Gellid dadlau mai Anthony Hopkins ydy'r seren fwyaf o Gymru ers Richard Burton, er yn gymharol hwyr yn ei yrfa y daeth i enwogrwydd mawr.
Yn y dechrau...
Fe'i ganed yn Mhort Talbot ar Ragfyr 31 1937 yn fab i Muriel a Richard Hopkins, a oedd yn bobydd. Dywedir iddo gael ei ddylanwadu gan y seren leol, Richard Burton, wnaeth ddod i'r ardal am ymweliad pan oedd Hopkins yn ddyn ifanc.
Enillodd ysgoloriaeth i RADA yn 1961 a chwaraeodd y brif ran mewn nifer o gynyrchiadau theatraidd yn ystod y 60au. Ond, cyn hynny, yn 1956 y cafodd ei gyfle cyntaf mewn cynhyrchiad 成人快手 o 'The Corn is Green' er nad oedd ganddo ef ei hun yr un gair i'w ddweud.
Cynhyrchiad arall gan y 成人快手 'War and Peace' a'i ddenodd i'r Unol Daleithiau ac yno y canfu'r llwyddiant a'i gwnaeth yn seren fawr. Daeth yn wyneb cyfarwydd iawn mewn ffilmiau llwyddiannus gan ennill canmoliaeth mawr am ei berfformiad fel Richard y 1af yn 'The Lion in Winter' ac yn yn 'The Elephant Man'.
Ond ei ran mwyaf enwog hyd yma yn bendant ydy un Hannibal Lecter, y llofrudd o ganibal yn 'The Silence of the Lambs'. Derbyniodd Oscar am ei bortread iasoer.
Troi'n Americanwr
Ond fe gafodd ei ganmol hefyd am ffilmiau megis 'The Remains of the Day, 'Nixon' a 'Shadowlands' ac fel cyfarwyddwr 'August'.
Cafodd ei urddo'n farchog yn 1993 ond yn 2000 penderfynodd gymryd dinasyddiaeth Americanaidd ac fe gafodd ei feirniadu'n hallt.
Serch hynny, mae Hopkins wedi cefnogi ei famwlad mewn sawl ffordd. Helpiodd godi 拢3.5 miliwn i achub ystad Hafod y Llan ar lethrau Eryri. Ac yn 2008 dychwelodd i Gymru i ddatguddio cofeb newydd i'r digrifwr o Gaerffili, Tommy Cooper.
Cafodd y feirniadaeth fawr o ddylanwad ar ei yrfa ac mae o bellach wedi cwblhau dwy ffilm arall am Hannibal Lecter sef 'Hannibal' a 'Red Dragon' ac mae'r ddwy wedi bod yn llwyddiant ariannol mawr.
Yn arolwg y Sunday Times yn 2002 amcangyfrifwyd i Hopkins ennill 拢21.5 miliwn mewn un blwyddyn am ei waith ffilm.
Talent annisgwyl
Ar 1 Mawrth 2003 priododd Hopkins am y trydydd tro hefo gwerthwr hen greiriau, Stella Arroyave, mewn seremoni breifat yn California. Ysgarodd Hopkins ei ail wraig, Jennifer Lyntron, yn 2002 ar 么l 29 mlynedd o briodas. Fe gafodd un ferch o'i briodas gyntaf efo Petronella Barker.
Yn 2011 datgelodd dalent newydd fel cyfansoddwr wrth i'w 'Waltz' glasurol gael ei pherfformio yn Vienna gan y feiolinydd enwog, Andr茅 Rieu gyda Cherddorfa Strauss. Dychwelodd i Gymru fel rhan o daith cerddorol i arddangos ei weithiau yn Neuadd Dewi Sant yn haf 2011, gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham yn eu perfformio.
Er yn ei saithdegau, mae'n dal i fod mor brysur fel actor ag erioed yn portreadu rhannau swmpus mewn ffilmiau fel 'Thor' a 'The Rite' yn ddiweddar.
Yn Nhachwedd 2012, rhyddhawyd y ffilm, 'Hitchcock' gydag Anthony Hopkins yn portreadu'r cyfarwyddwr ffilm byd-enwog. Er i waith colur prosthetig yr actor gael ei feirniadu, cafodd Hopkins ei hun adolygiadau positif ar y cyfan am ei bortread.