成人快手

Emlyn Williams

Emlyn Williams

Cafodd y Cymro a'r Dramodydd, Emlyn Williams, lwyddiant mawr, ar y llwyfan ac yn y sinema. Ymddiddorai'n bennaf yn odrwydd cymeriad ei gyd-ddyn a chanlyniadau troseddau fel twyll a llofruddiaeth.

Pwysigrwydd Gwreiddiau

Ei gamp fawr, yng ngolwg y Cymry, oedd ail-greu y bywyd pentrefol Cymreig, a hynny mewn ieithwedd a ddeilliodd o'i famiaith, sef y Gymraeg. Siaradodd yr iaith yn rhugl ar hyd ei oes ac roedd hi'n agos iawn at ei galon.

Ganwyd Emlyn Williams ym Mhen-y-ffordd, ger Mostyn, Sir y Fflint, ym 1905, a chafodd ei addysg yn Ysgol Sir Treffynnon, cyn ennill ysgoloriaeth agored i Goleg Eglwys Grist, Rhydychen, ym 1923.

Pwl o afiechyd nerfol a achosodd iddo ysgrifennu ei ddrama gyntaf i'w gael ei chynhyrchu'n broffesiynol, sef Full Moon (1927). Yn yr un flwyddyn cychwynnodd ar ei yrfa fel actor yn y West End, gan ddychwelyd am ychydig i Rydychen i gwblhau ei radd; o hynny allan y theatr fu ei holl fywyd.

Ymhlith ei ddeg ar hugain o ddram芒u y llwyddiannau cynnar oedd Glamour (1928), The Late Christopher Bean (1933) a Night Must Fall (1935), ei ymchwiliad cyntaf i seicoleg llofruddiwr - un o'i hoff bynciau - a gafodd ei pherfformio dros bedwar cant o weithiau yn Llundain.

The Corn is Green

Yn ddiweddarach cafodd gymeradwyaeth y beirniaid gyda Pen Don (1943), The Druid's Rest (1944), The Wind of Heaven (1945) a The Power of Dawn (1976, drama deledu am ddyddiau olaf Tolstoi.

Ond gyda'r gomedi dair-act The Corn is Green (1938) daeth i amlygrwydd yng Nghymru. Fe'i seilir ar ei brofiad ei hun yn Ysgol Sir Treffynnon ac ar ei berthynas 芒'i athrawaes, Sarah Grace Cooke.

Prif thema'r ddrama afaelgar hon yw'r pwysau emosiynol a'r dieithro sy'n deillio o allu academaidd bachgen o'r dosbarth gweithiol a'r byd newydd o ddysg sy'n agor iddo.

Lleolir y ddrama yng 'Nglan Sarno', pentref dychmygol sydd ddim yn annhebyg i bentref genedigol yr awdur ei hun. Chwaraewyd rhan yr athrawes gan Flora Robson.

Ysgrifennodd yn ogystal wyth o sgriptiau ffilm, gan gynnwys The Last Days of Dolwyn (1949), stori am sut y boddwyd pentref gan dyfroedd cronfa - gan fam sydd am guddio trosedd ei mab.

Disgrifiodd ei blentyndod a'i yrfa ym myd y theatr mewn dwy gyfrol o hunangofiant, sef George (1961) ac Emlyn 1973).

Yr Ochr Dywyll

Cyhoeddodd hefyd, ym 1967, astudiaeth dreiddgar o'r 'Moors Murders', lle cafodd afael ar stori oedd yn llawn mor arswydus ag unrhywbeth yr oedd wedi ei weld ar y llwyfan.

Prif nodwedd dramau Emlyn Williams yw eu realaeth a'u difyrrwch: nid oes unrhyw ymgais i addysgu'r gynulleidfa - y stori yw'r cyfan.

Eu wendidau pennaf yw gorliwio'r emosiynau nes eu troi'n ffug, gyda'r canlyniad bod y ddrama'n troi'n felodrama, gor-hoffter o odrwydd cymeriad a defnydd gormodol o ddyfeisiadau theatrig er eu mwyn eu hunain.

Serch hynny, y bachgen o Sir y Fflint yw un o'n dramodwyr mwyaf talentog a lwyddiannus yn yr iaith Saesneg hyd yn hyn. Bu farw ym 1987.

Meic Stephens


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 成人快手 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.