成人快手

Looking for Eric (2009)

Golygfa o'r ffilm

15Pedair seren

  • Y S锚r: Steve Evets, Stephanie Bishop, John Henshaw ac Eric Cantona.
  • Cyfarwyddo: Ken Loach.
  • Sgwennu: Paul Laverty.
  • Hyd: 116 munud

'Nid actor - ond Cantona'

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Mae cynhyrchiad diweddara'r cyfarwyddwr Ken Loach yn dilyn hanes postmon o Fanceinion sy'n derbyn cynghorion bywyd gan ei arwr mawr, Eric Cantona.

Cawn ein cyflwyno i Eric Bishop (Steve Evets) - y postmon dan sylw- eiliadau'n unig cyn iddo gael damwain car ar 么l gweld Lily (Stephanie Bishop), y wraig wnaeth o ei gadael yn gwbl ddisymwth ddeng mlynedd ar hugain ynghynt.

Yn dilyn breakdown llwyr, mae'n dychwelyd i'r cartref mae'n ei rannu gyda'i ddau lysfab da-i-ddim, gan geisio dygymod 芒 realiti bob dydd yn y swyddfa bost.

Ceisia'i gydweithwyr wneud popeth i'w helpu; dweud j么cs a chynnal sesiynau trafod gan ddilyn canllawiau Paul McKenna - ond ymddengys mai'r unig beth sy'n llwyddo i'w godi o'i iselder dwys yw cyfres o "ymddangosiadau" gan Eric Cantona yn ei stafell wely, diolch i fwg drwg y meibion.

Wynebu'r dyfodol

Dros yr wythnosau nesaf, datblyga Cantona yn gyfuniad o guru, hyfforddwr ffitrwydd ac athronydd ar l么g, gan fod o gymorth i'r dyn cyffredin wrth iddo orfod derbyn camgymeriadau'r gorffennol a wynebu penderfyniadau mawrion ar gyfer y dyfodol.

Daw Eric hefyd i ddeall bod teulu a ffrindiau yn hollbwysig wrth geisio darganfod ei hun unwaith eto.

Rhaid dweud imi gael fy hudo'n llwyr gan y ffilm hyfryd hon, diolch i berfformiadau naturiolaidd y cast Prydeinig, a phresenoldeb trydanol y seren o Ffrainc.

Ar y naill law, dyma deyrnged sinematig i un o b锚l-droedwyr mwyaf talentog - a dadleuol- y Nawdegau, gan fod yma doreth o archif o g么liau gorau Cantona dros Gochion Manceinion, ynghyd 芒 llwyfan amlwg i'w "ddoethinebau".

Ond mae Looking For Eric yn deyrnged i gefnogwyr go iawn y g锚m sydd wedi profi chwyldro corfforaethol ers i Cantona adael y cae chwarae i ganolbwyntio ar waith actio, gydag Eric Bishop a'i ffrindiau yn enghreifftiau o ddilynwyr sy'n methu fforddio mynd i weld gemau'r t卯m sy'n hawlio'u teyrngarwch.

Mae'n ddifyr nodi mai Cantona ei hun gynigodd y syniad am y ffilm i'r cyfarwyddwr Ken Loach, sydd fwyaf adnabyddus am ei ffilmiau realaeth cymdeithasol fel Kes (1969), a Raining Stones (1993).

Tynnu coes

Ond serch ei statws fel actor ac uwch gynhyrchydd gyda'r ffilm hon, mae'r Ffrancwr yn amlwg yn berffaith hapus i'r cynhyrchiad dynnu coes am ei ddelwedd - a'i ddywediadau - ac, os rhywbeth, canlyniad y dychanu ysgafn hwn yw dyrchafu ymhellach ei statws fel "flawed genius".

"I am not a man. . . I am Cantona," yw un o linellau mwyaf cofiadwy y cynhyrchiad, ond y w锚n gyfrwys ar wyneb y Ffrancwr sy'n dilyn hynny sydd yn achub y ffilm rhag syrthio i'r fagl o fod yn ego-trip.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.