'Yn 么l yr arfer, fe ddarparodd Cerddorfa Ceredigion, C么r SATB Ceredigion a Ch么r Bechgyn Ceredigion wledd i'w gwrandawyr ar ffurf cyngerdd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar y deunawfed o Ragfyr 2007.
Eleni roeddwn i yn cymryd rhan yn y gerddorfa ar y fiola ac yn y c么r SATB. Er mwyn medru perfformio ar y deunawfed o Ragfyr 'roedd hi'n angenrheidiol i'r ymarferion ddechrau ar ddiwedd mis Tachwedd.
Dechreuodd yr ymarferion gogyfer 芒 pherfformiad y c么r SATB ar y degfed ar hugain o Dachwedd. Cawsom ymarfer ar y degfed ar hugain o Dachwedd ac ar yr ail o Ragfyr Cynhaliwyd yr ymarferion yn Ysgol Uwchradd Aberaeron.
Rhaglen y c么r SATB oedd trefniant Eric Jones o g芒n "Y Tangnefeddwyr, "Talu'r Pris yn Llawn" gan D. Williams, "Carol y Seren" gan Gareth Glyn a "Bridge Over Troubled Water" gan Paul Simon.
'Roedd y c么r bechgyn wedi paratoi rhaglen oedd yn cynnwys y caneuon "You Raise Me Up", "Pan Fo'r Nos yn Hir" a "Gwin Beaujolais". Cafodd y bechgyn ymarfer ar yr unfed ar bymtheg o Chwefror.
Dechreuodd yr ymarferion gogyfer 芒 pherfformiad y gerddorfa linynnol ar yr unfed ar bymtheg o Chwefror hefyd. Cafodd yr offerynwyr fynychu cwrs yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog o'r unfed ar bymtheg o Chwefror tan y deunawfed. Yn ystod y tridiau hynny 'roedd cyfle i'r offerynwyr ladd nadroedd wrth ymbaratoi ar gyfer y cyngerdd efo cymorth nifer o staff peripatetig y Sir.
Chwaraeodd y gerddorfa symffoni gan Borodin.
Wedi i'r holl ymarferion fod, 'roedd hi'n bryd arddangos y gwaith. Felly, ar ddydd Mawrth, Rhagfyr 18fed, 2007 cynhaliwyd cyngerdd 'matinee' yn y prynhawn yng Nghanolfan y Celfyddydau ar gyfer plant ysgolion cynradd y Sir. Yna, estynnwyd croeso i'r cyhoedd yn y nos - o ffrindiau a theulu, i'r ci a'r gath!
Teilwng ydyw dweud fod pawb a wrandawodd ar y wledd o gyngerdd wedi mwynhau eu hunain i'r eithaf ac wedi cael modd i fyw wrth wrando ar y campweithiau canu ac offerynnol. Teilwng ydyw dweud hefyd fod yr holl blant a gymerodd ran yn y gyngerdd wedi mwynhau creu y perfformiadau ac wedi mwynhau bod ar lwyfan.
Os wnaethoch golli'r cyngerdd, na phoenwch!! Mae cryno-ddisg arbennig yn cael ei recordio ym mis Ionawr o'r corau a ganodd yn y Neuadd Fawr yr wythnos ddiwethaf. Bydd y cryno ddisg yn barod erbyn haf 2008 ac mi fydd yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2008. Peidiwch ag oedi i'w brynu!!
'Roedd cyngerdd 'part茂on' y Sir - fel pob blwyddyn arall a fu ac fel pob blwyddyn arall a ddaw dwi'n si诺r, yn llwyddiant ysgubol ac adlewyrchodd y ffaith bod llawer iawn, iawn o dalentau yng Ngheredigion.'
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.