成人快手

Wall Street - Money Never Sleeps

Mochael Douglas - Mr Zeta Jones!

12 Hydref 2010

12Tair seren allan o bump

  • Y S锚r: Michael Douglas, Shia LaBeouf, Carey Mulligan, Josh Brolin a Frank Langella.
  • Cyfarwyddo: Oliver Stone.
  • Sgrifennu: Allan Loeb a Stephen Schiff.
  • Hyd: 133 munud

Blwyddyn ddyrys 'Mr Zeta Jones'

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Bron i chwarter canrif yn 么l, rhyddhawyd ffilm a grisialodd oferedd yr Wythdegau i'r dim, a hynny trwy gyfrwng un cymeriad cofiadwy - y masnachwr stoc eiconig Gordon Gekko, a chwaraewyd gan Mr Zeta-Jones ei hun, Michael Douglas.

Tua diwedd y ffilm Wall Street (1987), wynebodd y rheibiwr corfforaethol gyfnod sylweddol dan glo am dwyll dieflig, ac ar ddechrau'r dilyniant Wall Street: Money Never Sleeps, gwelwn y troseddwr edifeiriol yn gadael y carchar ar droad y Mileniwm 芒'r unig eitemau yn ei feddiant - oriawr Cartier a bricsen o ff么n symudol.

Does na neb yno i ddathlu ei ryddhad, gan i'w wraig ei ysgaru a'i fab, Rudy, farw o effeithiau cyffuriau yn ei absenoldeb ac mae Winnie ei ferch wedi hen gefnu arno yn dilyn y drychineb deuluol hon.

Symudwn ymlaen yn gyflym i 2008 - rai misoedd cyn cychwyn yr argyfwng ariannol presennol - pan welwn ni fasnachwr ifanc, Jake Moore, yn rhuo trwy strydoedd Manhattan ar ei feic modur, a'i gariad Winnie Gekko - sydd bellach yn newyddiadurwraig amgylcheddol - tu cefn iddo.

Ar gyrraedd ei swyddfa yn un o gwmn茂au buddsoddi hynaf Wall Street, derbynia siec bonws am filiwn a hanner o ddoleri gan berchennog y cwmni, Louis Zabel (Frank Langella)- dyn sy'n gwybod fod dyddiau ei gwmni ar ben.

Yn galaru

Pan ddaw'r newyddion fod y sefydliad hynafol hwn yn wynebu ei reibio gan gwmni'r tarw ariannol newydd, Bretton James (James Brolin) - neidia Zabel i'w farwolaeth gan adael Jake i alaru am yr unig ffigwr tadol gafodd o erioed, a'i ysbrydoli i ddial arno wrth ddechrau sibrydion di-sail gan achosi colledion mawr i'w elyn. Yn groes i'r disgwyl arweinia'i hyfdra at gynnig swydd gan James, sy'n chwilio am 笔谤辞迟茅驳茅 newydd ond mae mentor arall yn y farchnad, Gordon Gekko, tad ei ddyweddi, ac awdur y gyfrol boblogaidd Is Greed Good?, sy'n dymuno cymodi 芒'i ferch ers tr枚edigaeth yn y carchar.

Serch ei ddicter, mae Jake yn awyddus i wneud ei ffortiwn trwy fod y cyntaf i ariannu'r cwmni ynni gl芒n y mae'n feithrin ers blynyddoedd ond sut mae dibynnu ar feistres mor anwadal 芒'r farchnad arian - ac ydy Winnie yn iawn i fynnu mai afal pwdr yw ei thad?

Nid cyd-ddigwyddiad mo'r ffaith i'r stori hon gael ei gosod ar ddechrau'r apocalyps ariannol diweddar ac nid sbwylio'r syrpreis ydw i wrth ddatgelu fod penbleth Jake yn arwain at gymhlethdodau pellach yn ei fywyd ef - a ninnau hefyd!

Y rheswm am y pwynt ola hwn yw fod cynhyrchiad diweddara Oliver Stone - sy'n hysbysebu'i hun fel beirniadaeth lawdrom o anghyfrifoldeb aruthrol yr angenfilod ariannol - mewn gwirionedd wedi'i chyflwyno trwy gyfrwng jargon sy' mor annealladwy fel mai'r unig bobol wnaiff lwyr werthfawrogi rhannau mwyaf "cyffrous" y ffilm ydy'r union bobol sy'n dod dan ei llach!

Ac fel a gafwyd gyda'r ffilm wreiddiol - pan ysbrydolwyd y genhedlaeth ddiweddara o filiwnyddion gan giamocs Gordon Gekko - caiff ffordd-o-fyw'r arch ddihiryn Bretton James- gyda'i baentiad gan Goya, beiciau modur Ducati a gemwaith Bulgari - ei ddarlunio mewn dull sy'n peri i lafoer ddiferu, nid i dyrfaoedd bicedu!

Breuddwydion pawb

Ar ben hyn oll, mae'r diweddglo buddugoliaethus - lle caiff breuddwydion pawb, ac eithrio'r un cnaf cwbl ddienaid, eu gwireddu - yn cynnig canlyniad sydd mor anghydnaws 芒'r mission statement gwreiddiol - nes drysu'r gynulleidfa'n l芒n a'i gadael mor waglaw 芒 buddsoddwyr Bernie Madoff.

Mae rhannau helaeth o'r ffilm mor debyg i'r ffilm wreiddiol nes bod rhaid gofyn pam ar wyneb daear yr aeth Stone ati i'w hail-greu - oni bai ei fod ar d芒n i bwysleisio grym y farchnad i adfywio'i hun ac i brofi'r wireb sylfaenol mai i'r pant y rhed y d诺r.

Yn sylfaenol, wrth gwrs, esgus i ddeffro un o gymeriadau mwyaf eiconig Hollywood o'i drwmgwsg ydy Wall Street; Money Never Sleeps ac mae'n deg dweud i Michael Douglas gael hwyl fawr yn ailgreu 'rhen Gekko.

Blwyddyn anodd

Yn wir, mae rhannau helaeth ohoni sy'n adleisio bywyd yr actor ei hun ac yntau'n wynebu blwyddyn galed iawn eleni yn dilyn diagnosis canser y gwddf, a charchariad ei fab Cameron, o'r briodas gyntaf, a ddioddefodd diolch i'w waith a'i gaethiwed i ryw a chyffuriau.

O dras Gymreig

Mae gen i ofn na allaf i fod mor hael 芒 chymeriadau eraill y cynhyrchiad, gan gynnwys y "seren" honedig Shia LaBeouf - sy'n chwarae fersiwn identikit o gymeriad Bud Fox (Charlie Sheen) yn y Wall Street gwreiddiol, a'r actores o dras Gymreig sy'n chwarae merch Gekko, Carey Mulligan.

Cafodd yr actores a enwebwyd am Oscar am ei pherfformiad yn An Education y llynedd ei chastio mewn rhan cwbl ddiddim yma ac, afraid dweud, dyw hi ddim yn gadael yr un argraff ar gynulleidfa.

Wedi dweud hynny, go brin iddo fod yn brofiad cwbl ddiwerth gan ei bod hi a LaBeouf yn canlyn yn selog ers cwblhau'r ffilm.

A minnau ar ganol darllen y nofel afaelgar Never Let Me Go gan Kazuo Ishiguro dwi'n edrych ymlaen yn arw i weld Carey y Gymraes yn chwarae yn erbyn Keira Knightley yn yr addasiad ffilm fydd allan cyn bo hir.

Mae ei pherfformiad fel y Kathy enigmatig eisoes wedi ennill clod y beirniaid yn yr Unol Daleithiau gan annog rhai i ddyfarnu na fydd hi'n hir cyn enwebiad arall.

Yn y cyfamser, os ydych chi'n chwilio am ymateb sinematig i'r argyfwng rhyngwladol presennol peidiwch ag oedi rhag hurio copi DVD o'r clasur gwreiddiol enillodd wobrau lu.

Ond os da chi'n dymuno aros ar ddihun, osgowch Wall Street: Money Never Sleeps ar bob cyfri.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.