11 Tachwedd 2011
Dyma un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru ac enillydd Gwobr Arbennig Bafta Cymru.
Hogyn o Sling
Magwyd John Ogwen ym mhentref bach Sling, ger Bethesda lle ganwyd ef ar Ebrill 25 yn 1944. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn actio ers ei ddyddiau ysgol. Roedd yn aelod brwd o gwmni drama Ysgol Dyffryn Ogwen, dan hyfforddiant yr athro Saesneg, Rhys Gwyn a'r athro hanes, Ieuan Llewelyn Jones.
Dylanwad mawr arall ar y cwmni drama oedd yr athro a'r dramodydd, . Ysgrifennodd basiant y Pasg ar gyfer y plant, ac mae John yn cofio iddo dynnu ei goes, gan ddweud mai fo roddodd ei gyfle cyntaf iddo fel actor pan chwaraeodd Iesu Grist yn ei ddrama.
Ychydig a feddyliai y byddai Gwenlyn Parry, a'i ddrama Y T诺r, yn chwarae rhan mor allweddol yn ei yrfa yn nes ymlaen, fel mae'n s么n yn ei John a'i wraig, Maureen Rhys, a berfformiodd y ddrama am y tro cyntaf yn 1978 ac, yn ddiweddarach, mewn cynhyrchiad teledu hefyd.
Aelodau eraill y cwmni drama yn Nyffryn Ogwen oedd yr actor Gwyn Parry, a'r dyn camera blaenllaw Alwyn Roberts.
Roedd John Ogwen hefyd yn chwaraewr p锚l-droed da, ac yn streicar i d卯m Dinas Bangor tra yn y chweched dosbarth. Mae'n dal i ymddiddori yn y g锚m, ac yn gefnogwr brwd i glwb Everton.
Mentro yn Llundain
'Bydd yn rhaid i ti benderfynu os wyt ti am fod yn genedlaetholwr neu'n actor.' 'Fe wnai ychydig o'r ddau,' meddwn.
John Ogwen
Astudiodd Saesneg a Chymraeg ym Mhrifysgol Bangor, a pharhodd ei ddiddordeb mewn actio dan ddylanwad yr athro John Gwilym Jones. Cychwynnodd ar ei yrfa yn y byd adloniant yn syth wedi gadael y coleg. Meddai: "Ar y diwrnod y c锚s i fy ngradd, cynigodd Wilbert Lloyd Roberts job i mi efo Cwmni Theatr Cymru, ac mi es yn syth i berfformio yn Steddfod Bala yn 1967."
Aeth i Lundain am gyfnod, a chael clod am ei ran yn y ddrama 'The Corn is Green' gyda'r enillydd Oscar, Wendy Hiller. Wrth gofio'r cyfnod yn Llundain, mae'n dweud: "Roedd o'n brofiad eitha od, ond mi wnes i ei fwynhau o. Ond, yn y diwedd, mi wnes i a fy asiant gytuno mai adra' roeddwn i eisio bod. Mi wnaeth o ddeud 'You'll have to make up your mind whether you want to be a nationalist or an actor.' 'I'll be a bit of both' meddwn i."
Ennill BAFTA
Mae wedi chwarae'r brif ran mewn nifer o gyfresi ers hynny, gan gynnwys rhannau adnabyddus mewn dram芒u a ddaeth gyda dyfodiad S4C, fel Minafon a Deryn.
Mae hefyd wedi cymryd rhan mewn nifer o ffilmiau, ond meddai: "Mae pawb yn cofio dram芒u fel Y Twr gan Gwenlyn Parry, er bod hynny dros ugain mlynedd yn 么l."
Ymddangosodd John Ogwen yn y gyfres gwlt, Doctor Who yn 1985. Roedd yn actio'r cymeriad Bostock, cynorthwyydd i Orcini (William Gaunt), Marchog yn Urdd Oberon, yn y bennod 'Revelation of the Daleks'.
Cafodd ei gyfraniad fel actor ei gydnabod gan y diwydiant yng Nghymru pan enillodd Wobr Arbennig Bafta Cymru yn 2004.
Mae'n briod 芒'r actores adnabyddus Maureen Rhys ac yn byw ym Mangor. Mae ganddyn nhw dri o blant. Cyhoeddodd ei hunangofiant, 'Hogyn o Sling' yn 1996.