Dyddiau cynnar yn y 成人快手
Nid y lleiaf o gymwynasau Aneirin Talfan Davies i l锚n ein gwlad oedd ei nawdd hael i lu o awduron Cymraeg a Saesneg yn ystod y blynyddoedd a dreuliodd gyda'r 成人快手 yn cynnwys y Dylan Thomas ifanc.
Ymunodd 芒'r Gorfforiaeth ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd a daeth yn Bennaeth Rhaglenni ym 1966. Yn rhinwedd y swydd honno comisynodd raglenni o naws llenyddol, gan ddefnyddio talentau'r rhan fwyaf o lenorion yn y ddwy iaith.
Dyn diwylliedig a charedig ydoedd, yn wlatgarwr mwyn 芒'r iaith yn agos at ei galon.
Ganwyd ef ym 1909 yn Felindre, Henllan, Sir Gaerfyrddin, yn fab i weinidog yr Hen Gorff, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Tre-g诺yr wedi i'r teulu symud i Orseinon yn Sir Forgannwg ym 1911.
Un o'i frodyr oedd Alun Talfan Davies, y barnwr adnabyddus. Un o'i feibion yw Geraint Talfan Davies ac un o'i wyrion yw Rhodri Talfan Davies. Mae'r tri wedi dal swyddi fel Pennaethiaid 成人快手 Cymru.
Ymlaen i Lundain
Gadawodd yr ysgol pan oedd yn bedair ar ddeg oed i fod yn brentis i fferyllydd a dyna sut yr ennillodd ei damaid am nifer o flynyddoedd.
Tra'n byw yn Llundain yn y tri degau, bu'n aelod o gapel Cymraeg y Methodistiaid Calfinaidd yn Charing Cross, lle ddeffrowyd ei diddordeb mewn llenyddiaeth.
Yn yr un cyfnod cychwynnodd y cylchgrawn Heddiw ar y cyd 芒'i frawd Alun. Dychwelodd i Abertawe ym 1938, gan agor busnes fferyllydd ei hun, ond yn ystod y rhyfel fe ddinistriwyd ei siop yn llwyr gan fom Almaenig, ac felly aeth yn 么l i Lundain i gychwyn ar yrfa newydd fel darlledwr.
Ar ddiwedd y rhyfel dychwelodd i Gaerdydd ac ymuno 芒 staff y 成人快手. Erbyn hynny roedd Aneirin ap Talfan - yr enw a defnyddiai'n fynych ar gyfer ei weithgareddau llenyddol - wedi ymaelodi yn yr Eglwys yng Nghymru ac yn y man daeth yn un o leygwyr amlycaf yr eglwys honno.
Dawn Llenydda
Roedd yn awdur nifer sylweddol o lyfrau beirniadol a oedd yn eang eu gorwelion ac yn dreiddgar eu cynnwys, rhai ohonynt yn ymdrin 芒 llenyddiaeth yn yr iaith Saesneg.
Yn eu plith y mae Eliot, Pwshcin, Poe (1942) ac Yr Alltud (1944), yr unig lyfr hyd yn hyn i drafod gwaith yr athrylith Gwyddelig.
Ysgrifennodd hefyd am Dylan Thomas, a oedd yn gyfaill iddo, yn Dylan: Druid of the Broken Body (1964), un o'r lyfrau gorau am y bardd ac un a honnodd ei fod, yn y b么n, yn fardd crefyddol.
Roedd yn gyfaill mynwesol i David Jones hefyd, ac yn ei lyfr David Jones: Letters to a Friend (1979) maent yn trafod pethau Cymreig gydag arabedd.
Yn y Gymraeg roedd Aneirin Talfan Davies yn rhyddieithwr caboledig a swynol. Ceir ei ysgrifau yn y cyfrolau Sylwadau (1957), Astudio Byd (1967), Yr Etifeddiaeth Dda (1967) a Gyda Gwawr y Bore (1970), a'i feirniadaeth llenyddol yn Gw欧r Ll锚n (1948).
Ychydig o gerddi o'i eiddo sydd ar glawr ond ceir nifer ohonynt, cynnyrch meddwl cyfriniol, yn Y Ddau Lais (ar y cyd 芒 W.H.Rees, 1937) a Diannerch Erchwyn (1976).
Eto gyda ei frawd Alun, sefydlodd gwmni cyhoeddi Llyfrau'r Dryw (Christopher Davies), a'r misolyn Barn, ac fe ysgrifennodd yn gyson i'r cylchgrawn hwnnw(weithiau o dan ffugenwau) ar faterion llenyddol a diwinyddol.
I'r un wasg cyfrannodd ddwy gyfrol, ar Sir Gaerfyrddin a Sir Forgannwg, i'r gyfres Crwydro Cymru. Bu farw yn 1980.
Meic Stephens