Y Gwyddonydd o Aberd芒r sy'n arwain gwyddonwyr byd-enwog y Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr ('Hadron Collider') yn Geneva.
Athrylith Aberdar
Mae Dr Lyn Evans wedi sefydlu gyrfa yn adeiladu peiriant i atgynhyrchu dirgelwch oesol y "glec fawr", y Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr, (Hadron Collider). Yn ddiweddar, darganfuodd y gwyddonwyr, gyda Dr Evans yn eu harwain, y Higgs Boson (neu Geiryn 'Duw'), cam mawr yn y maes gwyddonol.
Ganwyd Dr Lyn Evans yn Aberd芒r ym 1945, ac aeth i Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberd芒r ac yna ymlaen i Brifysgol Abertawe i astudio Ffiseg. Wedi cwblhau ei radd, arhosodd yn Abertawe i ymchwilio i ryngweithio ymbelydredd laser dwys 芒 nwyon, a dyfarnwyd PhD iddo mewn ffiseg gan Brifysgol Cymru ym 1970.
Y Peiriant Hadron
Ry'n ni'n chwilio am yr atebion i gwestiynau elfennol y byd ac, yn aml iawn, i gael yr atebion am y petha lleiaf, rhaid cael y peiriannau mwya.
Dr Lyn Evans (2008)
Geneva oedd ei gyrchfan nesaf, lle treuliodd ddwy flynedd yn gweithio fel cymrawd ymchwil yn Labordy Ffiseg Gronynnau Ewrop (CERN). Ym 1971 ymunodd 芒 th卯m Syr John Adams i adeiladu cyflymwr gronynnau mawr y 1970au, y Syncrotron Protonau Mawr. Ers hynny, bu'n gweithio ar holl brosiectau mawr CERN, gan adeiladu enw da yn fyd-eang fel arbenigwr eithriadol ar gyflymwyr gronynnau.
Mae Dr Evans wedi treulio 16 mlynedd diwethaf ei yrfa yn arwain y t卯m rhyngwladol sy'n adeiladu'r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr, a gydnabyddir yn eang fel y peiriant gwyddonol mwyaf cymhleth a adeiladwyd erioed. Mae'r gwaith hwn wedi dal dychymyg pobl yn fyd-eang, ac os bydd yn cyflawni ei amcanion, bydd yn datgloi cyfrinach ffiseg gronynnau a'i effaith ar rymoedd natur. Mae wedi derbyn llawer o wobrwyon yn ystod ei yrfa gan gynnwys CBE yn 2001.
Ym mis Gorffennaf 2012 cyhoeddwyd i'r wasg mewn Seminar arbennig fod y Gwyddonwyr yn CERN wedi dod o hyd i'r Groynyn sy'n cael ei adnabod fel 'Gronyn Duw', un o'r darganfyddiadau mwya pwysig yn y byd gwyddonol ers dyddiau Einstein.
Mewn cyfweliad gyda 成人快手 Wales, dywedodd Dr Evans:
"I ddweud y gwir, dwi wedi fy syfrdanu. Doeddwn i ddim yn disgwyl y byddai [y gronyn] yn cael ei ddatgelu mor glir. Roedd yr awyrgylch yn y seminar yn ryfeddol ac yn emosiynol iawn."