Portread gan Lowri Haf Cooke
Ganed "Bond Bae Colwyn" yn y dref honno ar arfordir gogledd Cymru ar Fawrth 21, 1946.
Timothy Dalton oedd yr hynaf o bump o blant i Americanes o dras Wyddelig ac Eidalaidd a Sais oedd yn gyn gapten gyda'r SOE yn ystod y Rhyfel - yn arbenigo mewn ymgyrchoedd cyfrinachol.
Erbyn iddo droi'r pedair oed, roedd y teulu wedi symud i fyw i bentre Milford ger Belper, swydd Derby, ac yno y treuliodd flynyddoedd ei lencyndod.
Disgleiriodd fel disgybl yn Ysgol Ramadeg Herbert Strutt, ac yn 15 oed, dilynodd 么l troed ei dad fel cadlanc awyr nd ar 么l profi perfformiad o Macbeth, rhoddodd ei fryd ar fynd yn actor, gan ymuno 芒'r Theatr Ieuenctid Cenedlaethol .
Ym 1964 enillodd le ar gwrs dwy flynedd yn RADA, ond gadawodd cyn graddio oherwydd pwyse seicolegol yr athrawon ac ym 1966 ymunodd 芒 Chwmni Theatr Birmingham.
Tynnu sylw
Dros y blynyddoedd nesa, denodd gryn dipyn o sylw wrth gydbwyso gyrfa yn y theatr a'r 成人快手, gan lanio rhan reolaidd yn y gyfres deledu Sat'Day While Sunday gyda Malcolm McDowell.
Ym 1968 enillodd ran Brenin Phillip yr Ail o Sbaen yng nghynhyrchiad ffilm The Lion in Winter gyferbyn 芒 Katharine Hepburn a Peter O'Toole, a Chymro arall - Anthony Hopkins, yn un o'i rannau cyntaf yntau ar ffilm.
Dyma'r gyntaf mewn cyfres o ffilmiau cyfnod y serenodd ynddynt, gan gynnwys Cromwell a Mary, Queen of Scots, ac ysgogodd ei bortread dwys o Heathcliff - gyferbyn 芒 Hugh Griffith o Sir F么n - yn Wuthering Heights ym 1970 i'r cynhyrchydd Albert "Cubby" Broccoli ei wahodd i gymryd lle Sean Connery fel James Bond.
Gwrthod y cais wnaeth o'r tro hwnnw gan fynnu ei fod yn rhy ifanc i chwarae arwr Ian Fleming ac aeth y rhan i'r Awstraliad George Lazenby, yn ei unig berfformiad fel Bond yn On Her Majesty's Secret Service.
Penderfynu canolbwyntio ar waith theatr wnaeth Dalton ar 么l hynny a phrofodd y 1970au yn gyfnod euraidd iddo ar y llwyfan, wrth iddo arbenigo fel actor Shakespeareaidd gyda'r RSC a chwarae'r prif rannau yn Romeo and Juliet, King Lear, Henry V, Love's Labour Lost a Henry IV.
Canlyn
Roedd eisoes wedi cyfarfod 芒'r ddynes fyddai'n chwarae rhan fawr yn ei fywyd ar set ffilm Mary, Queen of Scots ym 1970, sef Vanessa Redgrave, a bu'r ddau'n canlyn tan ddechrau'r 1990au, gan gydweithio sawl gwaith, yn cynnwys cynyrchiadau Theatr Clwyd o The Taming of the Shrew ac Antony and Cleopatra ym 1986, ac A Touch of the Poet gan Eugene O'Neill ym 1989.
Yn dilyn ymddangosiadau ar deledu yng nghyfres Centennial a Charlie's Angels ar ddiwedd y Saithdegau, a phortread cofiadwy o Mr Rochester yn Jane Eyre ym 1983 cafodd Dalton eto gynnig i chwarae rhan Bond ond oherwydd ymrwymiadau i'r theatr bu'n rhaid gwrthod y cynnig unwaith yn rhagor.
Adfer 'Bond'
Ond, ym 1987, pan fethodd Pierce Brosnan a rhyddhau ei hun o'r gyfres deledu boblogaidd Remington Steele, derbyniodd Dalton yr her o ddilyn Roger Moore fel y pedwerydd James Bond.
Llwyddodd The Living Daylights i adfer brand Bond yn rhyngwladol yn dilyn cyfnod go hesb yn ei hanes, diolch i bortread Roger Moore o Bond fel playboy chwareus yn erbyn cyfres o fegalomaniaid go gamp ar ddechrau'r Wythdegau.
Yn wir, plesiwyd y beirniaid a'r gynulleidfa gan ddehongliad tywyllach Dalton o Bond fel dyn dwys, difrifol, a'r farn gyffredinol - hyd heddiw ymhlith y puryddion - yw mai Dalton ddaeth agosaf i gyfleu gweledigaeth wreiddiol Fleming o'r ysb茂wr ysblennydd.
Llwyddodd The Living Daylights i werthu mwy o docynnau na'r un ffilm antur arall y flwyddyn honno, gan gynnwys Die Hard a Lethal Weapon, ond mewn cymhariaeth, profodd ei dilyniant, Licence To Kill, yn fethiant, diolch i gystadleuaeth gadarnach gan Indiana Jones and the Last Crusade, Batman a Lethal Weapon 2 yn haf 1989.
Ac yntau wedi'i gytundebu i serennu mewn tair ffilm Bond, bu'n rhaid aros yn hir am y drydedd, ac ym 1994, yn dilyn oedi mawr, dechreuodd Dalton ffilmio cyfres deledu Americanaidd Scarlett - dilyniant i Gone With The Wind, lle chwaraeodd yr anfarwol Rhett Butler.
Parhaodd yr oedi am y Bond nesaf ac er syndod i lawer penderfynodd Dalton ymddeol o chwarae rhan fwyaf ei yrfa.
Ymhen deufis cyhoeddwyd y byddai Pierce Brosnan yn cymryd ei le a bu Goldeneye yn llwyddiant aruthrol ym 1995.
I rai, roedd hynny'n gadarnhad nad Dalton oedd y dyn i bortreadu Bond ond roedd ar ben ei ddigon o gael diosg y dryll a dywedodd iddo brofi gwefr o ryddhad wrth basio posteri o Pierce yn gafael yn ei wn.
'Dyn tal, tywyll'
Er iddo geisio dewis rhannau hollol wahanol ar 么l cefnu ar Bond ymddengys i'w statws fel dyn tal, tywyll, a golygus ei felltithio rhag cael ei dderbyn fel erchyllbeth ellyllaidd ac mae'r Oscar wedi ei osgoi hyd heddiw.
Yn wir, chwaraeodd gyfres faith o ddihirod go drawiadol am beth amser - gan gynnwys yr antur ddychanol Hot Fuzz yn 2007 a phennod o Doctor Who yn 2009 - nes glanio cameo cofiadwy yng nghynhyrchiad mwya' llwyddianus 2010, Toy Story 3.
Pwy oedd hwnnw, medde chi? Pricklepants yw'r enw - Mr Pricklepants i chi; y Divo o ddraenog mewn lederhosen gwyrdd sy'n ystyried pob sesiwn chwarae 芒 Woody y Cowboi yn fynegiad byrfyfyr o safon Stanislavski!
I rai byddai cameo o'r fath yn sarhad ar yrfa theatrig anrhydeddus ond rhaid cofio bod Dalton yn Dad - i Alexander, ei fab gyda'r pianydd Oksana Grigorieva fu yn y newyddion am ei pherthynas dreisgar 芒 Mel Gibson - ac yn actor sy'n gyfarwydd iawn 芒 natur oriog enwogrwydd.
Pa ffordd well o atgoffa cynifer o'i feistrolaeth ar lwyfan na thrwy gyfrwng draenog dramatig sy'n feistr ar fyrfyfyr?
Dau arall
Cofiwch hefyd am ddau Gymro arall ddisgleiriodd ar lwyfan - Richard Burton ac Anthony Hopkins. Y mae'r naill yn ei fedd yn dilyn gyrfa addawol a ddrylliwyd gan Hollywood a'r llall yn ddiddig a diog ers ennill ei Oscar.
Ai gwobrau a sylw sy'n gneud actor o safon, ynteu bywyd o brofiadau amrywiol?
Peidiwch, da chi, ag anwybyddu Dalton; efallai bod ei wallt wedi gwynnu ond mae'r llygaid gwyrddion yn dal i befrio, y blys i blesio yn dal i gorddi a chanddo yn ei feddiant drwydded i drydanu.