Daeth Scott Quinnell, cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol i'r ysgol i agor yr Adran Dyslecsia ym Mhenweddig yn swyddogol.
Gofynnwyd i Scott Quinnell agor yr Adran Dyslecsia'n swyddogol gan fod y
chwaraewr yn is-lywydd Cymdeithas Dyslecsia Cymru, a hefyd yn ddyslecsig ei hun. Roedd felly yn gallu uniaethu 芒 sefyllfaoedd y plant a ddaeth i siarad ag ef yn gofyn am ei gyngor.
Fe gododd y chwaraewr rygbi ymwybyddiaeth am ddyslecsia ymysg disgyblion yr ysgol ac fe arhosodd yn hirach na'r amser a gymerodd i dorri'r rhuban. Buodd yn siarad gyda'r plant ac yn llofnodi crysau rygbi a llyfrau llofnodion.
Agorwyd y ganolfan yn swyddogol fel rhan o weithgareddau Wythnos
Genedlaethol Dyslecsia ac mae'n darparu deunyddiau dysgu ac addysgu
arbenigol ac yn cynnwys yr adnoddau diweddaraf i ddelio gyda dyslecsia.
Mae Ysgol Penweddig yn falch iawn o'i darpariaeth ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Ffaith bwysig am y ganolfan yw ei bod yn darparu anghenion dysgu ychwanegol dwyieithog fel bod y disgyblion sydd ddim yn dod o gefndir Cymraeg yn cael yr un chwarae teg. 'Roedd yr
ysgol eisoes yn cyflogi athrawes ddyslecsia gymwysedig ac mae rhaglen
hyfforddi arbenigol wedi ei datblygu ar gyfer holl staff yr ysgol. Gan fod nifer y disgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth wedi codi i'r fath
raddau, penderfynodd yr ysgol sefydlu gofod dysgu penodol.
Bydd nifer yn manteisio o agoriad swyddogol y ganolfan ddyslecsia ac mae'r
athrawon wrth eu boddau. Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Carys Mair Davies
|