Hanes 'Lynn the Leap' neu Lynn Davies, yr unig athletwr o Gymru i ennill y fedal aur yn y Gemau Olympaidd yn y categori 'trac a chae'.
Y Naid aur
Yn dathlu ei benblwydd yn 70 eleni, mae 'Lynn the Leap' unwaith eto yn y newyddion gan fod y DU yn gartref i'r Gemau Olympaidd yn 2012.
Ganwyd ef ar Fai 20 1942 yn Nant-y-moel. Ef yw un o'n athletwyr mwya poblogaidd gan iddo gystadlu yn nhri o'r Gemau Olympaidd. Enillodd y fedal aur ac yntau ond yn 22 oed am y Naid Hir yng Ngemau Olympaidd 1964 yn Tokyo.
Fe wnaeth Lynn Davies y gorau o'r tywydd gwyntog a gwlyb i faeddu'r pencampwr ar y pryd oedd hefyd yn dal y Record Byd, Ralph Boston, gyda naid arwrol o 8.7 medr.
Melltith Mecsico
Ond daeth tro ar fyd yn 1968 pan dychwelodd Lynn Davies i'r Gemau yn Ninas Mecsico i amddiffyn ei deitl.
Fel gweddill y dorf, cafodd ei syfrdanu gan naid ryfeddol Bob Beamon o 8.90 medr gan ddweud wrth yr Americanwr ei fod 'wedi dinistrio'r digwyddiad.'
Yr tro hwn, daeth Lynn yn 9fed gan hefyd golli cyfle i gystadlu yng Ngemau Olympaidd Gwaedlyd Munich ym 1972.
Fodd bynnag, fe erys ei record gorau o 8.23 medr, a wnaeth gyflawni yn 1968 yn Berne, fel y Record Gymraeg am y naid hir am 34 mlynedd.
Aeth Lynn Davies ymlaen i ennill yr Aur yng Ngemau'r Gymanwlad yn Jamaica yn 1966 a Chaeredin yn 1970 a chipiodd hefyd yr aur ym Mhencampwriaethau Ewrop yn 1966 a'r arian yn 1969.
Lynn the Leap
Yn dilyn ei ymddeoliad o'r byd chwaraeon, trodd Lynn Davies ei law i weinyddu chwaraeon gan reoli sgwad athletau Prydain yn y Gemau Olympaidd. Bu hefyd yn reolwr technegol i'r 'Canadian Track and Field Association.'
Ef oedd llywydd UK Athletics a bu'n ran bwysig o gais llwyddiannus Llundain i lwyfannu Gemau Olympaidd 2012.
Cafodd ei anrhydeddu gyda CBE yn 2006 am ei wasanaethau i'r byd Chwaraeon wedi iddo ennill yr MBE. Ydi, mae 'Lynn the Leap' yn dal yn enw i'w gofio ym mhantheon atheltwyr enwocaf Cymru.
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn