- Y S锚r: Ben Stiller, Rhys Ifans, Greta Gerwig, Jennifer Jason Leigh.
- Cyfarwyddo: Noah Baumbach.
- Sgrifennu: Noah Baumbach.
- Hyd: 106 munud
Rhys Ifans yn ei lais ei hun
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Dros y degawd dwetha daeth Los Angeles yn lleoliad sydd bellach yn cystadlu ag Efrog Newydd fel cefnlen sinematig i'r Argyfwng Gwacter Ystyr.
Yn wir, wrth i Woody Allen geisio'n ofer drawsblannu'i niwrotics NY i Ewrop , llwyddodd cenhedlaeth newydd o gyfarwyddwr fel Spike Jonze, Paul Thomas Anderson a Nicole Holofcener archwilio ennui enbyd ambell enaid yn LA , gan gyflwyno sawl ffilm annisgwyl o dda sy'n cynnwys Magnolia, Friends with Money a 500 Days of Summer.
Safbwynt gwahanol
Gellid ychwanegu Greenberg y rhestr o gynyrchiadau sy'n cyflwyno safbwynt gwahanol ar rai o Angylion y ddinas, wrth i ni ddechrau trwy brofi panorama trawiadol o'r metropolis trwy drwch o fwrllwch; golygfa sy'n adlewyrchu st芒d meddyliol y gwrth-arwr swrth, Roger Greenberg (Ben Stiller), sy'n dychwelyd i ddinas ei febyd i ofalu am gartre'i frawd a'i deulu tra'u bod nhw ar wyliau yn Vietnam.
Deallwn o'r cychwyn cynta fod Roger ar fin troi'n ddeugain ac wedi bod y byw yn Efrog Newydd ers iddo adael band roc cyn iddynt arwyddo cytundeb mawr yn ei ugeiniau cynar. Down i ddeall hefyd ei fod newydd adael ysbyty meddwl yn dilyn pwl difrifol o iselder.
Daw n么l i ddinas sy'n gwbl ddieithr iddo; ei ffrindiau i gyd wedi setlo a chael plant ac, yn waeth byth yn LA, does ganddo ddim trwydded yrru na gronnyn o uchelgais.
Yn wir, ei brif fwriad yn ystod ei arhosiad yw gwneud cyn lleied 芒 phosib ac eithrio danfon pentwr o lythyrau cwyn i gyfres o gorfforaethau a chwblhau cwt i'r ci.
Ond cyn pen dim daw eraill i darfu ar ei encil wirfoddol, gan gynnwys ei ffrind gorau a chyn aelod o'r band, Ivan Schenk (Rhys Ifans), a Florence (Greta Gerwig) - cynorthwydd chwit-chwat ei frawd; dau enaid annwyl sy'n profi geiriau chwyrn a gyrru sedd-gefn Greenberg o'r cychwyn cynta.
Mam sengl
Yn wir, yr unig un sy'n dianc rhag beirniaaeth lem y dyngas芒wr yw ei gyn-gariad Beth (Jennifer Jason Leigh); mam sengl syth 芒 brith gof yn unig o'r hyn y mae Grennberg yn dal i'w hystyried yn rhamant fawr ei fywyd.
Mae hynny'n dweud cyfrolau am agwedd gyffredinol Roger at ai fodolaeth; tra bo eraill o'i amgylch wedi llwyddo i sumud 'mlaen o fympwyon eu hieuenctid. Mae e'n sownd yn ei arddegau, yn mynnu gwrando ar hen gerddoriaeth, yn dilorni ei ffrindiau am dyfu fyny ac yn gwrthod yn l芒n 芒 derbyn cyfrifoldeb am gamgymeriadau gyrfaol a charwriaethol.
Nawr, cyn ichi ddechau meddwl fod hynny'n ddisgrifiad da o ffordd-o-fyw pob dyn ifanc a'i fod yn cynrhychioli protest ddewr yn erbyn dilyn y dorf, mae'n werth pwyselisio bod Greenberg yn gymeriad sy'n ymylu ar yr obsesiynol ac, ar ei waethaf, yn niwsans nawddoglyd sy ddim y haeddu cystal ffrindiau - yn arbennig sylw serchus merch mor hyfryd 芒 Florence.
Ond er yn zonked ar Zoloft, daw Greenberg i ddeall fod hyd yn oed y Florence annwyl yn fwy bregus nag ef a rhaid iddo wynebu sawl gwirionedd pan gaiff yr Ivan ufudd lond bol ar ei strancio solipsistaidd.
Oes na unrhyw obaith i greadur fel Greenberg tybed?
Ymhell o fod yn hoffus
Mae'r cymeriad dan sylw yn cynrhychioli fersiwn llawer mwy amrwd o'r niwrotig rhwystredig y mae Ben Stiller wedi dod yn arbenigwr arno ers There's Smething About Mary ym 1998. Mae ymhell o fod yn hoffus ond llwydda'r actor i gyflwyno haenen dda o bathos i'w bortread o ddyn a ddrylliwyd gan ei ddisgwyliadau ei hun.
Yn yr un modd, mae Florence ymhlith y creadigaethau benywaidd mwyaf credadwy i mi ei gweld yn y sinema ers tro - camp, yn wir, o ystyried mai dyn a'i sgwennodd hi, ond yn deyrnged hefyd i'r actores gwyrci, Greta Gerwig , sy'n sicr yn enw i'w gofio ar gyfer y dyfodol.
Ac mae'n wych gweld Rhys Ifans y disgleirio mewn rhan gynorthwyol sy ddim yn gofyn iddo chwarae twpsyn neu wallgofddyn llwyr ond cymeriad addfwyn ac aeddfed sydd wedi delio 芒 siomedigaethau'r gorffennol.
Ei acen ei hun
Mae'n ddifyr nodi mai Ifans sydd 芒'r fraint o rannu prif neges optimistaidd y cynhyrchiad hoffus hwn, sef y pleser rhyfeddol sydd i gael wrth dderbyn a dathlu'r bywyd nas cynlluniwyd.
Mae'r ffaith i'r actor gael datgan hynny yn ei acen naturiol ei hun yn brawf pendant ei fod wedi cyrraedd pwynt diddorol yn ei yrfa ac edrychaf ymlaen gweld sut dderbyniad gaiff ei fenter nesaf - Mr Nice - yng Ngwyl Ffilm Caeredin ymhen pythefnos.