成人快手

T E Lawrence

Clocwedd o'r top ochr chwith: T E Lawrence 漏 Llyfrgell Bodleian, Rhydychen; Snowdon Lodge Tremadog; llun wedi ei gyfrannu gan Graham Cathcart yn yr anialwch; llun ohonno wedi ei gyfrannu gan Graham Cathcart (gyda ffon)

Swyddog ym myddin Prydain a ddaeth yn enwog am arwain y gwrthyryfel Arabaidd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ganwyd T E Lawrence yn Nhremadog ar Awst 16 1888 ac fe'i magwyd yn Rhydychen yn bennaf, gan gael ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen.

A wyddech chi: Defnyddir yr ystafell lle ganwyd Lawrence fel toiled yng Ngwesty'r Snowdon Lodge.

Adnabyddir Lawrence bellach fel Lawrence o Arabia oherwydd ei ran yn y gwrthryfel a sicrhaodd fuddugoliaeth byddin Prydain yn erbyn Ymerodraeth Twrci. Anfarwolwyd ei anturiaethau yn y ffilm enwog Lawrence of Arabia a enillodd saith Oscar gyda Peter O'Toole yn chwarae rhan Lawrence.

Fe'i ganwyd yn Nhremadog gan fod ei deulu yn digwydd aros yno ar y pryd ar 么l ffoi o'r Iwerddon. Gorfu i'w dad, Robert Chapman, ail fab teulu o dirfeddianwyr o Iwerddon, adael ei gartref oherwydd iddo syrthio mewn cariad ag athrawes ei ferch, Sarah Lawrence. Pan ddaeth ei wraig i wybod am eu perthynas, symudodd Chapman i Ddulyn at Sarah cyn i'r ddau symud wedyn i Dremadog. Buont yn byw yn yr Alban a Ffrainc cyn cartrefu yn y pendraw yn Rhydychen.

Enillodd Lawrence radd dosbarth cyntaf mewn Hanes Modern o Goleg yr Iesu yn Rhydychen a dewis gyrfa fel archeolegydd gan deithio ar draws y Dwyrain Canol a gweithio yn Archamish yn arbennig.

Ond ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd 芒'r Gwasanaeth Gwybodaeth Cudd yn Cairo lle bu'n gweithio ar gynlluniau i sbarduno ac arwain gwrthryfel ymhlith yr Arabiaid. Er iddo gael ei ddal a'i boenydio sawl gwaith, roedd Lawrence yn allweddol ym muddugoliaeth y Prydeinwyr ar yr Ochr Ddwyreiniol. Gan wisgo dillad traddodiadol Arabaidd, arweiniodd Lawrence y gwrthryfel ac arwain ei ddynion i'r anialwch er mwyn gadael y ffordd yn glir i fyddin Prydain ymosod ar Syria a Phalesteina.

Yn ddiweddarach, ymunodd ag adran ddiplomataidd y Dwyrain Canol cyn newid ei enw i T E Shaw ac ymuno 芒'r RAF fel peiriannydd. Roedd ganddo gariad mawr at beiciau modur ac fe brynodd sawl model George Brough, y rhai cyflymaf bryd hynny. Yn 1935, fe'i lladdwyd mewn gwrthdrawiad beic modur. Gosodwyd carreg goffa iddo yn Eglwys St Martin yn Eglwys Wareham, Dorset.


Llyfrnodi gyda:

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 成人快手 Cymru.

Blwyddyn Gron

Calendr

Misoedd

Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.