成人快手

Pobl a'u cred: Iwan Roberts - Eckankar

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Iwan Roberts

11 Mawrth 2010

Iwan Roberts, Pennaeth Swyddfa Ryngwladol Prifysgol Bangor yn s么n am ddilyn Eckankar

"Nid oes amodau i gariad Dwyfol - yn syml, mae'n caru. Mae Duw yn caru, nid oherwydd ein bod yn ei haeddu neu ei ennill. Y rheswm syml yw mai cariad yw Duw, felly mae Duw yn caru. Enaid ydym, creadigaeth Duw, ac mae Ef/Hi yn ein caru oherwydd mai dyma Ei natur".
Sri Harold Klemp

Mae Eckankar yn grefydd lle mae profiad personol o Oleuni a Sain Duw yn allweddol ac yn cynnig modd i ni gael y profiad o'r ddwy agwedd o Dduw sy'n gweddnewid ac adnewyddu ein bywydau ysbrydol.

Mae Eckankar yn diffinio natur Enaid yn ofalus. Mae pob person yn Enaid, gronyn o Dduw wedi ei anfon i fyw yn y bydoedd is i ennill profiad ysbrydol.

Mae'r ECK neu'r Ysbryd Gl芒n yn ein puro o Garma (Karma) ac yn ein galluogi i dderbyn cariad Duw yn ei gyflawnder yn y bywyd hwn.

Y nod yw rhyddid ysbrydol lle gall Enaid fod yn gydweithiwr gyda Duw. Mae Karma ac Ailymgnawdoli (reincarnation)yn gredoau sylfaenol.

Yn dragwyddol

Mae Eckankar yn dysgu bod . . .

  • Yr Enaid yn dragwyddol
  • Yn bod oherwydd cariad Duw tuag ato.
  • Yr Enaid ar siwrnai o Hunanwireddiad a Gwireddiad Duw.

Gellir cyflymu ein hymagoriad ysbrydol drwy gyffyrddiad ymwybodol 芒'r ECK neu'r Ysbryd Glan.

Gellir cysylltu 芒 hyn drwy Ymarferion Ysbrydol ECK ac arweiniad yr ECK Feistr Byw.

Gellwch archwilio y bydoedd ysbrydol drwy Deithio Eneidiol, Breuddwydion a thechnegau ysbrydol eraill.

Mae profiad a rhyddid ysbrydol ar gael i bawb yn y bywyd hwn.

Goleuni a S诺n

Yn allweddol i ddysgeidiaeth Eckankar mae'r Mahanta, yr ECK Feistr Byw sydd 芒'r gallu i weithredu fel Meistr Mewnol ac Allanol i fyfyrwyr ECK ac yn dysgu enw cysegredig Duw neu'r HU, sydd yn ein dyrchafu'n ysbrydol i Oleuni a Sain Duw, yr ECK.

Weithiau mae Goleuni Duw yn dod fel golygfa fewnol neu weledigaeth, weithiau fel fflach o olau gwyn neu las.

Mae Sain Duw i'w glywed yn fewnol fel s诺n d诺r yn rhuthro neu nodyn unigol y ffliwt, miwsig ffidlau, chwythbrennau neu gr诺n gwenyn ac weithiau fel s诺n y gwynt a glywodd y Disgyblion amser y Pentecost.

Daw gwirionedd drwy brofiad nid drwy arsylw. Mae llwybr Eckankar yn rhoi'r cyfle i bob un ohonom agor ein hymwybyddiaeth a'n calonnau. Gallwn ddod wyneb yn wyneb a dirgelion bywyd a marwolaeth a dadorchuddio'r gwir wybodaeth sydd wedi bod mor annaliadwy.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.