成人快手

Harry Potter, Deathly Hallows 2

Bwthyn cregyn

21 Gorffennaf 2011

12Tair seren allan o bump

  • Y S锚r: Daniel Radcliffe, Emma Watson, Rupert Grint, Ralph Fiennes, Alan Rickman, Helena Bonham-Carter, Michael Gambon, Robbie Coltrane, David Thewlis, Julie Walters a Maggie Smith.
  • Cyfarwyddo: David Yates.
  • Sgrifennu: Steve Kloves.
  • Hyd: 130 munud

Hud traeth Cymreig yn hudo

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Wedi degawd o hud a lledrith, cyrhaeddodd Harri'r Crochenydd ei gyrchfan o'r diwedd a chyda hynny daeth diwedd i'r dewin bach, a'r saga fwyaf llwyddiannus yn hanes y sinema.

Pedwar biliwn o bunnau - dyna'r cyfanswm rhyngwladol a enillodd saith ffilm gynta'r gyfres a gyflwynodd y triawd mwyaf eiconig ers y Brodyr Marx i fyd y ffilm, heb s么n am yr enillion anferthol a lifodd i'r coffrau dros y penwythnos pan agorodd rhifyn ola'r gyfres, Harry Potter and The Deathly Hallows; Rhan Dau.

Mae'n debyg i Gymru hefyd elwa o'r fath gyfoeth trwy ddenu 30,000 yn ychwanegol o ymwelwyr i draeth Freshwater West yn Sir Benfro y llynedd, ar 么l cael ei weld ar ddiwedd y ffilm ddwetha.

Traeth Cymreig yn hudo

Cipolwg digon sydyn gawson ni yr adeg honno o'r traeth mawr a hynny ar achlysur marwolaeth cymeriad annwyl iawn, Dobby.

Dwi'n falch o gael dweud y caiff y traeth godidog a'r cartre o gregyn - a adeiladwyd yn 么l canllawiau amgylcheddol llym, er parch am y twyni tywod - dipyn mwy o sylw ar ddechrau'r ffilm hon.

Hyd y gwela i, y gornel orllewinol hon o Gymru oedd yr unig leoliad i gynrychioli lloches braf - ag iddi dywydd ffafriol - ar hyd y saga sinistr.

Yn sicr, dyma'r unig le na chafodd Arglwydd tywyll Voldermort (Ralph Fiennes) na'i Death Eaters ffyddlon gyfle i darfu ar gynlluniau Harry a'r criw i'w drechu am byth.

Mater o ddeall

I'r rheiny ohonoch sy'n daer i'r dewin, mater bach iawn - digon dibwys yn wir - yw egluro sut y cyrhaeddodd Harry, Hermione a Ron yr hafan deg hon cyn dechrau ar eu hantur olaf i ganfod y gwrthrychau hud wnaiff eu harwain at Voldermort.

Ond i eraill, does dim gobaith o ddeall y cyd-destun, gan mai ffilm-i'r-ffans, a'r ffans yn unig, yw hon a diolch i bedwar biliwn o bunnau does dim tamaid o ots gan y cynhyrchwyr am y gweddill di-glem.

Dywedais, yn fy adolygiad o'r ffilm ddiwethaf, i newydd ddyfodwraig fel fi syrffedu braidd ar absenoldeb confensiynau mor amlwg a Dechrau a Diwedd ac i'r ffilm ddryslyd honno gynrychioli un Canol hirfaith - ond mae'n deg dweud fod y ffilm olaf yn defnyddio pob techneg bosib i'n hatgoffa ni mai dyma'r Diweddglo ac nad oes dim troi'n 么l.

Cerddoriaeth ddramatig, golygfeydd epig, 么l fflachiadau emosiynol, achubiaeth arch elyn, marwoaleth enbydus ac atgyfodiad gwyrthiol - heb s么n am goda bach ciwt sy'n cyfeirio at ddyfodol disglair: dim rhyfedd i blant heddiw dyrru yn eu miloedd i brofi'r hanesion pseudo-grefyddol llawn enwau hynod.

Wedi'r cyfan, mae sesiwn mewn sinema gyda bocs mawr o bopcorn yn dipyn mwy deniadol na dwywar ar fainc mewn Ysgol Sul.

Canmol Rickman

I fod yn deg 芒 ffilm sydd yn orboblog o wrachod a chorachod mae'r stori sylfaenol yn ddigon amlwg. Rhaid i'r Da drechu'r Drwg, a darganfyddwn bod calon yn perthyn i un o'r gelynion gwaetha ac yn hynny o beth rhaid canmol Alan Rickman am berfformiad llawn pathos fel y bwli o brifathro fu'n cas谩u Harry Potter tan y troad dadlennol tua terfyn y ffilm.

Mae digon o elfennau eraill gwerth eu canmol - gan gynnwys y gerddoriaeth gyffrous a chynllunio celfyddydol o'r radd flaena, fu'n hollbresennol ar hyd y gyfres.

Ond mae'n bechod nad oes modd i gynhyrchiad fel hwn sefyll ar ei ben ei hun, a'i fod - yn anochel - ynghlwm am byth 芒'i saith rhagflaenydd.

Cyfres, yn wir, o ugain awr ar ei hyd.

Yn y byd box-set sydd ohoni, mae'n debyg nad yw hynny'n broblem i rai ond o gofio bod modd mwynhau dilyniannau fel The Godfather 2, Toy Story 3 a hyd yn oed Saw 4 - yn gwbl annibynnol 芒'i gilydd, heb orfod cyfeirio'n gyntaf at y ffynonellau gwreiddiol, mae rhywbeth yn dweud wrtha i nad Harry Potter and the Deathly Hallows: Rhan 2 fydd fy newis cyntaf i ar b'nawn Sul glawiog, a finne ffansi ffilm.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.