yn codi ei law, a dyma Helen wrth y llyw ar ei 么l. Drwy Langefni a'r Talwrn, drwy berfeddion M么n ac i Bentraeth ac i gyfeiriad Maes y Steddfod, a dyma'r car gwyn yn troi i mewn i Ganolfan Arddio. Roeddym wedi dilyn y car anghywir am filltiroedd, wedi gweld y rhan fwyaf o Ynys M么n a chodi braw ar y dyn yn y car gwyn oedd yn meddwl ein bod yn ei 'stalkio' ac nid oeddym yr un blewyn yn nes i Nant yr Odyn y diwedd."

Go brin y caiff yr un fydd yn dilyn y dyddiaduron hyn y fath siwrne seithug.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.