04 Ebrill 2011
Ysgrifennydd newydd yr Undodiaid yng Nghymru yn siarad ar 'Bwrw Golwg'
Disgrifiwyd yr Undodiaeth fel man canol rhwng dwy eithafiaeth gan ysgrifennydd newydd yr Undodiaid yng Nghymru.
Wrth gael ei holi gan John Roberts ar y rhaglen radio Bwrw Golwg fore Sul Ebrill 3 dywedodd Carwyn Tywyn bod Undodiaeth yn fan canol rhwng efengyliaeth eithafol ac atheistiaeth eithafol meddylwyr fel Richard Dawkins.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Y mae Carwyn Tywyn newydd ei benodi yn ysgrifennydd yr Undodiaid Cymreig sydd ag ychydig dros ugain o eglwysi yng Nghymru.
Wedi ei fagu yn Annibynnwr - mae'n 诺yr i'r diweddar Barchedig Iorwerth Jones, Capel Als, Llanelli - dywedodd iddo droi tuag at yr Undodiaid o fewn y pum mlynedd ddiwethaf wedi iddo weld effaith "ffwndamentaliaeth Gristnogol" yn ystod ymweliad 芒 Carolina yr Unol Daleithiau.
"A hwnnw yn dod yn gwestiwn o bwys imi am y tro cyntaf yn fy mywyd," meddai.
"Mae e yn codi pryder ac wrth baratoi am y swydd gyda'r Undodiaid rwyf wedi . . . cael tipyn bach o fraw yn edrych ar rai o'r mudiadau efengylaidd," ychwanegodd.
Cyfeiriodd yn benodol at gred mudiad Cymru Gyfan "fod dynoliaeth yn gyfan ers y cwymp yn bechadurus ac euog fel bod pawb yn wrthrychau condemniad a llid Duw" ac at y Mudiad Efengylaidd yn dweud "fod pob dyn fel canlyniad i'r cwymp yn bechadurus wrth natur".
"Nawr, dwi'n dad i ferch tair blwydd oed ac i fi ac i'r rhan fwyaf o rieni . . . ac i'r rhan fwyaf o Gristnogion Cymraeg . . . mae'r syniadaeth yna yn gwbl wrthun ac yn annerbyniol,"
Yn wyneb datblygiadau gwyddonol ychwanegodd; "Mae'r syniad fod dyn yn gwbl bechadurus oherwydd penderfyniad Adda ac Efa yng Ngardd Eden jyst ddim yn stacio'i fyny."
Ychwanegodd mai'r pegwn arall i hyn yw "atheistiaeth newydd" rhai fel Richard Dawkins a'u "neges anobaith bod yna ddim gobaith i'n bodolaeth, nad oes yna ddim byd creiddiol yn ein byd ni".
Yn wyneb y pegynnu hwn rhwng efengyliaeth ac atheistiaeth dywedodd:
"Dwi'n credu bod gan Undodiaeth gyfle ardderchog i apelio at drwch y bobl sydd yn sefyll yn y canol rhwng y ddau begwn eithafol yna."
Dywedodd hefyd mai rhan o'i waith ef yn ysgrifennydd yr Undodiaid fydd gwneud yr Undodiaid yn amlycach fel rhan o'r gymdeithas.