成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aelodau'r Band Adolygiad o'r CD "Cerdded"
Dylan Davies sy'n adolygu'r CD newydd a chyffrous "Cerdded," gan y gr诺p lleol "Coda"
Faint ohonoch sy' wedi clywed am y gr诺p newydd Coda?. Maent yn dod o Ddyffryn Teifi ac wedi cynhyrchu CD. Wedi i mi glywed bod eu cryno ddisg newydd yn cael ei lansio, rhaid oedd ar unwaith fynd i'w phrynu.

Cenedl sydd wedi tyfu i fyny heb lawer o s卯n gerddoriaeth fodern Cymraeg cyson ydym ni'r Cymry. Tan y chwedegau hwyr a'r saithdegau cynnar dim ond canu clasurol oedd yn derbyn clod yng ngwlad y g芒n. Newidiodd hyn i gyd gyda dyfodiad rhaglen nosweithiol "Y Dydd" pryd y daeth Dafydd Iwan i'r amlwg gyntaf. Erbyn hyn mae'r s卯n wedi datblygu a nifer o berfformwyr wedi mynd a dod. Yn ddiweddar bu grwpiau fel Mega, Eden ac yn ddiweddar iawn Max-N. Ond byr fu eu arhosiad ac erbyn hyn mae'r rhain wedi diflannu o'r sin gerddoriaeth Gymraeg.

Symlrwydd y clawr
Wrth edrych ar CD y gr诺p Coda, y peth cyntaf a'm trawodd oedd symlrwydd y clawr. Coda sef enw'r band yn blaen iawn ar groes o gefndir lliwgar a chynnes. Wrth agor y casyn rydym yn cael gwybod enwau a swyddi'r pedwar bachgen yn y band. Un yn chware'r drymiau, un yn brif leisydd a dwy git芒r.

Wrth wrando ar y CD am y tro cyntaf, roeddwn yn edrych ymlaen i glywed y caneuon. Sylwais bod arddull syml i'r caneuon, a hyd yn oed y gerddoriaeth. Teimlaf, yn aml bod bandiau Cymraeg sydd yn ceisio dod allan yn y byd cerddoriaeth yn cyfansoddi caneuon sydd yn rhy uchelgeisiol i'w gallu. Tuedda'r geiriau i fod yn arwynebol ac heb lawer o ddyfnder. Gyda Coda mae'n rhaid ystyried oedran, profiad byd cerdd a phrofiad bywyd bob dydd yr aelodau.

Deuthum i'r casgliad fod y mwyafrif o'r geiriau yn dderbyniol. Rhaid yw canmol y gr诺p am fod yn wreiddiol ac am ysgrifennu geiriau a threfnu alawon hollol newydd ac unigryw. Mae hyn yn eu galluogi i weithio o fewn cwmpawd maent yn hapus a chyffyrddus ynddo. Bydd yn ddiddorol dilyn ei gyrfa a gweld y datblygiad cerddorol a geiriol.

Rydw i wedi dwli ar y g芒n gyntaf sef 'Cymer Fi.' Dim am unrhyw reswm yn benodol, ond teimlaf ei fod wedi 'clicio.' Yn enwedig wrth yrru'r car, mae'n ysgogi i yrru yn gynt. Wrth symud ymlaen at yr ail g芒n sef 'Cerdded', teimlaf fod yr elfen naturiol o'r perfformwyr yn cael ei golli yn y g芒n. Credaf fod y lleisiwr o dan staen ac yn y drydedd g芒n cawn steil arall yr 'heavy metal' gyda'r git芒r fas a'r drwm yn amlwg iawn. Mae'r unawd gyda'r git芒r flaen yn effeithiol ac yn gweddu i'r dull yma o ganu.

Wrth i mi wrando ar y gryno ddisg, cerddodd mam i mewn i'r ystafell. Mae mam yn teimlo bod llawer o ddylanwad y saithdegau (cyn fy amser i!) yn enwedig ar yr ail g芒n yn ymdebygu i ddull y 'Rolling Stones.'

Wrth gloi, un peth sy'n amlwg yw bod y canwr yn medru canu mewn tiwn, a bod yr offerynwyr wedi eu trwytho yn gelfydd yn yr offerynnau. Mae hyn yn amlwg wrth wrando ar y gryno ddisg. Un siom sydd nad oes mwy o ganeuon ar y CD. O'r ychydig rai gwelwn fod ystod eang o dalent i fedru perfformio gwahanol ddulliau o gerddoriaeth ysgafn. Byddaf yn edrych ymlaen yn eiddgar at y CD nesaf, gan obeithio y bydd yn cynnwys mwy o ganeuon ac efallai albwm yn nes ymlaen.

Gobeithio wedi'r holl waith caled ac ennill cystadleuaeth 'Brwydr y Bandiau' Mentrau Iaith Cymru a C2 成人快手 Radio Cymru mae dechrau'r daith fydd hyn i Coda, ac nid y diwedd. Felly, gydag ychydig o lwc medrwn edrych ymlaen am sawl blwyddyn o ddatblygiad cerddorol gan Coda.

Adolygiad gan Dylan Davies.

Mwy am Coda

Darparwyd yr erthygl hon i wefan Lleol fel rhan o gynllun Cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion sut fedrwch chi gael 拢30 am ysgrifennu - cliciwch yma.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy