Daeth y band ifanc, 'Creision Hud' i amlygrwydd fel enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2007 yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug . Un o'r gwobrau oedd recordio Sesiwn C2-"and the rest is history" ys meddai'r Sais.
O ardal Caernarfon, mae yna saith aelod i'r band, oll yn cyfansoddi a recordio caneuon sydd yn gymysgedd o ska, roc, seicadelia, cerddoriaeth y byd a drwm a bas. Yn 2009, enillodd Creision Hud Wobr am y Sesiwn Orau ar C2 yng Ngwobrau RAP Radio Cymru.
Yn 2011 bu'r gr诺p yn gweithio ar brosiect gwreiddiol ac uchelgeisiol i ryddhau sengl newydd bob mis yn 2011. Mae digon o grwpiau'n gyfarwydd 芒 rhyddhau 12 o ganeuon ar unwaith ar ffurf albwm, ond mae'r cysyniad o ryddhau 12 sengl dros 12 mis yn un newydd i'r s卯n Gymraeg. Llwyddodd y Creision i ddenu cryn sylw am y gamp hon gyda chaneuon fel 'Indigo', 'Pyramid' a 'Bedd' (sy'n atgoffa dyn o gitars melodig, 'GodSpeed'), yn arbennig yn denu cryn glod.
Newyddion
Pwy fydd bandiau 2008?
2 Ionawr, 2008
'Tips' ar pa fandiau ddylech chi wylio allan amdanyn nhw yn 2008.
Sesiynau
Gweler Hefyd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
成人快手 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.