成人快手

Centurion

Golygfa o Centurion

10 Mai 2010

15Pedair seren allan o bump

  • Y S锚r: Michael Fassbender, Dominic West, David Morrissey, Orla Kurylenko, Urlich Thomsen.
  • Cyfarwyddo: Chris Neil Marshall.
  • Sgrifennu: Neil Marshall.
  • Hyd: 97 munud

Fassbinder ar ei ganfed

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Os mai 2009 oedd blwyddyn y Bramant, ymddengys taw haf o hwyl hanesyddol sydd o'n blaenau, diolch i restr faith o ffilmiau antur ag iddynt gannoedd o gleddyfau a sawl sandal mewn rhannau blaenllaw.

Da ni eisoes wedi profi gwibdaith yn 么l i gyfnod y Duwiau Groegaidd yn Clash of the Titans, a'r mis hwn edrychwn mlaen i gyfarfod y Prince of Persia a Robin Hood.

Ond cyn hynny, mae Centurion yn cynnig awr a hanner ddifyr iawn yng nghwmni un o ryfelwyr ffyrnica' Rhufain wrth iddo frwydro yn erbyn gelynion penna'r Ymerodraeth - Pictiaid yr Hen Ogledd.

Cysgod Wal Hadrian

Os nad ydych chi'n rhy wybodus am hanes y Rhufeiniaid ym Mhrydain y tu hwnt i Gaernarfon neu Gaerllion byddai'n werth ichi weld y ffilm hon er mwyn deall sut y dechreuodd yr Ymerodraeth encilio o wledydd Prydain, oherwydd roedd diwylliant yr Albanwyr cynnar yn rhannol gyfrifol am hynny.

Magwyd y sgwennwr gyfarwyddwr Seisnig Neil Marshall yng nghysgod wal Hadrian, ac mae ei ffilm - sydd wedi ei gosod yn y flwyddyn 117 OC - yn cyfuno hanes go iawn y Nawfed Leng chwedlonol gydag ymryson dychmygol rhyngddyn nhw 芒 llwyth rhyfelgar o'r Pictiaid dan arweiniad craff y guerilla Gorlacon (Urlich Thomsen).

Y siom fwya' brofais i tra'n gwylio Centurion oedd sylweddoli'n gynnar iawn fod y ffilm yn dewis dyrchafu'r Rhufeiniaid fel arwyr ag iddynt acenion Saesneg, a'r Pictiaid fel gelynion cwbl anwaraidd.

Ond unwaith imi dderbyn mai gogwydd drefedigaethol sydd iddi, ymlaciais ddigon i fwynhau un o'r cynyrchiadau antur gore imi ei gweld ers tro byd.

Mae'r diolch am hynny yn bennaf i'r prif actor Michael Fassbender sydd yma'n chwarae rhan Quintus Dias, yr unig aelod o'i gatrawd Rufeinig i oroesi ymosodiad gan fyddin Gorlacon.

'R么l llwyddo i ddianc rhag y Pictiaid penderfynol, ymunai 芒'r Nawfed Leng dan arweiniad y Cadfridog Titus Virilus carismataidd (Dominic West, neu Ditectif McNulty i ffans The Wire), sy'n mynnu gorymdeithio i'r Gogledd yn wyneb pob perygl.

Eu bradychu

Yna, pan gaiff y Rhufeiniaid rhyfygus eu bradychu gan eu tracwraig eu hunain - merch fud o'r enw Etain (Orla Kurylenko, y Bond Girl yn Quantum of Solace) brofodd ddioddefaint enbyd yn blentyn - rhaid i'r chwe milwr sy'n goroesi'r gyflafan waedlyd ddilyn yr un tactegau 芒'u helwyr os ydynt am ddianc i'r de mewn un darn.

Ymhlith ei rhinweddau eraill, mae i'r ffilm hon hyd perffaith, sy'n cynnwys popeth sydd ei angen ar gynhyrchiad o'r fath; antur, adrenalin, actio cadarn, ambell linell gawslyd, a d么s da o ramant.

Mae'r golygfeydd ar faes y g芒d ymhlith y delweddau mwya gwaedlyd i mi eu gweld ers 300 ond, yn wahanol i'r epig am ryfelwyr Sparta, nid effeithiau digidol sy'n gyfrifol am hynny a rhaid canmol t卯m colur Centurion am eu dyfeisgarwch diflino!

Yn wir, mae'n braf iawn gweld ffilm antur sy'n rhestru mwy o berfformwyr styntiau nag o arbenigwyr effeithiau arbennig yn y credydau olaf.

Ac mae'n brafiach byth gweld merch gref mewn rhan mor allweddol. Rhwng yr Etain atyniadol a Lisabeth Salander yn The Girl With The Dragon Tattoo, mae 2010 hefyd wedi cynnig sawl arwres anghonfensiynol, a diolch byth am hynny.

Gwnaed Anistons a Bullocks y byd yma nodyn o hynny!

Chwa o awyr iach

Yn sylfaenol, dyma ffilm hanesyddol sy'n cynrychioli chwa o awyr iach. Does na ddim byd ofnadwy o wreiddiol am y stori ond mae'n braf gweld ucheldiroedd yr Alban ar y sgr卯n fawr ac os ydych yn dymuno bach mwy o sylwedd, ceir ymdrech deg i gymharu'r brwydro Ymerodraethol gyda'r gwrthryfela parhaol yn Irac ac Afghanistan.

Wedi dweud hyn oll, efallai mai'r prif reswm dros fynd i weld Centurion yw i weld yr actor Michael Fassbender wrth ei waith. Mae'r Gwyddel dwys o dras Almaenaidd wedi datblygu fel actor diddorol iawn, yn dilyn perfformiadau cofiadwy fel Bobby Sands yn Hunger, a'r Lefftenant Archie Hicox yn Inglourious Basterds.

Efallai na chafodd o'r un cyhoeddusrwydd 芒 Sam Worthington yn Clash of the Titans ond does dim dwywaith bod Fassbender yn meddu ar dipyn mwy o dalent na'r Awstraliad prennaidd ac edrychaf ymlaen yn fawr at weld be sy ganddo i'w gynnig nesa.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.