成人快手

Syr Ifan ab Owen Edwards

Syr Ifan ab Owen Edwards

Nid yn unig yn sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru, roedd Syr Ifan ab Owen Edwards yn arloeswr ffilm yn ogystal.

Bachgen y Bala

Ganwyd Ifan ab Owen Edwards yn Llanuwchllyn ger y Bala yn 1895 yn fab i Owen Morgan Edwards, yr addysgwr uchel ei barch. Mae cerflun o'r tad a'r mab wedi ei godi yn Llanuwchllyn ac mae i'w weld ar ochr y brif ffordd o'r Bala wrth ichi basio'r troad am y pentref.

Yn 诺r ifanc, aeth i Goleg y Brifysgol Aberystwyth i astudio hanes. Gwasanaethodd fel milwr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna fel athro yn Nolgellau.

Fel ei dad o'i flaen, roedd yn awyddus i ddiogelu'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Mewn erthygl yn 1922 yn y cylchgrawn i blant, Cymru'r Plant, a sefydlwyd gan ei dad, fe wnaeth gais anarferol. 'Beth wnawn ni blant Cymru, i gadw'r iaith yn fyw? Sefydlwn Urdd newydd a cheisiwn gael pob plentyn dan ddeunaw i ymuno 芒 ni.'

Urdd Gobaith Cymru

Beth wnawn ni blant Cymru, i gadw'r iaith yn fyw? Sefydlwn Urdd newydd a cheisiwn gael pob plentyn dan ddeunaw i ymuno 芒 ni.

Syr Ifan ab Owen Edwards

Yn sg卯l yr ap锚l hon, sefydlodd Urdd Gobaith Cymru. Dim ond 700 o aelodau oedd gan y mudiad yn 1922 ond erbyn heddiw mae'r ffigwr yn nes at 50,000. Treuliodd Syr Ifan weddill ei oes yn hyrwyddo'r mudiad a'r egwyddorion sylfaenol roddodd fod i'r mudiad sef gwasanaethu Cymru, cyd-ddyn a Christ. Fe'i gwnaethpwyd yn farchog yn 1947.

Ymsefydlodd Ifan ab Owen Edwards a'i deulu yn Aberystwyth ac yn 1939 agorodd yr ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yno. Dim ond saith oedd ar y gofrestr a'r ddiweddar Norah Isaac oedd yr athrawes. Erbyn diwedd y rhyfel, roedd 81 o blant a phedwar athro yn Ysgol Lluest. Er mai ysgol breifat oedd yr ysgol, cydnabyddir mai'r ysgol hon arweiniodd at sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg eraill ar draws Cymru.

Arloeswr Ffilm

Roedd Syr Ifan yn arloeswr ffilm hefyd. Ef yn wir oedd y cyntaf i wneud ffilm Gymraeg, sef y Chwarelwr a ddangoswyd am y tro cyntaf yn 1937. Fel rhan o'i gynllun i hyrwyddo'r Gymraeg, fe deithiodd Syr Ifan Gymru benbaladr yn dangos y ffilm. Mae'r ddau fab hefyd wedi bod yn amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru.

Owen Edwards oedd Cyfarwyddwr cyntaf S4C yn 1982 ac mae ei frawd Prys Edwards yn ddyn busnes amlwg, yn gyn Gadeirydd Bwrdd Twristiaeth Cymru ac yn Llywydd Anrhydeddus yr Urdd.


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.