24 Hydref 2011
John Roberts yn holi tri ar 'Bwrw Golwg', 成人快手 Radio Cymru, beth fyddai'n gwella'r byd.
Ar gychwyn Wythnos Un Byd 2011 bu Bwrw Golwg Hydref 23 yn holi tri o bobl beth fyddai'r un peth a fyddai'n mynd a ni yn agosach at y ddelfryd o gyd-ddealltwriaeth a chytgord rhyngwladol.
Dyma oedd gan Rhodri Darcy, Ffred Ffransis ac Aneurin Owen i'w ddweud:
- Rhodri Darcy: Cael gwared 芒 thlodi byd-eang sydd wrth wraidd yr holl annhegwch ac anghyfiawnder yn y byd.
- Ffred Ffransis: Dileu y system fancio byd-eang bresennol a dychwelyd at system a fyddai'n gwasanaethu pobl a'u cymunedau.
- Aneuirin Owen: Creu peiriant y byddai pobl yn mynd i mewn un pen ac yn dod allan yn wahanol ac yn well y pen arall. Dywedodd y byddai'n rhoi bancwyr a gwleidyddion yn y peiriant hwn i ddod allan yn ffermwyr. Ychwanegodd y byddai'r peiriant hefyd yn rhoi "hedyn gair Duw" yng nghalonnau pobl.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Clicio ar y darn llwyd i wrando ar y tri: