成人快手

Moon (2009)

Rhan o boster Moon

15Pedair   seren

  • Y S锚r: Sam Rockwell, Kevin Spacey.
  • Cyfarwyddo: Duncan Jones.
  • Sgwennu: Duncan Jones a Nathan Parker.
  • Hyd: 97 munud

Dyn - a'i draed ar y lleuad

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Ers i Neil Armstrong a Buzz Aldrin gamu ar wyneb y Lleuad union ddeugain mlynedd yn 么l mae'r delweddau du a gwyn o'r glaniad hwnnw wedi bwydo dychymyg plant o bob oed wrth iddynt ystyried y posibilrwydd o gael teithio yno eu hunain.

Ymhlith y plant hynny a gyfareddwyd gan y syniad o deithio i'r lleuad yr oedd Duncan Jones, mab y 'seren' David Bowie ac ar 么l gwirioni ar ddehongliadau cyfarwyddwyr fel Ridley Scott a Stanley Kubrick o deithio'r gofod, dechreuodd Jones holi pam y byddai unigolyn eisiau mynd i le mor anial yn y lle cyntaf.

Lluniodd stori am berson o'r fath a chynhyrchu ffilm ddynol iawn amdano.

Mwyngloddio ar y lleuad

Mae'r ffilm honno, Moon, yn dechrau gyda hysbyseb cwmni Lunar Industries yn egluro'u prosiect mwyngloddio Helium 3 o ar wyneb y lleuad - prif ffynhonnell ynni'r Ddaear yn y dyfodol agos.

Yn fuan wedyn cyfarfyddwn Sam Bell (Sam Rockwell) - unig weinyddwr y prosiect ar y lleuad - ynghyd 芒'i gydweithiwr robotaidd, Gerty (llais Kevin Spacey).

Dim ond pythefnos sy'n weddill o gytundeb tair blynedd Sam ac fel y cyfaddefai mewn fideo emosiynol i'r cwmni, bu tair blynedd o arolygu'r peiriannau cynaeafu yn amser maith a hynod unig - yn enwedig pan fo ganddo wraig a merch fach deirblwydd oed yn aros amdano ar y ddaear.

Gweld pethau

Wrth iddo baratoi i ddychwelyd adref, dechreua Sam weld delweddau rhyfedd sy'n ei anesmwytho ac yn dilyn damwain gas, mae'n dechrau amau nad yw ar ben ei hun.

Ymhen dim, darganfyddwn fod hynny'n wir.

Heb ddatgelu rhagor o'r hanes, hoffwn eich sicrhau nad rhifyn arall o saga Aliens Ridley Scott yw Moon, nac ychwaith astudiaeth bellach i rymoedd seicolegol Solaris Steven Soderbergh.

Yn wir, nid gallu annaearol yw bwgan mawr y ffilm wyddonias hon, ond buddianau cyfalafol dynol ryw.

Mae'r datguddiad mawr yn un gwirioneddol ddychrynllyd a'r benbleth sy'n rhaid i Sam ei hwynebu bron y tu hwnt i ddirnadaeth.

Ond mae'n cynrychioli tro yn y gynffon sydd yn siwtio ffilm wyddonias hynod ddynol i'r dim.

Ar ei ben ei hun

Rhaid canmol yr actor Sam Rockwell am gynnal y ffilm gyfan ar ei ben ei hun.

Dyma actor hoffus iawn sydd wedi creu argraff mewn nifer o ffilmiau diweddar fel Frost/Nixon a Choke, a dim rhyfedd i Duncan Jones ysgrifennu'r rhan ar ei gyfer, gan ei fod yn medru symud o'r cwyrci i'r dirdynnol ar amrantiad.

Roedd Kevin Spacey hefyd yn ddewis da fel llais Gerty, y peiriant hollwybodus sydd yn ddolen gyswllt rhwng Sam a'r cwmni - cymeriad sy'n gyfuniad amwys o ffrind pennaf a Brawd Mawr sinistr gan ddwyn cyfaill cyfrifiadurol eiconig arall i gof, Hal yn 2001; A Space Odyssey, ond cam gwag fyddai cymharu'n ormodol Moon 芒 a ffilmiau gwyddonias eraill gan fod yma stori unigryw sydd, yn ei hanfod, yn dweud mwy am y natur ddynol nag yw am natur ein bydysawd.

O gofio i'r ffilm gael ei chynhyrchu am lai na 拢3miliwn a hepgor yr effeithiau arbennig hynny sydd yn anorfod yn y diwydiant bellach, mae hi'n edrych yn wych, ac yn cyfleu bywyd clinigol arolygwr y diwydiant moon-gloddio i'r dim!

Gwyddoniaeth go iawn

Ac mae'r ffaith fod y ffilm yn seiliedig ar wyddoniaeth go iawn, a hygrededd yn perthyn i'r posibilrwydd o fewnforio Helium 3 o'r lleuad i'n planed yn ychwanegu haenen arall o gravitas i ddameg zero-gravity Duncan Jones - neu Zowie Bowie gynt.

Anghofiwch unrhyw gyfeiriadau gwawdlyd at ei enw bedydd lloerig, a'r awgrym y byddai cydweithio 芒 Moon-Unit Zappa yn fenter werth chweil iddo yn y dyfodol - mae na ddwy ffilm arall ar y gweill i gwblhau trioleg - a gwych o beth yw hynny.

Yn sicr, mae Moon yn brawf pendant nad Ziggy Stardust yw unig dalent y teulu hwn!


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.