成人快手

Jan Morris

Jan Morris

Mae Jan Morris yn adnabyddus am ysgrifennu dros ddeg ar hugain o lyfrau teithio. Ond fe'i ganwyd yn fachgen ac fel James Morris y treuliodd 46 mlynedd cyntaf ei bywyd cyn cael llawdriniaeth i newid ei rhywioldeb yn 1972.

Dechrau'r Daith

Ganwyd James Morris ar yr 2 Hydref 1926. Magwyd ef yn Clevedon, Gwlad yr Haf.

Dechreuodd deithio tra'n gwasanaethu yn y Fyddin yn 17 oed. Yn 23 aeth i astudio Saesneg yn Rhydychen cyn gweithio fel gohebydd tramor i bapurau fel The Times ac yn ddiweddarach The Guardian yn y Dwyrain Canol.

Daeth yn enwog ar 么l iddo sgwennu am y daith lwyddiannus i goncro mynydd

Fe gafodd ei lyfr cyntaf 'Coast to Coast', llyfr a ysgrifenwyd pan gafodd ysgoloriaeth i America groeso mawr.

Priododd James ei wraig Elizabeth yn 1949 ac mae ganddyn nhw dri mab ac un ferch: , awdur, bardd a cherddor sy'n wyneb cyfarwydd iawn yn y Gymru Gymraeg; Henry Morris, cerddor sy'n byw yn Sbaen; Mark Morris, awdur, darlledwr a libretydd sy'n byw yng Nghanada a Suki Morys, sy'n byw yng Nghymru gyda'i theulu.

Newid Hunaniaeth

Y ffordd orau i ddod i wybod am le ydy crwydro o gwmpas. Crwydro ar eich pen eich hun, ond gan feddwl trwy'r amser beth sy'n digwydd, beth ydych chi'n ei weld a'i deimlo.

Jan Morris

Yn 1972 daeth James i benderfyniad pwysica'i fywyd. Roedd am newid ei ryw gan ei fod yn teimlo ers ei ieuenctid mai dynes oedd e go iawn. Cafodd lawdriniaeth yn Casablanca. Roedd yn broses eitha peryglus ac anghyffredin o hyd yn y 70gau ac roedd James yn ddewr i wynebu'r fath newid byd. Yna y ganwyd Jan Morris ac felly y bu hi ers hynny.

Roedd ei wraig yn gydymdeimladol iawn am ei phenderfyniad a pharhaodd y ddau i gydfyw yn hapus wedi'r llawdriniaeth er iddynt orfod ysgaru oherwydd nad oedd modd i ddwy fenyw fod yn briod i'w gilydd bryd hynny. Roedd ei llyfr, 'Comindinum' (1974) yn trafod ei hunaniaeth newydd ac yn esbonio nad yw rhyw yn effeithio ar y grefft o ysgrifennu.

Parhaodd Jan i ysgrifennu. Ei llyfr pwysicaf yn ei barn hi ydy'r drioleg, 'Pax Britannica' sy'n trafod cwymp yr ymerodraeth Brydeinig. Ond am ei gwaith yn trafod y dinasoedd ar gwledydd lle bu'n teithio y mae hi fwyaf enwog hyd heddiw.

Cymar Oes

Mae wedi ennill nifer o wobrau a chlod yn ei gyrfa. Cyrhaeddodd restr fer y Wobr Booker ac enillodd Wobr Deithio Thomas Cook am ei chyfraniad arbennig i ysgrifennu teithiol. Yn 2005 enillodd Wobr y 'Golden Pen' i nodi ei chyfraniad arbennig i lenyddiaeth. Yn 2008 roedd yn 15fed ar restr y Times o'r ysgrifennwyr gorau ym Mhrydain ers yr Ail Ryfel Byd. Derbyniodd ei CBE gyda 'pharch poleit' yn 1999 gan ei bod yn Genedlaetholwraig i'r carn.

Mae Jan Morris wedi byw ers nifer o flynyddoedd yn Nhrefan Morys, hen stablau wedi eu haddasu ar dir hen gartref ei theulu yn Llanystumdwy. Mae hi bellach yn aelod o'r Orsedd ac yn ymddiddori'n fawr yn y pethe.

Yn 2008, agos i drigain mlynedd ers eu priodas gyntaf, cyhoeddodd Jan ac Elizabeth y byddent yn ail-briodi mewn partneriaeth sifil gan fod y gyfraith bellach yn caniatau hynny. Mae'r ddwy wedi cynllunio i gael eu claddu ar ynys fechan ar yr Afon Dwyfor tu 么l i'w cartref. Bydd y geiriad ar y garreg fedd yn darllen: 'Dyma ddau ffrind ar ddiwedd un bywyd.


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.