成人快手

Tanni Grey-Thompson

Tanni Grey-Thompson

Ganwyd Tanni ar Orffennaf 26 1969 ac fe'i magwyd yng Nghaerdydd. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun St Cyres, Penarth.

Cerys ydy ei henw go iawn hi ond fe adnabyddir hi fel Tanni gan fod ei chwaer hynaf yn mynnu ei galw yn Tiny.

Er iddi gael ei geni efo Spina Bifida, mae hi wedi llwyddo i oresgyn hynny a datblygu'n un o athletwyr mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd Cymru.

Yn ifanc, bu'n chwarae p锚l fasged ac yn nofio ond ar 么l gweld Marathon Llundain ar y teledu fe'i denwyd at athletau.

Llwyddiant mawr cyntaf Tanni oedd cynrychioli Cymru yn y g锚mau cenedlaethol i ieuenctid yn 15 oed pan enillodd y 100m yn annisgwyl.

Ers hynny mae hi wedi mynd o nerth i nerth gan chwalu sawl record byd ac ennill rhes o deitlau gan gynnwys naw medal Olympaidd yn Barcelona, Atlanta a Sydney.

Mae hi hefyd wedi ennill marathon Llundain chwech o weithiau, ac fe ddaeth ei buddugoliaeth yn Ebrill 2002 prin ddeufis ar 么l genedigaeth ei merch Carys.

Mae llwyddiannau Tanni hefyd wedi arwain at yrfa yn y byd cyfryngol gan gynnwys ei gwaith fel cyflwynwraig i raglen 成人快手 Cymru X-ray.

Mae hi hefyd yn llysgennad dros chwaraeon ac yn gweithio dros Gyngor Chwaraeon Cymru, Sefydliad Chwaraeon y Merched ac Ymddiriedolaeth Chwaraeon yr Ifanc.

Dydy o'n fawr o syndod felly bod Tanni wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys MBE, OBE, Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 成人快手 Cymru a Chymraes y Flwyddyn.

Roedd Tanni Grey Thompson yn un o'r s锚r a aeth i Nant Gwrtheyrn fel rhan o raglenni pry ar y wal S4C, sef Cariad@iaith, i ddysgu Cymraeg. Cafodd ei gwobrwyo am fod y ddysgwraig orau o blith y s锚r eraill a ymddangosodd ar y rhaglen.

Ei munud fawr: cael ei gwahodd i'r Academi Chwaraeon i gwmni rhai o'r cewri megis Pele, Jack Nicklaus a Michael Jordan.

Yn answyddogol: Roedd hi'n amhosibl iddi hi dderbyn ei thrydedd wobr am Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yn 2000 gan na chodwyd ramp i fyny at y llwyfan. Fe gwynodd cannoedd o wylwyr ond doedd o ddim yn poeni gymaint 芒 hynny arni hi.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 成人快手 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.