Yr oedd y pwnc o gynorthwyo rhywun sy'n ddifrifol wael i farw yn ganolog i sgwrs ar y rhaglen radio Beti a'i Phobl Hydref 17 (ailddarllediad Hydref 21) 2010.
Gwestai Beti George oedd Ben Ridler, athro yng Ngholeg Meirion Dwyfor Dolgellau a wynebodd achos llys yn yr Wythdegau am gynorthwyo ei gymar oedd yn dioddef o ganser ladd ei hun.
Er wedi ei fagu yn Sais pur yn Rhydychen mae Ben Ridler wedi dysgu Cymraeg ers ymgartrefu yng Nghymru ac yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 2009 daeth yn fuddugol mewn cystadleuaeth unawd tenor.
Bu'n siarad gyda Beti am ei fagwraeth draddodiadol Seisnig yn Rhydychen lle'r oedd ei dad yn brif argraffydd o bwys gyda Gwasg y Brifysgol a'i fam yn fardd ac wedi gweithio gyda T S Eliot ar un adeg.
Graddiodd Ben Ridler ei hun yng Nghaergrawnt ac yr oedd a'i fryd ar yrfa gerddorol i ddechrau ond oherwydd ei iechyd symudodd i fyw yng ngogledd Cymru yn y Saithdegau gan ail hyfforddi yn saer cyn cael gwaith yn dysgu.
Yng Nghymru, yn Llanfachraeth, yr oedd mam ei ffrind gorau yn y coleg yn byw hefyd; Lotte Pelz yr oedd hi 芒'i g诺r, Werner Pelz, wedi gwahanu y ddau o Awstria ac yn awduron a diwinyddion a sgrifennodd gyda'i gilydd nifer o lyfrau ar faterion diwinyddol a moesol.
Bu Ben Ridler yn byw gyda Lotte am naw mlynedd gyda'u perthynas glos yn dod i ben pan fu farw hi o ganser a'r ddau wedi cytuno 芒'i gilydd y byddai ef yn ei chynorthwyo i farw pan fyddai'r diwedd yn anorfod a'r boen ym ormod.
Mae'n disgrifio yn ei sgwrs sut y'i cynorthwyodd i ladd ei hun gyda rhaff gan nad oedd unrhyw ffordd arall yn agored iddyn nhw."R诺an, yn llygad dydd ac yn oer, mae'n edrych yn beth ofnadwy," meddai wrth Beti George.
"Ond o fewn y sefyllfa - a chofiwch nid sefyllfa pum munud oedd hyn [ond un] wedi para ers dros flwyddyn," meddai.
Dywedodd iddo drefnu i ffrind ffonio'r heddlu ar ei ran wedi'r digwyddiad i ddweud beth oedd wedi digwydd. Hefyd yr oedd ei gymar wedi arwyddo i ddweud mai cyflawni ei dymuniad hi oedd o.
Yn awr, wrth edrych yn 么l ar y digwyddiad dywedodd ei fod yn parhau i "ddod i lawr yn gryf ar yr ochr o drio lleihau y dioddefaint efo cymorth y gyfraith".
Dywedodd bod adegau pan na all cyffuriau liniaru y boen yn gwbl effeithiol - hyd yn oed heddiw.
"Tydi hyd yn oed y ffisig gorau ddim yn tynnu'r boen i gyd i ffwrdd mewn rhai achosion," meddai.
Dywedodd nad oedd ei benderfyniad yn anghyson a'i ddaliadau Cristnogol a'i fod yn parhau yn aelod o'r Eglwys Anglicanaidd, eglwys, meddai, yn gall fod "yn gyfforddus ynddi".
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Trwy glicio ar y darn llwyd gellir gwrando ar y rhan o'r sgwrs gyda Beti George lle mae Ben Ridler yn siarad am ei brofiad yn wynebu'r penderfyniad a dygymod 芒'i weithred gan gynnwys treulio cyfnod mewn ysbyty wedyn.