Eisteddfod ysgol! Ymarferion di-ri yn torri ar draws y gwasanaeth boreol, amser br锚c ac amser cinio, dysgu geiriau, mo'yn neud hyn, dim mo'yn neud llall. Ond pan chi'n cyrraedd blwyddyn 12, mae'r cyfrifoldeb yn nwylo'r capteiniaid. Ac roeddwn i yn un ohonynt!
Does neb llawer yn gweld yr holl waith y mae'r capteiniaid yn rhoi mewn i sicrhau eisteddfod lwyddiannus. Roedd fy myd bach i a'm ffrindiau yn troi o amgylch ymarfer eisteddfod, gwersi, cael cinio, a mynd adref i wneud pentwr o gystadlaethau gwaith cartre'. Rhaid sortio pob dim allan a rhoi cic lan ambell ben-么l pan mae hi'n ddydd Gwener, y prelims yn dechrau fore Llun a'r Eisteddfod go iawn yn dechrau p'nawn ddydd Mawrth!
Mae'r lefelau o stress yn dechrau codi pan nad yw'r bois yn gwybod llinell y baswyr yn y c么r, a hyd yn oed yn waeth pan maent wedi dod yn gyfarwydd 芒'r nodau wnaethom ni eu dysgu, fod rhywun arall yn eu newid! Druan 芒'r bois! Fel wedodd un bachgen, "bob tro fi'n dod 'ma, ma'r g芒n yn wahanol!"
Rhaid aros ar 么l yr ysgol tan fod y gofalwr yn cloi lan a dod mewn bore Sadwrn i ddod 芒'r gr诺p pop, y meimio a'r cyflwyniad llafar ynghyd. Www ie, a gorffen ysgrifennu'r sgets!! Hwyr, ond sdim ots! "Everything will be alright on the day" fel wedodd y capten! Mynd adre wedi blino'n shwps i ddysgu llinellau!!
Eisteddfod = dewis darnau, dewis c芒n gr诺p pop a meimio, mynd i sg茂o am wythnos, ysgrifennu cyflwyniad llafar a sgets, mynychu pob ymarfer, tempar yn codi, neb yn gwybod can y c么r wythnos cyn yr eisteddfod, gweiddi, colli llais, cael y ffliw.
Dyna fel yr oedd yr eisteddfod yn teimlo wythnos cyn y diwrnod mawr.
Eisteddfod = hwyl a sbri, clapio nes i'm dwylo rhoi dolur, gweiddi nes i mi golli llais (eto!), chwerthin, ennill (a cholli), gweld ffrindiau yn ennill, mwynhau mas draw, ennill y meimo, dod yn ail yn y gadair, rhedeg ambiti fel headless chicken a chael hwyl mas draw!
Ie, dyna fel yr oedd yr eisteddfod yn teimlo ar y diwrnod mawr.
Mynd i'r Indian noswaith yr Eisteddfod. Cael mwynhau yng nghwmni cyd-gapteiniaid a'r helpwyr, heb orfod meddwl am ddim un ymarfer arall, dim ond cael straeon sgets Teifi a meimio Creuddyn! Roedd pawb wedi blino, ac yn hanner gwedd茂o am eira'r diwrnod wedyn, i bawb gael lie-in haeddiannol!
A dyna ddigwyddodd - fe ddaeth blanced o'r stwff gwyn, ac roedd yr ysgol ar gau. Golyga hyn nad o'dd cyngerdd Pigion yr 糯yl yn bosib - a finne wedi edrych ymlaen at berfformio'r meim unwaith yn rhagor!
Profiad wna i fyth anghofio oedd Eisteddfod 2007. Daeth Creuddyn yn ail am y tro cyntaf ers blynyddoedd! Roedd pawb wedi plesio! Edrych ymlaen at steddfod 2008 yn barod, gydag arweinwyr newydd wrth y llyw!!
Gan: Siwan Davies
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.