Llwybr y Dref
Bu'r Arglwydd Elystan Morgan yn tywys y dorf ar daith gerdded o gwmpas Aberaeron ar ddydd Llun, 30 Gorffennaf 2007 fel rhan o ddathliadau deucanmlwyddiant y dref.
Sefydlwyd y llwybr yn 2007 i ddathlu deucanmlwyddiant y ddeddf seneddol breifat a roddodd yr hawl i'r Parchedig Alban Thomas Jones Gwynne i greu'r harbwr yn 1807. Erbyn 1811 roedd William Green o Aberystwyth ac Edward Ellis, Chancery wedi cwblhau'r gwaith a dyma ddechrau'r dref fel y'i gwelwn ni hi heddiw.
Mae'r llwybr yn cwmpasu 22 o blaciau ar safleoedd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaern茂ol, yn cychwyn o ben pella'r harbwr hyd at gyrion y dref i gyfeiriad plwyf Henfynyw.
Cliciwch yma i weld rhai o'r placiau sydd wedi eu gosod ar adeiladau o gwmpas y dref
[an error occurred while processing this directive]