Yn 么l yr arfer, fe ddarparodd Cerddorfa Linynnol Ceredigion, C么r Telynau
Ceredigion a Band Chwyth Symffonig Ceredigion wledd i'w gwrandawyr ar ffurff cyngerdd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar yr ugeinfed o Chwefror 2007.
Mae'r tri ensemble cerddorfaol hyn yn ymgynnull yn flynyddol yn nhymor y
Gwanwyn, ac yn paratoi ar gyfer cyngerdd ar ddiwedd yr ymarferion.
Eleni roeddwn i yn cymryd rhan yn y c么r telynau ac yn y gerddorfa linynnol
ar y fiola. Er mwyn medru perfformio ar 20 o Chwefror, 2007 'roedd hi'n
angenrheidiol i'r ymarferion ddechrau ar ddiwedd gwyliau hanner tymor.
Dechreuodd yr ymarferion gogyfer 芒 pherfformiad y c么r telynau ar 16 o Chwefror, gan ymarfer am dridiau wedi hynny yn ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth.
Arweinyddes y c么r telynau oedd Mrs Sian Price. Bu hithau a Mrs Delyth Evans
yn ein cynorthwyo drwy gydol y cwrs.
Ymysg y darnau 芒 berfformiwyd gan y telynau roedd "Cwlwm C芒n" gan Gareth Owen, "Unchained Melody" gan Zaret a threniant o "Everytime"
芒 gyfansoddwyd gan un o'r digyblion.
Dechreuodd yr ymarferion gogyfer 芒 pherfformiad y gerddorfa linynnol ar
16 o Chwefror hefyd. Cafodd yr offerynwyr fynychu cwrs yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog o 16 o Chwefror tan 18fed. Yn ystod y tridiau hynny 'roedd cyfle i'r offerynwyr ladd
nadroedd wrth ymbaratoi ar gyfer y cyngerdd efo cymorth nifer o staff
beribatetig y Sir.
Cynhaliwyd ymarfer arall ar gyfer y gerddorfa ar y pedwerydd ar bymtheg o
Chwefror yn ysgol Gyfun Penweddig.
Arweinyddes y gerddorfa linynnol oedd Ms Isobelle McGuiness.
Chwaraeodd y gerddorfa ychydig o weithiau gan Mozart, Corelli ac Arenski.
Bu aelodau'r band chwyth hefyd yn ymarfer yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog, eu harweinydd oedd Mr Brian Sansbury.
Sioeau cerdd a cherddoriaeth o ffilmiau aeth 芒 bryd y band wrth iddynt
berfformio caneuon megis them芒u "Miss Saigon" a "Jungle Book".
Wedi i'r holl ymarferion fod, 'roedd hi'n bryd arddangos y gwaith. Felly, ar
ddydd Mawrth, Chwefror 20, 2007 cynhaliwyd cyngerdd 'matinee' yn y prynhawn
yng Nghanolfan y Celfyddydau ar gyfer plant ysgolion cynradd y Sir. Yna,
estynnwyd croeso i'r cyhoedd yn y nos - o ffrindiau a theulu, i'r ci a'r
gath!
Teilwng ydyw dweud fod pawb a wrandawodd ar y wledd o gyngerdd wedi mwynhau eu hunain i'r eithaf ac wedi cael modd i fyw wrth wrando ar y campweithiau canu ac offerynnol.
Teilwng ydyw dweud hefyd fod yr holl blant a gymerodd rhan yn y gyngerdd
wedi mwynhau creu y perfformiadau ac wedi mwynhau bod ar lwyfan.
'Roedd cyngerdd ensemblau'r Sir eleni - fel pob blwyddyn arall a fu ac fel
pob blwyddyn arall a ddaw dwi'n si诺r, yn llwyddiant ysgubol ac
adlewyrchodd y ffaith bod llawer iawn, iawn o dalentau yng Ngheredigion.
Carys Mair Davies
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.