成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llandysul
Oergelloedd Arbed Egni - Arbed Arian?
Ar y newyddion yn ddiweddar, mae llawer o s么n wedi bod am newid yn yr hinsawdd a chyfraniad dyn i'r newid hwnnw.
Tybed, faint ohonoch chi sydd yn prynu nwyddau i'r cartref sydd yn arbed egni? Gyda rhif ceir newydd yn dod ar y farchnad fis nesaf, faint ohonoch sydd yn meddwl prynu car 'hybrid' yn hytrach na phrynu car petrol neu ddisel?

Gyda'r llywodraeth a'r cyfryngau yn rhoi llawer o bwysau arnom i feddwl yn wyrdd, mae'n naturiol i ni feddwl am brynu nwyddau gwyrdd i'r cartref neu i'n hebrwng i'r gwaith. Mae'n si诺r ein bod yn meddwl bod arbed egni yn golygu arbed arian.

Ond a yw'r nwyddau 'gwyrdd' yma, mewn gwirionedd yn ddrutach? Wrth fynd am dro o amgylch siopau Caerfyrddin, digwyddais edrych ar brisiau peiriannau golchi ac oergelloedd. Sylwais fod peiriannau sydd yn helpu'r amgylchedd (categori AAA) tua 拢100 yn ddrutach na pheiriannau sydd yn defnyddio ychydig yn fwy o egni (categori C).

Yn ddiweddar iawn rydym wedi prynu peiriant golchi newydd. Mae'n gategori A - ac mae'n cymryd awr yn ychwanegol na'r hen beiriant golchi! Felly a yw'n arbed egni? Cwestiwn mawr.

Ymhob ystafell yn ein t欧 ni, mae gennym fylbiau sydd yn arbed egni, ac mae'r rhain yn costio rhagor i'w prynu na'r bylbiau arferol. Hefyd mae gan y bylbiau arbed egni dric ychwanegol o wneud i mi syrthio dros rywbeth wrth fynd i mewn i'r ystafell gan fod y golau heb dwymo yn iawn. Yn 么l y bocs mae'r bylbiau yn arbed tua 25% o egni, ac er eu bod yn costio rhagor, mae'n edrych yn debyg iawn bod y bylbiau yn para'n hirach na'r rhai cyffredin.

Ar y newyddion yn ddiweddar, roedd s么n y bydd car hybrid yn costio rhagor - tua 拢2000 yn fwy na char cyffredin. Mae'n si诺r bod rhai yn meddwl os yw'n costio rhagor, rydym yn cael yr arian yn 么l dros gyfnod o amser oherwydd ei fod yn defnyddio llawer llai o egni. Rhaid dweud, fy mod i yn anghytuno 芒 hyn.

Felly a oes gwerth prynu nwyddau gwyrdd? Beth yw'r ateb i'n hannog ni i brynu nwyddau gwyrdd yn naturiol?

Mae'r ateb yn fy marn i mewn trethi a sut mae'r llywodraeth yn gwario'r trethi. Er enghraifft mae'n rhaid talu mwy o dreth os ydym yn defnyddio llawer mwy o egni, neu yn defnyddio car pwerus. Felly, yn lle defnyddio'r arian yma i redeg ceir y prif weinidog, beth am bwmpio'r arian yn 么l i'r cyhoedd neu i'r cwmn茂oedd sydd yn cynnig peiriannau neu geir sydd yn 'wyrdd' i'w digolledi, yn hytrach na'n cosbi ni am brynu nwyddau gwyrdd?

Teimlaf bod y llywodraeth yn defnyddio'r newidiad yn yr hinsawdd a'r ffws sydd gan amgylcheddwyr, i leinio eu pocedi. Os byddai'r llywodraeth yn helpu'r cyhoedd i brynu nwyddau gwyrdd, byddai hyn yn dangos i'r cyhoedd ei bod yn wirioneddol eisiau i ni fyw yn fwy gwyrdd, yn hytrach na dweud pethau cywir ac yn cymryd ein arian. Ar hyn o bryd teimlaf ein bod yn cael ein cosbi pa bynnag ddewis yr ydym yn ei wneud.

I gloi, er fy mod i yn dal i gredu taw cyfraniad bach mae dyn yn ei wneud i newid yr hinsawdd, mae'n edrych taw dyfodol gwyrdd sydd o'n blaenau. Rhaid cofio, bod pentref wedi mynd o dan y d诺r yn Sir Gaerfyrddin yn y 1600, ymhell cyn ein bod ni wedi darganfod ceir ac awyrennau.

Mae'r ddadl o gyfraniad dyn i newid yn yr hinsawdd yn peri pryder i mi, gan fy mod i yn meddwl fod pobl yn ofn mentro ac felly yn cymryd gam yn 么l, gan fod pobl 'ofn' gwthio ffiniau o beth sydd yn bosibl - fel yr enghraifft ddiweddaraf o'r car Bugatti Veyron.

Os yw'r llywodraeth am i ni arbed egni yna dylem gael ein hannog yn hytrach na'n gorfodi i droi'n wyrdd. Tybed a fydd modurdai lleol cyn hir yn cynnig ceir hybrid? Tybed hefyd a bydd pympiau hydrogen a thanwydd 'bio-fuel' drws nesaf i'r pympiau petrol? Pwy a 诺yr beth fydd y dyfodol?

Gan Dylan Davies

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Radio Cymru
Trefi
Lluniau


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy