成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Sh芒n Cothi yn perfformio gyda'r c么r ar y llwyfan Ffermwyr y wlad yn y dref
Yr ymarferion munud olaf, y gwisgo a'r coluro .. a'r nerfau. Lynwen Roberts yn ysgrifennu ail ran ei dyddiadur yn paratoi at ac yn perfformio yng Ngala'r Ffermwyr Ifanc yng Nghaerdydd.

Ar ddiwedd yr erthygl ddiwethaf, roeddem ni wedi glanio ar Hydref 16eg, pythefnos union cyn y Gala mawr yng Nghaerdydd, ac roedd y brwdfrydedd a gododd ymysg aelodau'r clwb yn yr wythnosau i ddod yn dechrau cronni yn gyflym. Roedd Tachwedd 5ed yn prysur agosau yn wir!

Hydref 28 a 29, 2006 - Yr ymarferion olaf!
Ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, yn y Neuadd Fwyd, y cynhaliwyd ymarferion olaf y Gala cyn mentro i Gaerdydd, ac, o'r diwedd, roedd pethau'n dechrau ymddangos fel eu bod yn dod at ei gilydd i greu un perfformiad mawr. Yn wir, dyma beth y gallech chi ei alw'n 'Boot Camp' i'r CFfI cyn teithio tua'r ddinas fawr!

Dyma oedd ein profiad cyntaf o gael gweithio gyda Stifyn Parri, y cynhyrchydd, ac roedd bois y teledu hefyd yn goruwchwylio'r ymarfer er mwyn paratoi ar gyfer y darllediad o'r cyngerdd ar y teledu. Ymarferwyd y sioe o'r dechrau i'w diwedd er mwyn i bawb gael rhyw fath o syniad sut y byddai'r cyfanwaith yn edrych yn y diwedd, gan gynnwys sut y byddai'r c么r yn cerdded ymlaen ac i ffwrdd o'r llwyfan ac ein rhan o fewn y 'Finale' ar ddiwedd y cyngerdd. Cynhaliwyd ambell i f芒n ymarfer gyda Magwen i berffeithio eitemau'r c么r ac, os nad oedd hyn yn ddigon, cafwyd ambell i anap wrth i un o aelodau Bro Ddyfi golli ei dr么ns yn ymarfer y sgets (ddywedwn ni ddim rhagor!).

Roedd pawb yn dechrau gweld fod y cyngerdd mawr yn agosach nag erioed, ac yn hytrach na gweld sawl eitem wahanol yn ymarfer ar eu liwt eu hunain, roedd hi'n bosibl gweld cyfanwaith yn ffurfio nawr; cyfanwaith a fyddai'n datblygu i greu un cyngerdd mawreddog yn y pendraw. Neu, dyna oedd ein gobaith ar y pryd beth bynnag!

Tachwedd 4, 2006 - Gwladoli'r ddinas fawr
Am 6.20 y bore (ie, amser hurt o gynnar i rai sydd yn hoff o'u 'lie ins!), bu i aelodau'r clwb ymgynnull tu allan i'r Hen Orsaf yn y Trallwng yn barod i ddechrau ar y siwrnau hir i Gaerdydd ar y bws. Mae'n rhaid cyfaddef y bu i sawl aelod gysgu am ran helaeth o'r siwrnau yno, ond, er y blinder, pan gyrhaeddodd y bws fae Caerdydd, o'r diwedd, am 9.35 y bore, roedd yr olygfa o'n blaen yn ddigon o ryfeddod.

Cawsom ein croesawu i'r bae gyda geiriau anfarwol Gwyneth Lewis, "Creu Gwir fel Gwydr o Ffwrnais Awen", a chyfres o bebyll gwyn, bychain, a oedd wedi cael eu defnyddio y diwrnod canlynol yng ng诺yl "Y Wlad yn y Dref". Ond, cawson ni ddim llawer o gyfle i gymeryd llawer o sylw o'r olygfa, oherwydd bu'n rhaid i ni gerdded tua Drws y Llwyfan er mwyn medru cofrestru, arddangos ein cardiau aelodaeth a gadael ein bagiau dillad yn yr Ystafell Werdd, man ymarfer y Cwmni Opera Cenedlaethol yn arferol, ond man ymgynnull y c么r y penwythnos hwnnw!

Bu'n rhaid wedyn wneud ein ffordd i'r prif awditoriwm, Neuadd Donald Gordon, i aros am gyfarwyddiaddau gan Stifyn Parri. Yn anffodus, oherwydd problemau gyda set a goleuo (rhaid cofio fod y cyngerdd "Jones, Jones, Jones" wedi ei gynnal y noson gynt ac roedd cryn dipyn o waith clirio i'w wneud yn dilyn y digwyddiad hwnnw), bu'r cyfarwyddiadau hynny ychydig yn hwyr yn cyrraedd. Fe roddodd hyn y cyfle i ni grwydro o amgylch y ganolfan ychydig, a phrynu diodydd poeth haeddiannol i ni ein hunain er mwyn i ni fedru deffro!

Dechreuwyd ar yr ymarferion am 11.20 y bore yn y diwedd, sawl coffi a siocled poeth yn ddiweddarach, wrth i'r c么r a'r cast gael cyfle i ymgyfarwyddo 芒'r set a medru ymarfer sut i gerdded ymlaen ac i ffwrdd oddi ar y llwyfan. Cawsom awr o egwyl i ginio, cyn dychwelyd yn 么l i'r awditoriwm erbyn 1.30 y prynhawn i ail ddechrau ar yr ymarferion. Gan mai ond dwy eitem yr oedd y c么r yn cymeryd rhan ynddyn nhw, bu i rai aelodau gymeryd y cyfle i ddod o hyd i'w hystafelloedd yng Ngwersyll yr Urdd drws nesaf i'r Ganolfan, manteisiodd eraill ar y cyfle i wylio rhai o eitemau eraill y sioe a chael blas o'r adloniant ar gael.

Cawsom swper am 5.30 y nos cyn i Stifyn argyhoeddi y byddem yn rhedeg trwy'r Act gyntaf yn arbennig ar gyfer y criw camer芒u, ymarfer a ddaeth i ben am 9.40 yr hwyr. Roedd hi wedi bod yn ddiwrnod hir i bawb - yn enwedig i'r rhai a oedd wedi teithio i lawr i Gaerdydd ar fws yn gynnar yn y bore. Bu i'r rhan fwyaf o aelodau'r clwb fynd i'r lolfa yn y gwersyll i gymdeithasu gyda llawer o ffermwyr ifanc eraill ar draws Cymru, ac i lenwi ein boliau gyda pizzas o'r siop pizzas gerllaw!

Er y blinder, roedd pawb yn dal i deimlo'n gyffrous am y cyngerdd y noswaith ganlynol, a phawb yn sicrhau eu bod nhw yn eu gwl芒u erbyn hanner awr wedi hanner nos fel y gallent fod yn effro ar gyfer ymarferion y diwrnod canlynol.

Tachwedd 5ed - Noson y Gala...AAAAA!
Wedi noswaith dda o gwsg - wel yr hynny oedd ohoni beth bynnag - a brecwast cynnar, bu i ni gyd ymgynnull yn yr awditoriwm ar gyfer y diwrnod olaf o ymarferion cyn y Gala y noswaith honno. Cawsom ein tywys wedyn i'r ystafell ymgynnull er mwyn cael ymarfer byr gyda Magwen a chynhesu ein lleisiau - oedd mi roedd y technegau canu yn 么l mewn defnydd gan y c么r! Oni bai am un ymarfer byr ar y prif lwyfan ganol y bore, yno y buom ni hyd nes i ni gael cinio am 12.30 y prynhawn, gyda rhai o aelodau'r clybiau eraill yn teimlo'n gerddorol ac yn cymeryd y cyfle i gael tinc bach ar y piano!

Dechreuodd ein ymarfer olaf am 1.30 y prynhawn, rihyrsal llawn gyda'n gwisgoedd c么rawl a oedd yn cael ei ffilmio a'i ddefnyddio yn y darllediad teledu o'r cyngerdd pe byddai unrhywbeth yn mynd o'i le yn y perfformiad byw. Dyma oedd ymarfer cyntaf y c么r yn eu gwisgoedd ac, yn bwysicach na dim, ein ymarfer cyntaf gyda Sh芒n Cothi yn y g芒n "Rhaid I Mi Fyw", a oedd yn brofiad cyffrous dros ben. Cafwyd ambell i 'glitch' bach munud olaf, wrth i'r baswyr gael eu cywasgu at ei gilydd fel tun o sard卯ns mewn un c芒n, ond, ar y cyfan, bu'r rhediad hwnnw o'r cyngerdd yn un reit llwyddiannus, gan wneud holl aelodau'r c么r, ac yn sicr aelodau'r clwb, yn frwdfrydig am y cyngerdd ei hun. Cawsom egwyl o oddeutu awr a chwarter i gael swper ac i ymbincio cyn y digwyddiad mawr, ac yna, cyn i ni droi rownd, roedd hi'n 7 o'r gloch. Roedd y cyngerdd ar fin dechrau!

Y Gala
Fel y soniais ynghynt, gan mai ond mewn dwy eitem yr oedd y c么r yn cymeryd rhan ynddo, bu llawer o eistedd o gwmpas ar noson y cyngerdd, ond, doedd gennym ni ddim amser i boeni gan fod llawer o'r aelodau yn treulio eu hamser yn cymdeithasu ac yn gwneud eu "finishing touches" gyda'u colur yn y toiledau - hyd yn oed y bechgyn ... (y rhai oedd yn cymeryd rhan yn y gystadleuaeth "Miss Minger"!). Cymerodd un aelod o'r clwb, Hannah Jones (neu Hannah Llan i'w ffrindiau) ran yn yr Open Mic Cymraeg, ac, o ystyried ei hymateb wedi iddi ddod i ffwrdd o'r llwyfan, bu iddi fwynhau'r profiad yn fawr, yn enwedig y profiad o ganu o flaen y gynulleidfa enfawr o'i blaen! Profiad bythgofiadwy iddi, mae'n si诺r!

Ar ddiwedd rhan gyntaf y cyngerdd yr oedd ymddangosiad cyntaf y c么r, a hynny i ganu'r g芒n "Rhaid I Mi Fyw" gyda Sh芒n Cothi. Cawsom alwad i wneud ein ffordd tuag at gefn y llwyfan, tair eitem cyn eitem gyntaf y c么r, gan roi'r cyfle i aelodau'r clwb gael cip ar eitemau'r llwyfan ar y pryd, ac anghofio am eu nerfusrwydd. Cawsom ymateb bositif iawn gan y gynulleidfa, ac er nad oeddem ni wedi cael llawer o ymarfer efo Sh芒n, roeddem ni wedi perfformio ein gorau glas, a llwyddodd y baswyr i beidio a chael eu cywasgu yn y canol y tro hwn!

Yna, cawsom egwyl arall, un a deimlai'n llawer hirach na'r egwyl cyntaf a gawsom ar ddechrau'r noson. Mae'n syndod faint o awydd sydd gan rhywun i fynd yn 么l ar lwyfan wedi eu perfformiad cyntaf. Unwaith y bu i ni fynd yn 么l i'r ystafell ymarfer, roedd llawer o aelodau'r clwb eisiau dyfod yn 么l ar y llwyfan i ganu unwaith eto! Cafodd Hedd Evans, hwyl dda yn yr eitem "Miss Minger" ar y llwyfan, ac mae'n si诺r ei fod o wedi cael digon o hwyl yn gwisgo i fyny fel dynes!

Cyn i ni droi rownd, roeddem ni wedi derbyn galwad i baratoi ar gyfer ail eitem y c么r, y medli o ganeuon a fyddai'n dod 芒 gweithgareddau'r noson i ben. Roedd PAWB yn nerfus, ac fe gafwyd araith emosiynol gan Magwen yn diolch i ni i gyd am gymeryd rhan. "Go for it!" oedd ei neges a dyna'n union yr oeddem ni am ei wneud. Unwaith eto, cafodd y c么r ymateb hynod o wresog gan y gynulleidfa, ac, wedi i ni wneud "funny run" i ffwrdd o'r llwyfan ac ail ymddangos ar y llwyfan o fewn y 'Finale', roedd yr holl gynulleidfa o fewn yr awditoriwm ar eu traed - ymateb hynod!

Tachwedd 6 - Amser dweud ffarwel
Wedi noson arall o gymdeithasu yn lolfa'r gwersyll, roedd hi'n amser dweud ffarwel i'r ddinas fawr, ac i'r cyfeillion hynny a wnaethom tra yr oeddem ni yno. Daeth y bws i'n cludo ni adref am 10.20 y bore, ac fe gawsom y cyfle i fyfyrio yn 么l dros ddigwyddiadau'r penwythnos. Er, mae'n rhaid cyfaddef, ein bod ni, am gyfran helaeth o'r penwythnos, yn dargafnod ein hunain yn eistedd i lawr yn gwneud dim byd, a hynny oherwydd y ffaith nad oeddem ni ond yn cymeryd rhan mewn dwy eitem yn y sioe gyfan, buom ni'n ffodus iawn i gael y cyfle i gymdeithasu 芒 llawer o ffermwyr ifanc ar draws Cymru gyfan, ffrindiau y byddwn ni'n si诺r o gadw mewn cysylltiad 芒 hwy yn y dyfodol agos.

Roedd y penwythnos yn brofiad bythgofiadwy i aelodau clwb Dyffryn Banw, yn enwedig i'r sawl oedd heb gymeryd rhan yn y fath beth o'r blaen, a phe byddai'r cyfle yn codi eto, mae'n si诺r y byddai llawer o aelodau'r clwb yn penderfynu cymeryd rhan. Y mae'n rhaid estyn diolchiadau MAWR i bawb a gynorthwyodd y c么r dros y penwythnos, yn bennaf i Magwen Pughe, arweinyddes amryddawn y c么r. Hebddoch chi Magwen, ni fyddai'r c么r wedi cyrraedd y safon a gyrhaeddwyd yn ystod y cyngerdd, ac mae ein dyled ni yn fawr i chi.

Hefyd, diolch yn fawr i holl swyddogion y Sir am roi cyfle mor arbennig i ieuenctid cefn gwlad Cymru, ac hefyd i'r 成人快手 am roi'r cyfle i ni, fel clwb, i gyfrannu tuag at y digwyddiadau trwy ysgrifennu'r dyddiadur yma.

Hir oes i'r CFfI, a gobeithio y bydd y 70 mlynedd nesaf yr un mor llwyddianus a'r rhai a fu!

Lynwen Roberts

  • Cliciwch yma i ddarllen rhan gyntaf dyddiadur Lynwen Roberts.

  • Cliciwch yma i weld rhai lluniau o'r Gala ar Dachwedd 5.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy