Ar 么l dod yn anfodlon 芒 bywyd crefyddol a chymdeithasol Cymru yn y 19eg ganrif, daeth Michael D Jones yn ganolog i'r gwaith o sefydlu gwladfa newydd Gymreig i dros 150 o Gymry ym Mhatagonia.
Roedd Michael D Jones yn Gristion ymroddedig ac ar y pryd yn Brifathro Coleg Diwinyddol y Bala. Roedd hefyd yn feirniadol iawn o'r tirfeddianwyr Ceidwadol, a oedd, yn ei farn ef, yn trin y werin fel baw.
Ni chredai fod ymfudo i America ac Awstralia, fel oedd y werin yn ei wneud yn eu miloedd ar y pryd, yn ateb y broblem chwaith gan nad oedd modd cadw'r iaith Gymraeg yn fyw yno.
Chwiliodd felly am le a fyddai'n rhoi cyfle i'r Cymry arddel eu diwylliant eu hunain. Derbyniodd adroddiadau ffafriol iawn am Ddyffryn y Chubut ym Mhatagonia, ardal denau ei phoblogaeth yn yr Ariannin.
Hwyliodd 153 o Gymry ar y Mimosa o Lerpwl ym 1865 am Batagonia ac heb yn wybod iddyn nhw ar y pryd, i wynebu blynyddoedd o galedi. Dau amaethwr yn unig oedd ymhlith y criw arloesol - a phedwar gweinidog! Doedd gan y criw mo'r profiad amaethyddol felly i gynnal y wladfa newydd yn y blynyddoedd cynnar.
Ond, er gwaethaf y blynyddoedd anodd, fe lwyddodd Gwladfa Patagonia i gynnal ei Chymreictod tan ar 么l yr Ail Ryfel Byd.
Yn ddiweddar iawn, fe welwyd adfywiad mawr mewn diddordeb yn y diwylliant Cymreig ym Mhatagonia ac mae llawer yno yn dysgu'r Gymraeg eto.
Er iddo fod yn flaenllaw iawn yn y sefydlu, aros yng Nghymru a wnaeth Michael D Jones ei hun i godi arian at y fenter ac i hybu cenedlaetholdeb ymhlith y genhedlaeth ifanc fel y David Lloyd George ifanc.
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn