Bardd tra phoblogaidd tua canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Islwyn. Erys y cof amdano'n bennaf ar gyfrif ei gerdd hir 'Y Storm'.
Bardd y Mynydd
Ni lwyddodd erioed i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, er gwaethaf ei ymdrechion mynych.
Serch hynny, bu'n weithgar fel beirniad eisteddfodol ac roedd yn gyfrannwr cyson i gylchgronau'r dydd.
Ganwyd William Thomas ym 1832 ger Ynys-ddu yn Sir Fynwy, gan gymryd enw mynydd cyfagos fel enw barddol sef 'Islwyn'.
Plentyn eiddil ydoedd, yr un ieuengaf o ddeg a anwyd i rieni a oedd yn hen ond yn eithaf cefnog.
Talwyd iddo gael addysg dda a bwriadwyd iddo fynd yn dirfesurydd. Ond dan ddylanwad ei frawd-yng-nghyfraith Daniel Jenkins profodd dr枚edigaeth grefyddol a daeth i ymddiddori'n angerddol mewn barddoniaeth Gymraeg.
Cariad coll
Y digwyddiad pwysicaf yn ei fywyd, heb os nac onibai, oedd marwolaeth sydyn Anne Bowen, merch ifanc o Abertawe y bwriadai ei phriodi.
Canlyniad uniongyrchol y profiad hwn fu llunio dwy gerdd hir o dan y teitl 'Y Storm', ac ar y campwaith hwn mae ei enwogrwydd wedi ei seilio ers hynny.
Byth wedyn arhosodd Islwyn yn ei fro enedigol, gan wrthod cymryd gofal eglwys ac ymsegru ei hun i farddoniaeth.
Ym 1864 priododd Martha Davies, hithau o Abertawe, ond amharwyd ar eu priodas ddi-blant gan gysgod Anne Bowen; yn y cyfamser, roedd mam Anne wedi priodi tad Martha.
Geiriau olaf Islwyn, yn 么l tyst, oedd, 'Diolch iti, Martha, am y cyfan a wnest i mi. Buost yn garedig iawn, 'Rwyf yn mynd at Anne 'nawr.'
Y Storm
Bu cryn dipyn o dyndra ym mywyd a personoliaeth Islwyn. Hyd yn oed yn ei ymddangosiad roedd yn drawiadol: roedd ganddo gorff bach a phen anferth.
Cafodd fagwraeth Seisnig ac eto roedd ei ddiddordeb yn gyfangwbl mewn barddoniaeth Gymraeg. Roedd elfennau prudd a hwyliog yn ei gymeriad.
Cyfriniol oedd nifer mawr o'i gerddi ond roedd ei grefydd yn uniongred dros ben, yn unol 芒 chyffes ffydd y Methodistiaid Calfinaidd.
Fel beirniad anogai ar ei gyd-feirdd rinweddau'r delyneg ond mynnai gyfansoddi cerddi hirfaith yn y dull clasurol.
Dryswyd gwerthfawrogiad 'Y Storm' am gyfnod gan O. M. Edwards a methodd wahaniaethu rhwng y ddau fersiwn yn ei argraffiad o'i waith ym 1897.
Erbyn hyn, diolch i feirniaid megis Gwenallt, Meurig Walters, Saunders Lewis, a W.J.Gruffydd, gwelir godidogrwydd mewn rhannau o'r ddau, er bod y nifer o linellau'n ddigon i ddanto'r darllenydd modern.
Pererindod yr enaid
Disgrifiadau o stormydd, rhai naturiol a rhai ffigurol, sydd yn rhan gyntaf y gerdd a chyfres o fyfyrdoddau metaffisegol sydd yn yr ail.
Pererindod yr enaid a'i fuddugoliaeth dros storm bywyd yw prif thema'r cyfan. Cymysgedd o ysgrifennu mawreddog yn null y Bardd Newydd a darnau ffres ac uruchel sydd trwyddi draw.
Ar wah芒n i'r 'Storm', cyhoeddodd Islwyn dwy gyfrol o'i gerddi, sef Barddoniaeth (1854) a Caniadau (1867); wedi hynny ysgrifennodd gerddi mewn cynghanedd ar gyfer eisteddfodau neu farwnadau diawen.
Bu farw Islwyn yn 1878 ac fe'i claddwyd ym mynwent Y Babell, capel yr Hen Gorff yn Ynys-ddu.
Meic Stephens
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn