成人快手

Salt

Salt

23 Awst 2010

12Tair seren allan o bump

  • Y S锚r: Angelina Jolie, Liev Schreiber.
  • Cyfarwyddo: Philip Noyce.
  • Sgrifennu: Kurt Wimmer.
  • Hyd: 98 munud

Jolie yn joio - ond beth amdanom ni?

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Pan gyhoeddwyd enw seren y ffilm Salt y llynedd, synnwyd nifer gan y newyddion mai Angelina Jolie fyddai'n chwarae'r brif ran, gan mai Edwin Salt oedd enw gwreiddiol y cymeriad - a fwriadwyd fel 'cerbyd' newydd i Tom Cruise.

Ond pan benderfynodd Cruise fod 'rhen Edwin dwts yn debyg i Ethan Hunt - ei gymeriad yng y gyfres Mission Impossible - awgrymwyd efallai y byddai'r antur arfaethedig am ysb茂wr ysblennydd ar ei hennill o gael merch yn y brif ran, felly newidiwyd yr enw i Evelyn, ac mae'r gweddill yn hanes.

Petai'r cymeriad wedi parhau'n wryw does dim amheuaeth gen i y byddai'r ffilm hon wedi ymuno 芒 sawl saga sb茂o gyffredin arall, gan gynnwys cyfres Jack Ryan (Patriot Games, Clear and Present Danger) a The Saint - oll gan yr un cyfarwyddwr 芒 Salt, Philip Noyce.

Ac er nad ydy Salt yn cystadlu gyda Casino Royale - y Bond gorau ers tro - a thrioleg Bourne am yr hi-octane thrills 'n spills, rhaid dweud i'r penderfyniad o droi Salt yn ferch ychwanegu bach o ffresni i stori gor gyfarwydd.

Arteithio

Cyfarfyddwn 芒 Salt gyntaf pan yw'r ysb茂wraig yn cael ei harteithio mewn carchar yng Ngogledd Corea, cyn cael ei rhyddhau mewn cyfnewid ag ysb茂wr arall diolch i ymdrechion ei phartner yn y CIA, Ted Winter (Liev Schreiber) a'i g诺r Almaenig, Mike Krause (August Diehl).

Dwy flynedd yn ddiweddarach, 'r么l sefydlu bod Salt ymhlith ysbiwyr disgleiriaf yr asiantaeth gudd, caiff Evelyn gyfle i ymarfer ei dawn pan ddaw enciliwr o Rwsia i'r swyddfa yn Washington DC i gyfaddef ei fod yn rhan o gynllun hir dymor i ddienyddio Arlywydd yr Unol Daleithiau a chychwyn Rhyfel Oer newydd, gan enwi Eveleyn Salt fel yr asiant cudd a ddewiswyd ar gyfer y dasg.

Ffoi am ei bywyd

Yn dilyn y datguddiad annisgwyl mae Salt yn ffoi am ei bywyd ac arwain ei chydweithwyr ar helfa hwyliog, gan fynnu ei bod hi'n gwbl ddiniwed.
Ond ai dyna'r gwir?

Rhaid dweud; wrth i'r ffrwydradau gychwyn a'r helfa'n nesau at y targed niwclear bod y naratif yn mynd ar gyfeiliorn braidd gyda mwy o dyllau na chosyn o gaws Emmental.

Ond wrth i bob cwestiwn ein taro, daw ffrwydrad arall i'n difyrru - a naid amhosib o uchel i'n syfrdanu gan greu enghraifft berffaith o popcorn flick hawdd i'w gwylio ac sy'n diddanu gyda'i nonsens apocalyptaidd am ychydig dros awr a hanner.

Yn sicr, mae'n ticio mwy o focsys nag a wnaeth Knight and Day gydag Edwin Salt ei hun, Tom Cruise, bythefnos yn 么l, gan ein gadael 芒 diweddglo agored sy'n addo rhagor o'r un peth.

Hawdd gwylio

Er ei bod yn hawdd iawn gwylio Jolie yn joio mae'n amhosib anghofio mai Angelina sydd wrthi ac nid yr Evelyn annelwig - cymeriad sy ddim cweit yn taro deuddeg, serch ei llygaid dur a'i phowtio penderfynol.

Os am antur go iawn yng nghwmni haden a hanner, gwell fyddai aros am rhyw fis nes y daw The Girl Who Played With Fire i danio'r dychymyg - dilyniant The Girl With the Dragon Tattoo gyda'r kick-ass queen ei hun, Lisabeth Salander.
Cymeriad gymhleth, gredadwy, sy'n arwres gwerth ei halen.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.