成人快手

Tecwyn Ifan

Ganwyd Tecwyn Ifan yng Nglanaman ym 1952 pan oedd ei dad yn weinidog yn Ystalyfera, Cwm Tawe. Symudodd y teulu i fyw yn Login, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn ar Daf.

Bu'n aelod o'r gr诺p Y Perlau Taf rhwng 1969 ac 1972 a recordiodd pum record fer i Welsh Teldisc a Cambrian. Mae'n ddiddorol nodi iddo chwarae'r git芒r drydanol ar ei recordiad olaf ond un i'r Perlau Taf, offeryn na chwaraeodd byth wedyn.

Astudiodd i fod yn weinidog yr efengyl yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor, ac ym 1972 ffurfiodd Ac Eraill gyda Cleif Harpwood, Iestyn Garlick a Phil Edwards. Rhyddhawyd tair record fer i Sain cyn chwalu ym 1975. Blwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhawyd record hir Diwedd Y G芒n, unwaith eto ar label Sain.

Tecwyn Ifan oedd yn sgrifennu'r rhan fwyaf o ganeuon Ac Eraill. Erbyn heddiw mae rhai fel Nia Ben Aur, Tua'r Gorllewin a Cwm Nant Gwrtheyrn yn cael eu hystyried fel clasuron. Roedd yr awdur yn aelod blaenllaw o fudiad Adfer erbyn hyn, ac mae them芒u llawer o'i ganeuon yn dyst i hynny. Cyfrannwyd nifer o ganeuon at yr opera roc Nia Ben Aur a lwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1974.

Fe ddechreuodd Tecwyn Ifan berfformio ar ben ei hun am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor ym 1975. Sgrifennwyd caneuon newydd ar gyfer y sioeau cerdd Heledd ac Anwariad a gynhaliwyd ym 1975 ac 1976.

Campwaith Tecwyn Ifan yw Y Dref Wen (Sain, 1977) - yr albwm cyntaf a'r un gorau. Mae cysgod Waldo a thristwch diwedd bro yn gorwedd yn drwm dros y caneuon yma. Fe'i gynhyrchwyd - fel bron pob albwm arall - gan Hefin Elis.

Mae Dof Yn 脭l (Sain, 1978) yn cynnwys un ochr o ganeuon sydd yn ymwneud ag Amos y proffwyd. Blwyddyn yn ddiweddarach, roedd Goleuni Yn Yr Hwyr, gyda chlawr hyfryd gan Jac Jones, braidd yn siomedig. Ond mae 'na uchafbwyntiau fel y ddwy g芒n C诺n Annwn a Rwy'n Dy Weld.

Erbyn Edrych I'r Gorwel (Sain, 1981) roedd e'n amlwg bod Tecwyn Ifan wedi colli ei ffordd yn gerddorol, ac roedd y caneuon yn dechrau swnio'n flinedig. Serch hynny, yr albwm dilynol, Herio'r Oriau Du (Sain, 1983), oedd ei record orau ers Y Dref Wen. Fe'i recordiwyd yn dilyn Rhyfel Y Malfinas, ac mae'n cynnwys sawl c芒n brotest fel John Bull, Hiroshima a Marina.

Roedd rhaid aros saith mlynedd cyn Stesion Strata (Sain, 1990) a oedd yn gasgliad amrywiol o ganeuon newydd a chaneuon wedi eu cyfiethu fel The Streets Of London gan Ralph McTell.

Recordiwyd Sarita saith mlynedd yn ddiweddarach, ond y tro yma, gyda Tudur Morgan wrth y lliw, a gyda band oedd yn cynnwys dau cyn aelod o'r gr诺p Dom.

Ar 么l seibiant o wyth mlynedd ymddangosodd Wybren Las, ac unwaith eto gyda chynhyrchydd newydd, sef Dyl Mei. Newidiodd y band unwaith eto, a chwaraewyd y drymiau gan ei fab Gruffudd o'r Texas Radio Band.

Discograffi

  • Y Dref Wen (Sain) 1977
  • Dof Yn 脭l (Sain) 1978
  • Goleuni Yn Yr Hwyr (Sain) 1979
  • Edrych I'r Gorwel (Sain) 1981
  • Herio'r Oriau Du (Sain) 1983
  • Stesion Strata (Sain) 1990
  • Y Goreuon (Sain) 1995
  • Sarita (Sain) 1997
  • Wybren Las (Sain) 2005

Newyddion

Tregaron - Y Lle i Fod!

18 Ionawr 2006

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

成人快手 Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.