成人快手

Y Bardd Cocos

Un o'r llewod ar Bont Britannia

Bardd gwlad a ddaeth yn enwog am ei rigymau anfwriadol ddoniol. Meic Stephens sydd yn s么n am ei hanes.

Ei enw iawn oedd John Evans, ond mae'n enwocach fel Y Bardd Cocos, nid ar gyfrif ei waith llenyddol ond oherwydd ei gymeriad diniwed a doniolwch anfwriadol ei rigymau. Cafodd ei lysenw gan ei fod yn hel ei damaid trwy werthu cocos a chasglu peiswyn.

Testun sbort oedd John Evans ar hyd ei oes. Arferai ddweud nad oedd yn gwybod ym mha flwyddyn y ganwyd ef ond ei fod yn bur sicr mai John Evans oedd ei enw gan iddo glywed ei fam yn ei alw wrth yr enw hwnnw ar sawl achlysur. Er hynny, ganwyd ef ym 1826 ym Mhorthaethwy yn Sir F么n. Ni gafodd ysgol erioed a chredai fod rhai o feirdd amlwg ei gyfnod wedi cael gormod.

Trigai am flynyddoedd ym Mhen Clip, Porthaethwy. Roedd y Bardd Cocos yn agos at fod yn anllythrennog; yn sicr, nid oedd yn llawn llathen. Prin bod na synnwyr na mydr nac odl yn ei waith. Rhyw fath o MacGonagall Cymru ydoedd mewn gwirionedd, ond heb athrylith y bardd o'r Alban.

Ymhyfrydai gymaint yn ei rigymau nes y gobeithiai gael priodi y Frenhines Fictoria ac anogai rhai o'i gydnabod ef gan ateb ei gynigion 芒 llythyrau a ysgrifenwyd ganddynt hwy. Fe'i hurddwyd gan ei edmygwyr direidus fel 'Archfardd Cocysaidd Tywysogol' a'i arwisgo mewn c么t fawr dew laes a het 芒 choron o fwclis amryliw o'i hamgylch, ac roedd yn arfer mynychu'r Eisteddfod yn y wisg anhygoel hon.

Arferai rhai o'i gefnogwyr mwy caredig argraffu enghreifftiau o'i waith yn daflenni, er mwyn iddo eu gwerthu mewn ffeiriau. Ysbrydolwyd un o'i benillion mwyaf adnabyddus gan y llewod cerfiedig ar yr hen Bont Britannia sy'n cysylltu M么n 芒'r tir mawr:

Pedwar llew tew
Heb ddim blew,
Dau 'rochr yma
A dau 'rochr drew.

Cyhoeddwyd detholiad o'i rigymau ym 1879 ac un arall ym 1923. Daeth 'cocosfardd' a 'cocosaidd' yn dermau am y math hwn o farddoni.

Bu farw ym 1888. Mae ei fedd ym mynwent eglwys Sant Tysilio, ar ynys fechan yn y Fenai, a ddisgrifir fel y man mwyaf iachus yng Nghymru gyfan i gael eich claddu. Ymhlith beirdd eraill sy'n gorwedd yno mae Cynan, a'r hanesydd J.E. Lloyd.

Meic Stephens


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 成人快手 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.