Mae'n debyg mai Syr Kyffin Williams oedd arlunydd mwyaf adnabyddus a phoblogaidd ei gyfnod yng Nghymru a'i ddarluniau yn addurno muriau sawl cartref ar hyd a lled y wlad.
Ganwyd Kyffin Williams ar 9fed o Fai 1918. Roedd yn hanu o hen deulu o dirfeddianwyr o F么n, lle bu'n byw ar hyd ei oes, gan ymgartrefu ym Mhwll Fanogl ger Llanfairpwll.
Yn 1941 fe fethodd brawf meddygol i fynd i'r fyddin gan ei fod yn dioddef o epilepsi ac fe'i cynghorwyd i geisio gwaith oedd ddim yn rhoi straen arno. A dyna ddechrau gyrfa un o arlunwyr mwyaf cynhyrchiol Cymru.
Er gwaethaf anawsterau academaidd, aeth Kyffin i Goleg Celfyddyd Gain y Slade yn Llundain yn 1941 gan ddod yn athro celf yn ddiweddarach yn Ysgol Highgate yn Llundain. Yn 1968 enillodd ysgoloriaeth Winston Churchill i astudio a phaentio Patagoniaid o dras Cymreig yn y Wladfa.
Fe gafodd ei wneud yn 'RA', sef aelod o brif fudiad celf Prydain, yr Academi Frenhinol, yn 1974.
Yn ogystal 芒 bod yn un o 80 aelod yr Academi Frenhinol, bu Syr Kyffin hefyd yn Llywydd Academi Frenhinol y Cambria. Gellir gweld ei waith mewn orielau ar draws ynysoedd Prydain.
Bu farw yn 88 oed ar 1 Medi 2006, wedi bod yn dioddef o gancr.
Fe roddodd Syr Kyffin 400 o'i luniau gwreiddiol i Oriel M么n yn Llangefni yn ystod ei oes gyda'r dymuniad bod oriel arbennig i'w waith yn cael ei hagor yn ei dref enedigol.
Mwy
Cysylltiadau'r 成人快手
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn