成人快手

Cymru - y can lle i'w gweld cyn marw

Rhan o glawr y llyfr

19 Mawrth 2010

  • Adolygiad Glyn Evans o Cymru - Y 100 Lle i'w Gweld Cyn Marw gan John Davies a lluniau gan Marian Delyth. 326 tudalen. Y Lolfa. Clawr Caled - 拢29.95. Clawr meddal - 拢19.95.

Wrth s么n amdani'n cael ei helcid ar draws gwlad i dynnu lluniau ar gyfer y gyfrol hon dywed Marian Delyth iddi ddysgu llawer.

"Yn arbennig am ein hardaloedd 么l-ddiwydiannol lle'r oedd yn rhaid i mi weithiau chwilio yn ddyfal i ganfod y llun gwreiddiol gorau i gofnodi olion ein hetifeddiaeth," meddai.

Mae'n 'addysg' sy'n bleser i ninnau hefyd, ddarllenwyr y gyfrol, ymgyfranogi ohoni a synnwn i ddim na fydd y Rolls Royce hwn o lyfr yn sbardun i sawl un neidio i'w gar er mwyn dilyn yr un trywydd a'r hanesydd o awdur a'i dynnwr lluniau.

Gwneud rhestr

Y demtasiwn naturiol gyntaf, si诺r o fod, fydd llunio rhestr feddyliol o sawl un o'r can lle mae rhywun wedi ymweld 芒 hwy yn barod.

Bydd angen clandro wedyn faint sydd ar 么l a chan ddibynnu ar eich oed faint o frys sydd yna i ymweld 芒 nhw.

Fe'm synnwyd i bod yr ail restr yn un cyn fyrred gan beri imi holi ai arwydd yw hynny, tybed, i John Davies wyro'n ormodol tuag at yr ystrydebol.

Efallai bod hynny'n anorfod mewn gwlad mor fechan gan fod y dewis yn weddol gyfyng ond fe fyddai hi wedi bod yn braf gweld cynnwys mwy o leoedd cwbl anghyfarwydd.

Dylanwad dyn

Ond beth bynnag ddywedir am y niferoedd sy'n bosibl mewn libart mor gyfyng ni all rhywun ond rhyfeddu at yr amrywiaeth - o olygfeydd Dr Whoaidd Mynydd Parys yng ngogledd M么n i feini hynafol Pentre Ifan dan gwmwl ym Mhenfro.

Ac mae enwi'r ddau le yna yn dod 芒 ni at rywbeth diddorol arall yngl欧n 芒'r gyfrol.

"Mae'r mannau o dan sylw i gyd yn gynnyrch llafur dynolryw," meddai John Davies a hynny'n rhyw awgrymu y gall Marian Delyth gael ei llusgo gan gwaith eto ar hyd a lled Cymru - i leoedd o hynodrwydd naturiol y tro hwn. A dyna gyfrol arall i gymryd ei lle ochr yn ochr 芒 hon ar silff gyfleus neu fwrdd coffi - ydi pobl yn dal i gadw llyfrau ar fyrddau coffi dwedwch? Ydi pobl yn dal i brynu byrddau coffi?

Am ryw reswm dewiswyd peidio a chynnwys dau hoff le gen i yn y gyfrol Llanddwyn ac Ynys Enlli - er bod 么l llaw dyn i'w weld yn amlwg yn y ddeule.

Ta waeth, ddeuai rhywun byth i ben 芒 mynd ati i restru'r absenolion achos yn eu hanfod, cyfrolau mympwyol yw rhai fel hon a dyna ran o'u hap锚l.

Hon oedd y gyfrol a ddewisais i yn anrheg Nadolig eleni - i'w chymryd a'i rhoi ac ni fu gair o gwyn.

Y lluniau

Fel y byddai rhywun yn disgwyl gan Marian Delyth mae'r lluniau'n rhagorol o ran ansawdd a chyfansoddiad gydag ambell i gyffyrddiad gogleisiol fel y llun o orsaf Caerfyrddin ar dudalen 175, ferch yn croesi'r traeth yn Ninbych-y-pysgod ar dudalen 169 a thu allan i'r Cae Ras yn Wrecsam, 65.

Y drwg wrth ddechrau enwi lluniau yw bod rhywun eisiau ychwanegu atyn nhw a'r rhestr yn prysur fynd allan o reolaeth felly cyfyngaf fy hun i dri arall, Castell Carreg Cennen, 143; Pentre Ifan 153 a Chyrion Tyddewi, 158. O ie, go brin y byddwch yn gadael y llun o Abaty Nedd ar dudalen 198 heb droi'r llyfr neu hyd yn oed gerdded o'i gwmpas!

Fyddwn i ddim mor wirion a'u graddio dim ond dweud eu bod yn rhagorol ymhlith rhai eraill yr un mor rhagorol.

Ond weithiau mae'r geiriau ddylai fod dan lun wedi eu hepgor neu eu anghofio ac mae hynny'n ofid.

gwybodus

Yn union fel mae'r lluniau yn llaw meistr goleuni a chysgodion felly'r wybodaeth hefyd ac ni all rhywun ond rhyfeddu at yr holl ffeithiau sydd ar ben bysedd John Davies.

Croniclwr ydi o yn hytrach na sgrifennwr creadigol a hynny a gawn yma - ffeithiau wedi eu cyflwyno'n ddiddan,. A'r fath ddyfnder gwybodaeth.

Bron na ddywedai rhywun na fyddai'n afresymol mynd allan i brynu bwrdd coffi ond i ddal y gyfrol hon!

Byddai rywfaint yn wyrdro毛dig peidio ag ystyried cyfrol fel hon ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn ond dan amodau'r ymarferiad od hwnnw synnai rhywun ddim ei gweld yn cael ei gwthio o'r neilltu gan ryw nofel hunandybus geiniog a dimai.

Y can lle yn y gyfrol ydi:

  • Mynydd Parys
  • 2 Barclodiad y Gawres a Bryn Celli Ddu
  • 3 Biwmares
  • 4 Pontydd Menai
  • 5 Bangor
  • 6 Caernarfon
  • 7 Tre'r Ceiri
  • 8 Llanberis
  • 9 Gwydyr
  • 10 Bodnant
  • 11 Conwy
  • 12 Rhuddlan a Llanelwy
  • 13 Dinbych
  • 14 Treffynnon
  • 15 Ewlo a Phenarl芒g
  • 16 Yr Wyddgrug
  • 17 Gresffordd
  • 18 Y Bers ac Erddig
  • 19 Wrecsam
  • 20 Y Waun
  • 21 Pont Cysyllte
  • 22 Llangollen
  • 23 Rhuthun
  • 24 Penllyn a'r Bala
  • 25 Blaenau Ffestiniog
  • 26 Portmeirion
  • 27 Harlech
  • 28 Pennant Melangell
  • 29 Y Trallwng
  • 30 Trefaldwyn
  • 31 Y Drenewydd
  • 32 Canolfan y Dechnoleg Amgen
  • 33 Aberystwyth
  • 34 Aberaeron
  • 35 Ystrad-fflur
  • 36 Llananno
  • 37 The Pales
  • 38 Llanandras
  • 39 Talgarth
  • 40 Llangors
  • 41 Tret诺r
  • 42 Aberhonddu
  • 43 Y Garn Goch a Chastell Carreg Cennen
  • 44 Llandeilo a Dinefwr
  • 45 Aberteifi
  • 46 Foel Drygarn
  • 47 Pentre Ifan
  • 48 Tyddewi
  • 49 Hwlffordd
  • 50 Penfro
  • 51 Llandyf谩i a Maenorb帽r
  • 52 Dinbych-y-Pysgod
  • 53 Hendy-Gwyn
  • 54 Caerfyrddin
  • 55 Yr Ardd Fotaneg Genedlaethol
  • 56 Llanelli
  • 57 Abertawe
  • 58 Y Mwmbwls
  • 59 Treforys
  • 60 Gwaelodion Cwm Tawe
  • 61 Castell-Nedd
  • 62 Margam
  • 63 Cynffig a'i chyffiniau
  • 64 Ewenni
  • 65 Llanilltud Fawr
  • 66 Y Barri
  • 67 Hen Fewpyr
  • 68 Castell Caerdydd
  • 69 Parc Cathays
  • 70 Bae Caerdydd
  • 71 Llandaf
  • 72 Sain Ffagan
  • 73 Castell Coch
  • 74 Caerffili
  • 75 Pontypridd
  • 76 Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
  • 77 Treflun y Rhondda
  • 78 Aberd芒r
  • 79 Aber-fan
  • 80 Merthyr Tudful
  • 81 Dowlais
  • 82 Y Drenewydd (Butetown)
  • 83 Tredegar
  • 84 Bryn-mawr
  • 85 Canol Casnewydd
  • 86 Cyrion Casnewydd
  • 87 Gwastadeddau Gwent
  • 88 Caerllion
  • 89 Cwmbr芒n
  • 90 Pont-y-p诺l
  • 91 Blaenafon
  • 92 Y Fenni
  • 93 Llanddewi Nant Hodni
  • 94 Teirtref
  • 95 Rhaglan
  • 96 Tryleg
  • 97 Tyndyrn
  • 98 Caer-went
  • 99 Yr ail groesfan ar draws aber Afon Hafren
  • 100 Cas-gwent

Mae map sy'n dangos y lleoliadau i gyd ar gychwyn y gyfrol ond does yna ddim gyda'r erthyglau gyfeirnod ordnans o gwbl ac fe fydd y rhai hynny sydd am ymweld 芒 rhai o'r lleoedd hyn yn gweld hynny'n ddiffyg.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.