Mae llawer yn adnabod Steffan Rhodri fel Dave y gyrrwr bws yn y gyfres deledu boblogaidd Gavin & Stacey neu fel Andy yn y gyfres Gymraeg, Con Passionate.
Mae wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar deledu Cymru ers blynyddoedd ond, er ei lwyddiant ar y sgr卯n fach, mae'r tad i ddau o blant yn dweud ei fod hapusaf yn ei fywyd proffesiynol yn y theatr pan mae'n ymarfer drama lwyfan - mae'n brofiad mwy 'pur ac uniongyrchol' na theledu, meddai.
Bu'n gwneud llawer o waith i gwmni Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug - gan actio mewn degau o gynyrchiadau - ac yn 2000 bu'n gweithio yn Theatr y Globe, Llundain, yn actio yn y Tempest a Two Noble Kings.
Cafodd ei fagu yn Nhreforys gyda byd y ddrama yn ei waed: roedd ei fam a'i dad yn hoelion wyth cwmni drama Gymraeg Abertawe. Wedi ymddeol daeth ei dad, Glyn Ellis, yn actor proffesiynol a chwaraeodd ran Dan Llywelyn yn Pobol y Cwm.
Dechreuodd Steffan actio pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera fel aelod o Theatr Ieuenctid Cymru a Theatr Gorllewin Morgannwg. Graddiodd mewn Saesneg a Drama o Brifysgol Caerwysg.
Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn actor ffilm llwyddiannus hefyd.
Yn 2010 ymddangosodd yn y ffilm Harry Potter and the Deathly Hallows fel Reg Cattermole, un o gymeriadau'r Ministry of Magic.
Yn 2009, ymddangosodd fel cystadleuydd ar raglen Nadolig Mastermind Cymru 成人快手 Cymru gyda Maria Pride, Huw Stephens a Non Evans. Ei bwnc arbenigol oedd Hanes Maes Sain Helen.
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn