成人快手

Going the Distance

Dau mewn cariad

16 Medi 2010

15Pedair seren allan o bump

  • Y S锚r: Drew Barrymore, Justin Long, Christina Applegate, Justin Sudeikis, Charlie Day.
  • Cyfarwyddo: Nanette Burstein.
  • Sgrifennu: Geoff LaTulippe.
  • Hyd: 102 munud

Caru o bell

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Dylai fod gan yr Eisteddfod Genedlaethol gywilydd! Pa sefydliad Cymraeg arall sy'n torri cymaint o galonnau'n flynyddol?

Dwi ddim yn s么n am yr aflwyddiannau ar lwyfan ond am statws answyddogol y Steddfod fel asiantaeth ddetio genedlaethol sy'n cyflwyno Gogs i Hwntws a Hwntws i Gogs a'u hannog i ymgymryd a'r daith reolaidd honno i fyny - neu lawr - yr A470 i weld all y berthynas barhau.

Si诺r iawn, mae'r misoedd cynta'n f锚l i gyd wrth i ramant flaguro diolch i'r sgyrsiau ff么n tan y bore bach, a'r penwythnosau prin ond perffaith hynny tra'n treulio pob munud yng nghwmni'i gilydd.

Ond buan iawn y daw arwydd pentre Clatter i droi ar y rhamantwyr rhonc a gorfodi'r cwestiwn, Pwy sydd am symud yn barhaol i sicrhau fod y berthynas yn parhau?

Mae na ffilm yna'n rhywle! A thra'n aros am y Road-Movie Cymraeg hwnnw mae Going The Distance yn fersiwn Americanaidd o'r union sefyllfa honno - gyda Drew Barrymore a Justin Long?

Dau'n cyfarfod

Mae Drew yn chwarae Erin, myfyrwraig h欧n yn ei thridegau cynnar sydd ar brofiad gwaith dros yr haf gyda phapur newydd The New York Sentinel, sy'n cwrdd 芒 hyrwyddwr recordiau o'r enw Garrett (Justin Long) ar noson allan yn y ddinas. Dydy'r un o'r ddau yn chwilio am berthynas; yn un peth, mae Erin yn bwriadu dychwelyd i San Francisco ymhen y mis ar gyfer ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Stanford ac mae Garrett newydd orffen 芒'i gariad, felly mae'r ddau'n cytuno i gael haf bach hamddenol o ddod i nabod ei gilydd yn well.

Wrth gwrs, erbyn i fis Medi a'r daith i faes awyr JFK gyrraedd, sylweddola'r ddau eu bod nhw wedi syrthio'n galed am ei gilydd ac fe benderfynan nhw weld os gall y berthynas barhau.

Diolch i dechnoleg fodern, llwyddant i gynnal y rhamant a datblygu cyfeillgarwch trwy gyfathrebu'n ddyddiol a thecst, Skype, a ff么n - ond cyn hir daw'r gwahaniaeth amser, a'r pellter o ddwy fil a hanner o filltiroedd i daflu d诺r oer ar yr egin garwriaeth.

Y cwestiwn mawr yw, pa un sy'n fodlon symud yn barhaol at y llall?

Ffresni a gwirionedd

O ddarllen yr amlinelliad uchod, gellid dychmygu fod Going The Distance yn Rom-Com gonfensiynol iawn ond diolch i'r penderfyniad i archwilio realiti'r berthynas dan sylw ceir ffresni a gwirionedd sy'n gwbl absennol yn y stori dylwyth teg arferol.

Yn wahanol i un o ffilmiau Kate Hudson neu Jennifer Aniston, mae Drew Barrymore yn chwarae merch go iawn sydd ar ei h么l hi braidd mewn bywyd diolch i ambell ramant go gymhleth ac sy'n gweithio mewn swydd gredadwy heb y cyllid di-ddiwedd i sicrhau ei bod y edrych yn berffaith bob tro.

Mae Garrett, wedyn, yn 'gomitmentff么b' hoffus sy' heb gwrdd 芒'r ferch iawn ac syn cas谩u ei swydd.

Mae'r golygfeydd cynharaf pan glustfeiniwn ar dd锚t neu ddau yn gwbl gredadwy ac mae'r eiliadau o emosiwn a geir wrth i deimladau'r ddau ddwysau yn annisgwyl o amrwd, sy'n gwneud ichi falio'n go iawn am y cymeriadau ffuglennol hyn.

Cymeriadau eraill

Bonws annisgwyl arall yw fod hon yn ffilm sy'n dangos yr un parch at y cymeriadau cynorthwyol sy'n golygu bod pob golygfa gyda theulu chwaer Erin, Corrine (Christina Applegate), a ffrindiau pennaf Garrett - Box (Jason Sudeikis) a Dan ( Charlie Day) - yn ddoniol tu hwnt.

Cerddoriaeth

Os oes angen hwb pellach arnoch; mae iddi hefyd drac sain difyr sy'n cynnwys band newydd o'r enw The Boxer Rebellion gyda'i ran mewn is-stori dyngedfennol sy'n adleisio llwyddiannau cwyrci eraill fel 500 Days of Summer a Greenberg.

Yn sicr, chewch chi ddim trafferth llusgo neb i weld y date-movie ciwt a hynod c诺l yma.

Y cwestiwn mawr, wrth gwrs, i'r rhai hynny sy'n dal i fwynhau'r rhamant 么l eisteddfodol yw, Lle mae'r sinema agosaf i Clatter?


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.