成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Mattoidz Naws yn y C诺ps
Adolygiad o gig Naws Mai 5, 2006 yn y C诺ps, Aberystwyth gan Owain Schiavone.
Lle a phryd
Tafarn y C诺ps, Aberystwyth - 5ed Mai 2006

Y bandiau
Mattoidz, Bob, Gola Ola

Awyrgylch
Mae awyrgylch y C诺ps yn wahanol i ganolfannau gigs eraill, yn fach ac yn 'intimate' sy'n dda gan eich bod yn teimlo'n agos iawn i'r bandiau. Gyda cynulleidfa dda yno roedd y bandiau hefyd fel petaen nhw'n mwynhau yr awyrgylch glos. Mae nosweithiau Naws wedi ail-sefydlu'r lle fel canolfan gigs tanddaearol.

Trac y noson
Nes i fwynhau nifer o ganeuon newydd set Mattoidz, ond hen ffefryn Y Dyn Telesales sy'n mynd 芒 hi - c芒n sy'n adlewyrchu holl egni y gr诺p.

Disgrifiwch y perfformiadau
Gola Ola
Gola Ola Dyma'r tro cyntaf i mi weld Gola Ola, er fy mod wedi clywed s么n amdanynt ers peth amser, felly doeddwn i ddim yn si诺r beth i'w ddisgwyl ond ches i ddim o'n siomi o gwbl ganddyn nhw. Roedden nhw'n dynn iawn am fand cymharol ifanc a roedd llais da iawn gan y prif ganwr a harmon茂au lleisiol yn arbennig o dda. Roedd rhai o'r caneuon yn fy atgoffa o stwff cynnar y Manics, ond roedd amrywiaeth dda i'r set o roc trwm ac ambell i gan fwy ffynci. Set arbennig o dda gan y band o Borthmadog a dwi'n si诺r fod dyfodol iddyn nhw.

Bob
Bob Mae Bob yn fand eithaf cyfarwydd i bobl Aberystwyth erbyn hyn, gyda cwpl ohonyn nhw yn y coleg yma. Fel arfer roedden nhw'n llawn egni a'i harddull pync trwm yn ysgwyd seiliau'r C诺ps. Aeth yr hen ffefryn, a ch芒n mwyaf adnabyddus y gr诺p, Defaid, lawr yn dda iawn wrth gwrs ac mae llais cras y canwr yn eithaf unigryw yma yng Nghymru. Braf gweld Bob yn chwarae yn y C诺ps am y tro cyntaf ers peth amser.

Mattoidz
Mattoidz Mae Mattoidz erbyn hyn wedi sefydlu eu hunain fel un o brif grwpiau'r s卯n gerddoriaeth Gymraeg, rhywbeth gafodd ei gadarnhau wrth iddyn nhw ennill gwobr 'Band y Flwyddyn' yng Ngwobrau RAP eleni. Mae hyn yn bennaf, diolch i'w perfformiadau byw cyson a'r ffaith eu bod wastad yn denu torf i'w gigs. Mae'n amlwg fod y mwyafrif o'r gynulleidfa wedi dod yno i weld y 'Toidz a roedd pawb yn mwynhau eu perfformiad egn茂ol. Llwyddodd y gr诺p i sefydlu perthynas dda gyda'r gynulleidfa o'r dechrau a chafwyd nifer o ganeuon newydd yn ogystal 芒 hen ffefrynnau fel Angel a Sos Coch.

Tri band roc go iawn gyda'r ddau gyntaf yn gobeithio cyrraedd uchelfannau'r prif fand, ac mae pob gobaith ganddyn nhw ar sail y noson yma.

Uchafbwynt y noson
Roedd perfformiad Gola Ola arbennig o dda, ond yr uchafbwynt oedd cyflwyno cacen benblwydd i Steve, drymiwr Mattoidz a phawb yn ymuno i ganu pen blwydd hapus!

Peth gwaethaf am y noson
Fod dim mwy o'r gynulleidfa wedi cyrraedd yn ddigon cynnar i weld perfformiad Gola Ola.

Achlysur Roc A R么l
Roedd hi'n amlwg fod drymiwr Mattoidz wedi cael sawl peint i ddathlu ei ben blwydd!!

Beth sy'n aros yn y cof?
'Drum-sol' y drymiwr tuag at ddiwedd set Gola Ola a lwyddodd i greu argraff ar bawb yn y gynulleidfa.

Talent gorau'r noson
Mae gan Gola Ola'r potensial i fynd yn bell.

Marciau allan o ddeg
8陆

Un gair am y gig
Roc

Adolygiad gan Owain Schiavone

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy