成人快手

Cof Cenedl XXIV

Rhan o glawr Cof Cenedl

Adolygiad Glyn Evans o Cof Cenedl XXIV: Ysgrifau ar Hanes Cymru. Golygydd, Geraint H. Jenkins. Gwasg Gomer. 拢8.99.

Ers dros ugain mlynedd bu cyhoeddi cyfrolau y gyfres Cof Cenedl yn gyfraniad o bwys i'r ymdriniaeth o hanes Cymru.

Dan olygyddiaeth yr Athro Geraint H Jenkins cyhoeddwyd 24 o gyfrolau i gyd - ond gyda'r bedwaredd ar hugain a welodd olau dydd ddechrau 2009 daeth y gyfres nodedig hon i ben.

Clawr y gyfrol

Yr oedd yn nodedig pe na byddai ond am y ffaith na chafwyd dros y blynyddoedd yr un gair croes neu sylw anffafriol iddi. Dim ond canmoliaeth i'r syniad ac i'r cyfraniadau.

Yr oedd yn llenwi bwlch ac fe werthfawrogwyd hynny gan adolygwyr, ysgolheigion a darllenwyr yn ddiwah芒n.

Ond gyda chyhoeddiad Geraint Jenkins yn y gyfrol ddiweddaraf wele'r bwlch yn 么l unwaith eto:

"Gan fy mod yn ymddeol o'r byd academaidd, yr wyf wedi penderfynu dirwyn Cof Cenedl i ben," meddai.

"Y pedwerydd rhifyn ar hugain hwn, felly, fydd yr olaf un yn y gyfres hon.

Gwaith tra phwysig

"Rwy'n mawr obeithio bod y gyfres wedi cyrraedd ei nod o apelio at ddarllenwyr cyffredin yn ogystal 芒 haneswyr dysgedig a myfyrwyr ifainc, a bod yr ysgrifau a gyhoeddwyd ynddi wedi dangos bod dehongli amrywiol weddau ar ein hanes yn Gymraeg yn waith tra phwysig i ni fel pobl.

"Fel y dywedwyd lawer gwaith, cof cenedl yw ei hanes ac ni allwn fforddio colli'r cof sy'n cynnal ein hunaniaethau fel Cymry," meddai.

Dywed mai ei obaith yn awr yw y daw "rhywun iau na mi" i gymryd yr awenau a llenwi'r bwlch a adewir nid yn unig gan y gyfres hon ond hefyd cyfres arall o gyfrolau blynyddol gan wasg Gomer ar ddiwylliant Cymraeg cymoedd y de dan olygyddiaeth Hywel Teifi Edwards.

"Y mae Hywel a minnau'n dal i gredu na all cenedl ddeall ei phresennol na rhagweld ei dyfodol heb ymdrwytho'n llwyr yn ei gorffennol a bod gan y gair printiedig ran allweddol bwysig i'w chwarae yn yr ymdrech barhaus i gryfhau a chyfoethogi ymdeimlad cenedlaethol ein pobl," meddai Geraint Jenkins.

Go brin y byddai neb yn anghytuno 芒 chyfarwyddwr cyhoeddi Gwasg Gomer, Mairwen Prys Jones, pan ddywedodd:

"Gwnaeth Cof Cenedl gyfraniad enfawr i'n hymwybyddiaeth ni fel Cymry Cymraeg o'n tras a'n hetifeddiaeth. Mae ein dyled ninnau fel cenedl yn fawr i waith caboledig a chydwybodol Geraint H Jenkins ar hyd y blynyddoedd."

Poblogaidd ac ysgolheigaidd

Si诺r o fod mai rhinwedd pennaf y gyfres oedd ei llwyddiant yn cyfuno y 'poblogaidd' ac ysgolheictod awdurdodol gyda chyfraniadau wedi mynd i'r afael 芒 phynciau mor amrywiol ag agweddau o hanes Llywelyn ein Llyw olaf i hanes poblogrwydd seiclo yng Nghymru yn nyddiau cynnar y beic a Rhyfel y Malvinas!

Adlewyrchir yr amrywiaeth hynod hwnnw yn y gyfrol olaf hon lle mae'r Dr Andrew Edwards o Brifysgol Bangor yn trafod dan y teitl, Te Parti Mwnc茂od rwyg, anghytgord a datblygiad polisi Llafur ar ddatganoli rhwng 1966 a 1979.

Erthygl dreiddgar sy'n dangos sut y daeth swyddogaeth a gweithgarwch y Blaid Lafur yn gliriach dros y blynyddoedd.

"Wrth i glwyfau'r gorffennol ddechrau gwella, gellir trafod y mater yn fwy cytbwys a deallus," meddai gan awgrymu mai'r hyn sy'n rheitiach erbyn hyn yw datgelu diffygion y rhai a geisiodd ennill cefnogaeth i ddatganoli yn '79 yn hytrach na rhoi'r pwyslais "ar y sawl a wrthwynebodd ddatganoli."

Pais o frethyn

Mewn cyferbyniad llwyr mae Alaw Mai Jones o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn trafod "tecstiliau'r Cymry yn yr Oesoedd Canol" gan gycvhwyn gydag un o ddilladau enwocaf llenyddiaeth Gymraeg, Pais Dinogad a ddisgrifir gan gan fardd o'r seithfed ganrif.

Gan dynnu sylw at y berthynas rhwng y gair brith a brethyn dywed Alaw Mai Jones:

"Yr oedd sawl ystyr i'r ansoddair 'brith', wrth gwrs, a gall ddisgrifio lliw neu wead brethyn neu hyd yn oed liwiau'r arfwisgoedd wedi eu 'staenio' 芒 gwaed y gelyn, a oedd yn creu delwedd ddramatig iawn."

Lladd yn Nolgellau

Llofruddiaeth filain mam ddibriod a dienyddiad y llofrudd o Gymro yn 1877 yw testun un o ffyddloniaid y gyfres, Hywel Teifi Edwards, yn Cyflafan Dolgellau lle dywed:

"Ers helynt 'Brad y Llyfrau Gleision' bu'r Gymru Anghydffurfiol, Gymraeg ei hiaith, yn niwrotig ei hymboeni am ei graen yng ngolwg y byd...

"Daethai brad 'o'r tu mewn' i sigo'r genedl i'w sail a'i gwneud bron yn amhosibl trafod y 'weithred fall' yn gall."

Dengys Hywel Teifi sut y cleisiwyd y syniad o 'Gymru l芒n Cymru lonydd' gan y drosedd ysgeler ym Meirionnydd.

Ac yn y gyfrol mae llun o'r llofrudd a'i grogwr!

Pynciau eraill

Pynciau eraill sy'n cael eu trafod yn y gyfrol olaf yw,

  • Dylanwad y Beibl ar Gymru yn y cyfnod modern cynnar gan Eryn M White o Adran Hanes Prifysgol Aberystwyth.
  • Llenyddiaeth Streic Fawr Chwarel y Penrhyn gan Gwen Angharad Gruffudd, ymchwilydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth.
  • Si么n Rhydderch a'i waith gan A Cynfael Lake o Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe.
    • Mae'r gyfrol yn cynnwys hefyd fynegai i ysgrifau cyfrolau XXI - XXIV.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.