成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Ysgwrn O'r canolbarth i'r gogledd ar daith lenyddol
Rhai o ddisgyblion Ysgol Llambed yn s么n am daith lenyddol eu hysgol nhw, Dyffryn Teifi a Thregaron i Ogledd Cymru ym Medi 2006.

O 24-26 o Fedi 2006, aeth disgyblion Safon Uwch Cymraeg ysgolion Llambed, Dyffryn Teifi a Thregaron ar y cyd, ar daith lenyddol i Ogledd Cymru. Dyma gyfle gwych i weld lleoliadau a chefndir y beirdd a'r awduron a astudir yn ogystal 芒 chael cyfle i gymdeithasu 芒 chyfoedion.

Ar fore Sul y 24ain gadawon yr ysgol am ddeg o'r gloch a theithio'n griw hwyliog tua'r gogledd. Y stop cyntaf oedd Morrisons Aberystwyth! Awr yn ddiweddarach a'r troli'n llawn, dyma ni'n mentro i Gorris i gael picnic.

Ymlaen wedyn i Drawsfynydd ac ymweld 芒'r Ysgwrn, sef cartref y Prifardd Hedd Wyn. Cawsom wledd yno a chroeso cynnes gan Gerald Williams, nai Hedd Wyn. Cawsom hanes diddorol y Gadair Ddu dan arweiniad Gerald a'i ffrind Huw. Gadawom aelwyd gynnes Yr Ysgwrn a golygfeydd godidog Trawsfynydd a theithio trwy Fwlch Drws y Coed tuag at 'HQ' sef T欧'r Ysgol, Rhyd-ddu.

Ar ein ffordd yno ymwelwyd 芒 man geni R.Williams Parry a'i gofeb yn Nhalysarn. Creodd hyn gryn gyffro ar y bws. Ar 么l cyrraedd ac ymgartrefu yn 'Nh欧'r Ysgol' sef cartref T. H. Parry-Williams, aethom i Feddgelert i ymweld 芒'i fedd. Gwelon fedd Gelert hefyd (a gweld Gelert ei hun yn y cysgodion!) N么l 芒 ni wedyn i gael gwledd o Spaghetti Bolognase yn Nh欧'r Ysgol a gemau di-ri cyn mynd i'r gwely.

Dihunom wedi glynu wrth y matresi plastig (!) a chael sioc o weld fod d诺r yn morio i'n hystafell! Doedd dim angen gwylltio - roedd y gawod wedi bod yn ddiffygiol ers blwyddyn! Brecwast cynnar ar 么l mopio'r llawr ac ymlaen 芒 ni i Fethesda a Dyffryn Ogwen gan gwrdd 芒 H. Elwyn Hughes a chael taith ddiddorol yn ei gwmni. Buom yn ymweld 芒 lleoliadau anhygoel y nofel Un Noson Ola Leuad a dysgu llawer drwy wrando ar yr arbenigwr hwn. Ymwelsom wedyn 芒 chwarel y Pen-rhyn (pwy all anghofio lliw glas y d诺r) a bedd R.Williams Parry a Caradog Prichard. Bore cofiadwy iawn.

Set Rownd a RowndErbyn hyn roedd yn amser cinio - y stop nesaf oedd Cofi Roc, Caernarfon, mmmm - ffein! Dros y bont i Sir F么n wedyn i weld bedd Cynnan a ..... chredwch neu beidio - set ROWND A ROWND! Aeth pawb ar y bws yn wyllt, felly aethom rownd eto gan ganu'r corn!

N么l 芒 ni wedyn i Abergwyngregyn lle cawsom hanes anhygoel Gwellion, Llywelyn ein Llyw Olaf, Llywelyn Fawr a Siwan, dan arweiniad Kathryn Gibson sy'n byw nawr yn Llys Pen-y-bryn. Roedd yn brofiad a hanner edrych tuag at Lanfaes o'r t诺r.

Roedd yn bryd dychwelyd i Ryd-ddu a chyn swper aeth criw ohonom drwy'r brwyn i Lyn y Gadair. N么l wedyn i wledda - llond padell o selsig 脿 la Enfys, mwy o gemau a llawer mwy o gloncan yng nghwmni Mrs James tan oriau m芒n y bore! Diolch i Delor James, Sian Eirug ac Elin Williams am feirniadu'r limrigau a'r brawddegau.

Daeth diwrnod ola'r daith a'r haul yn dal i dywynnu a'r golygfeydd yn hudol. Cawsom gyfle i ymlacio ar draeth Dinas Dinlle cyn mynd draw i Rosgadfan. Ymwelwyd 芒 Chae'r Gors, cartref Kate Roberts a chawsom bicnic yn y grug gan fwynhau panorama o olygfa a chwmni'n gilydd.

Daeth yn bryd ffarwelio 芒'r gogledd ac roedd cryn dawelwch a blinder ar y bws wrth deithio i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth lle tywyswyd ni gan Ll欧r. Cyrhaeddon adref tua 6 o'r gloch wedi blino'n l芒n ond wedi mwynhau mas draw. Diolch am brofiadau bythgofiadwy, fe'u trysorwn.

Gan: Hanna Lewis, Catrin Williams a Enfys Hatcher o Ysgol Gyfun Llambed

  • Cliciwch yma i ddarllen mwy am drefi a phentrefi'r gogledd orllewin sy'n cael eu henwi yn yr erthygl hon.

    Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy