Roedd pennaeth y Gynghrair, Greg Clarke, wedi rhybuddio na fyddai'r ymosodwr yn cael ei gofrestru oni bai bod y clwb yn profi bod modd ariannu cyfnod Bellamy ar fenthyg gyda'r clwb o Manchester City. Ond mae'r Adar Gleision wedi cyhoeddi bod y gwaith papur i gyd wedi cael ei gwblhau, gan sicrhau y bydd capten Cymru yn y garfan i wynebu Doncaster Rovers. Mae Bellamy wedi ymuno ar fenthyg am y tymor, a'r gred yw mai'r clwb o Uwch Gynghrair Lloegr fydd yn talu'r mwyafrif o'i gyflog. Ond nid yw'r newyddion wedi bod wrth fodd pawb, gyda Motherwell yn datgan anfodlonrwydd. Y rheswm am hynny yw bod Motherwell yn dal i ddisgwyl am daliad o 拢175,000 gan Gaerdydd am yr amddiffynnwr Paul Quinn, ymunodd gyda'r clwb y llynedd. Ond mae prif weithredwr yr Adar Gleision, Gethin Jenkins, wedi rhoi ei air y bydd y ddyled yn cael ei setlo o fewn yr wythnos nesaf. Amcangyfrif bod gan Gaerdydd ddyledion o hyd at 拢30miliwn ac maent wedi wynebu sawl achos llys yn ystod y misoedd diwethaf am fethu 芒 thalu biliau treth.
|