Bywyd cynnar
Cyw newyddiadurwr yn Sain Abertawe oedd Huw cyn ymuno 芒'r 成人快手, ond bellach mae'n cyflwyno Newyddion y 成人快手 ac un o'i phrif ohebwyr.
Yn 1986, cafodd swydd fel newyddiadurwr gwleidyddol i 成人快手 Cymru a chael ei benodi'n brif ohebydd seneddol newyddion y 成人快手.
Ganwyd Huw yn Llangennech yn 1961 yn fab i Hywel Teifi Edwards, Athro Cymraeg Coleg y Brifysgol Abertawe. Roedd ei fam yn dysgu yn Ysgol Uwchradd Llanelli ac yno y bu Huw hefyd yn ei arddegau. Er iddo fwynhau yr ysgol yn fawr, mae'n disgrifio'i hun fel dipyn o swot!
Ar 么l cwblhau cwrs Lefel A, fe aeth i Brifysgol Cymru, Caerdydd gan ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg. Doedd gan Huw ddim cynlluniau pendant am y dyfodol wrth adael Coleg, a chyfaill iddo gynigiodd y syniad o gyflwyno ar orsaf radio lleol.
Symud a San Steffan
Yno yn Sain Abertawe y gwelodd Huw hysbyseb am gynllun hyfforddiant newyddion 成人快手 a gwneud cais am le yn 1984.
Ymhen dwy flynedd yn unig, Huw oedd gohebydd senedddol 成人快手 Cymru a dwy flynedd yn ddiweddarach fe'i benodwyd yn ohebydd teledu newyddion gwleidyddol. Symudodd Huw i Lundain gan fod ei waith yn bennaf yn San Steffan. Mae Huw yn mynnu ei fod yn colli cynnwrf San Steffan ond mae'n dal i fanteisio ar y rhestr hir o gysylltiadau gwleidyddol defnyddiol iawn, yn enwedig o blith cabinet cyntaf Tony Blair, a wnaeth yn ystod y cyfnod.
Ym Mai 1999, daeth Huw i sylw'r cyhoedd pan benodwyd ef yn gyflwynydd newyddion 6 成人快手 Un ac yn 2003 yn brif gyflwynydd newyddion deg sef prif raglen newyddion y 成人快手.
Mae Huw yn Gymro brwd iawn, ac er ei fod yn byw yn Llundain mae ef a'i deulu yn mynychu capel Cymraeg ac mae Huw yn siarad Cymraeg gyda'i blant adref.
BAFTA'n galw
Fe gafodd gyfle i rannu'i genadwri dros y Gymraeg mewn cyfres Saesneg ar hanes y Gymraeg sef 'The Story of Welsh'. Roedd y gyfres yn llwyddiant enfawr i 成人快手 Cymru - ac enillodd Huw Edwards wobr BAFTA Cymru am y 'Cyflwynydd Gorau ar y Sgrin' am ei waith ar y rhaglen hon, ar Ebrill 24, 2004.
Bu Huw hefyd yn cyflwyno cyfres Saesneg arall 'The Exchange' sef rhaglen drafod ar faterion Cymreig cyfoes. Yn fwy diweddar cyflwynodd raglen am Ganmlwyddiant Terfysgoedd Llanelli ac mae'n paratoi ar gyfer cyfres fawr, 'The Story of Wales' ar gyfer y 成人快手 fydd yn cael ei darlledu yn 2012.
Ef hefyd oedd prif sylwebydd y 成人快手 ar achlysur Priodas Tywysog William a Kate Middleton ym mis Ebrill 2011. Roedd 20 miliwn o bobl yn gwylio yn y DU yn unig.