成人快手

The Ugly Truth

Rhan o boster y ffilm

15Dwy seren

  • Y S锚r:; Katherine Heigl, Gerard Butler.
  • Cyfarwyddo: Robert Luketic.
  • Sgwennu: Nicole Eastman, Karen McCullagh Lutz, Kirsten Smith.
  • Hyd: 101 munud

Rhyfel y rhywiau yn haeddu gwell na hyn

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Mae gen i broblem fawr gyda Katherine Heigl - seren rom-com ddiweddaraf haf 2009, The Ugly Truth.

Mae'n amlwg fod gan yr actores safonau, ac yn fodlon dweud ei dweud mewn cyfres o gyfweliadau cylchgrawn am y diffyg enbyd o rannau safonol i ferched yn Hollywood.

Yn edifer

Os gofiwch chi, dyma'r actores ddywedodd ei bod yn difaru'i henaid iddi gymryd rhan yn Knocked-Up - cynhyrchiad hynod lwyddiannus wnaeth sefydlu genre newydd y "bromantic comedy" - am i'r ffilm bortreadu merched fel cecrennod cwbl di-hiwmor.

Yna, yn gynharach eleni, gwrthododd Heigl dderbyn enwebiad Emmy yng nghategori'r Actores Orau am ei gwaith ar y gyfres deledu boblogaidd Grey's Anatomy am nad oedd y sgriptiau yn rhai digon da, meddai!

Mae'r math yma o onestrwydd cyhoeddus yn anghyffredin tu hwnt ac un ai'n arwydd o chwaeth a dewrder dihafal neu o ffolineb llwyr.

Ar sail ei phenderfyniad i dderbyn nid yn unig y brif ran yn The Ugly Truth ond hefyd ei chynhyrchu alla i ond dod i'r casgliad ei bod yn honco bost!

Y stori

Cyn imi gael harten wrth barhau i fytheirio gwell rhoi crynodeb o'r ffilm dan sylw.

Mae Abby Richter (Katherine Heigl) yn gynhyrchydd ar raglen deledu foreol yn ninas Sacramento lle mae'n llwyddo bob dydd i oresgyn problemau o bob math - egos ei chyflwynwyr, a phwysau oddi fry am ffigurau gwylio gwell - ond yn dychwelyd fin nos i'w chartref unig at ei chath, ei llyfrau self-help, a'i bag gwau.

Druan fach 芒 hi!

Mae'r ferch drawiadol a deallus hon dan bwysau cymdeithasol i ffeindio'r Un ac yn amlwg mor niwrotig, heb ronyn o hunan weledigaeth yn perthyn iddi, nad yw hi'n deall bod datguddio rhestr o gwestiynau wedi'u paratoi o flaen llaw er mwyn medru cyfathrebu 芒'i d锚t am y noson yn golygu dychwelyd yn waglaw i'w chartre unig, at ei chath, y llyfrau self-help, a'i bag gwau. O diar, diar, mi. Sut ar wyneb daear mae datrys y sefyllfa enbydus hon?

Wel, rhowch gymeradwyaeth wresog i Mike Chadway, cyflwynydd y rhaglen deledu hwyr-y-nos The Ugly Truth, sy'n rhannu'r gwir plaen am sut mae bachu dyn, a llwyddo i gadw ei ddiddordeb parhaol.

Diolch yn bennaf i'w arddull gignoeth o rannu cynghorion, mae Mike yn ennill slot ar y rhaglen foreol ac yn llwyddo i ennyn atgasedd ei gynhyrchydd newydd am wrth-ddweud popeth sy'n daer iddi.

Diolch i synnwyr sgi-wiff Hollywood, daw'r ddau yma i gyfaddawd yn go gyflym; os llwydda Abby i ddenu sylw'i chymydog golygus wrth ddilyn y cynghorion o oes yr arth a'r blaidd, fe gytuna Mike i ddychwelyd i'w ogof hwyr-y-nos. Tybed beth fydd canlyniad yr arbrawf anobeithiol?

Diweddglo anochel

Nawr cyn i mi'ch siomi chi'n llwyr wrth ddatgelu diweddglo anochel y join-the-dots-fest dan sylw, fe hoffwn i bwysleisio bod fflachiadau digon llachar i'w canfod yn The Ugly Truth.

Mae iddi elfennau cwyrci, os nad cwbl wreiddiol, fel perfformiadau John Michael Higgins (For Your Consideration) a Cheryl Hines (Curb Your Enthusiasm) fel Richard a Judy y rhaglen deledu foreol.

Mae hefyd yn braf gweld yr actor o'r Alban, Gerard Butler, yn mynd amdani go iawn fel y cynghorydd o Oes y Cerrig, ac yn chwarae'r "G锚m" gyda gw锚n lydan.

Yr hyn sydd yn drueni yw bod rhaid cyflwyno'i nai wyth oed i sicrhau aelodau apoplectig y gynulleidfa fod na Beta-Boy o fewn yr Alpha-Male.

Eiliadau doniolaf

A serch popeth, dydy Katherine Heigl ddim yn gwbl annioddefol fel y newyddiadurwraig niwrotig- yn wir, mae hi'n amlwg ar ei gorau pan yn cael hwyl am ben ei chymeriad ystrydebol - ond piti mawr i'r ffilm ddwyn eiliadau doniolaf When Harry Met Sally am yr eilfen o slapstic, sydd yma'n ymylu ar smyt.

Yr hyn sydd fwyaf siomedig am y ffilm hon yw pa mor fisoginistaidd yw hi a hynny dan gochl "hiwmor benywaidd blaengar".

Does na ddim byd clyfar gadael i'r ferch regi mwy na'r dyn ac mae'n ofid mawr nodi mai tair merch sydd yn gyfrifol am y sgript.

Mae fel petai'r tair yn nodi llwyddiant ysgubol brom-coms fel Knocked-Up a The Hangover - sydd, yn eu hanfod, yn ffilmiau syml sy'n cynnwys gwirioneddau brawdgarol - a cheisio'u croesbeillio 芒 fformiwla wirioneddol wenwynig He's Just Not That Into You.

Yn fy marn i, oni bai bod y sgript yn dangos parch at y ddau gymeriad, does dim pwrpas ceisio ail sgwennu rheolau fformiwla gyfarwydd y "Battle of the Sexes".

Efallai'n wir, fod dynion o'r blaned Mawrth - a merched o Wener - ond yn sylfaenol, mae cynulleidfaoedd sinema 芒'u traed yn sownd ar y ddaear, a'r gwir plaen yw ein bod yn haeddu llawer gwell ffilm na The Ugly Truth.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.