成人快手

John Charles

John Charles

'Roedd hi fel petai bod rhagluniaeth wedi trefnu mai ar Ddydd G诺yl Ddewi y cynhaliwyd angladd un o'r p锚l-droedwyr gorau a welodd Cymru erioed...

Bachgen Cwmdu

Ganwyd William John Charles yn Cwmdu ger Abertawe i deulu digon tlawd ei byd. Dywedir mai ffa ar dost oedd pryd arferol y teulu gyda ffowlyn ar ddydd Nadolig.

'Roedd John Charles yn ddyn cryf a chadarn yn mesur 6 troedfedd 2 fodfedd ac yn aml byddai'n ymddangos fel cawr ar y cae oherwydd ei daldra a'i gryfder. Er hyn 'roedd hefyd yn ystwyth ac yn gyflym ar ei draed ac fe'i disgrifiwyd fel un o athletwyr gorau yr ugeinfed ganrif.

Ymunodd John Charles 芒 Juventus, un o' r clybiau enwocaf yn y byd, yn 1957. 'Roedd Juventus wedi gorffen yn agos i waelod y tabl y tymor cyn i John Charles ymuno 芒 nhw. Ond yn ystod y pum tymor nesaf fe wnaethant ennill pencampwriaeth yr Eidal, y Scudetto tair o weithiau gyda John Charles yn sgorio 93 gol mewn 155 g锚m.

'Roedd hyn yn record anhygoel mewn cynghrair sy'n enwog am fod yn amddiffynnol a negyddol. Dewiswyd John Charles rai blynyddoedd yn 么l fel y chwaraewr tramor gorau erioed i chwarae yn yr Eidal gan guro pobl fel Michel Platini, Marco Van Basten, Zinedise Zidane a hyd yn oed y chwedlonol Diego Maradona. Roedd yn un o'r rhai a ddewiswyd yn y sgwad olaf o Gymru i lwyddo i gyrraedd Cwpan y Byd yn 1958.

Bonheddwr y cae

Nid yn unig yn arwr ar y cae ond yn ddyn bonheddig.

Lawrence Stuart

Er cystal oedd record sgorio John Charles nid yw hyn ond hanner y stori. 'Roedd yna rywbeth arall a oedd yn gosod John Charles ar wah芒n i bawb arall a hynny oedd y ffordd 'roedd yn ymddwyn at y cae. Er gwaethaf ei faint ni fyddai byth yn defnyddio ei gorff mawr a chadarn i ennill mantais annheg. 'Roedd bob amser yn ymddwyn yn gwrtais a bonheddig ar y cae. Mewn g锚m 'local derby' yn erbyn Torino fe wnaeth John Charles neidio am y b锚l a tharo yr amddiffynnwr yn ddamweiniol.

'Roedd yr amddiffynwr ar lawr a'r llwybr at y g么l yn glir i John Charles. Yn lle rhedeg at y g么l, fe giciodd John Charles y b锚l dros yr ystlys fel bod yr amddiffynnwr yn gallu cael triniaeth. Gweithredoedd fel hyn a nifer o rai tebyg a enillodd iddo'r llysenw y Cawr Addfwyn (The Gentle Giant). Yn wir, ni dderbyniodd garden goch na hyd yn oed garden i felen yn ystod ei yrfa.

Y mae yna ryw dristwch yn perthyn i hanes John Charles ar 么l i'w gyfnod ar y brig gyda Juventus ddod i ben. Ar 么l gorffen chwarae bu'n rhedeg tafarndai a siopau chwaraeon ond 'roedd ei natur garedig a'i haelioni yn ei wneud yn hollol anaddas i fod yn ddyn busnes. Arweiniodd hyn at drafferthion ariannol a fu gydag ef am weddill ei oes.

Anrhydeddu Arwr

Pwy fyddai wedi meddwl y byddai'r bachgen swil a diymhongar o gyffiniau Abertawe a fagwyd ar 'beans' ar dost yn datblygu i fod yn un o'r chwaraewyr p锚l-droed gorau a welodd y byd erioed?

Anrhydeddwyd ef gyda'r CBE yn 2001 ac yn 2002, gwnaethpwyd ef yn is-lywydd Cymdeithas Peldroed Cymru. Ond tra'n hyrwyddo ei hunangofiant, 'King John' ym Milan ar Ionawr 7 2004, cyn cyfweliad teledu, cafodd Charles drawiad ar y galon. Bu farw ar y 21 o Chwefror y flwyddyn honno.

Roedd ei gorff tal a chryf a'i sgiliau ar y cae yn ei osod yn llythrennol ben ac ysgwydd yn uwch na phawb arall. Ond yn fwy na dim 'roedd ei ymddygiad ar y cae yn ei osod ben ac ysgwydd yn uwch na neb arall.

Diolch i bapur bro Llais Aeron am yr erthygl yma a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar 成人快手 Lleol.


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.