A hithau'n ddiwrnod cofio'r Holocost, Ionawr 28, bu Bwrw Golwg yn holi'r Dr Marion L枚ffler, Cymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Celtaidd yn Aberystwyth, am arwyddoc芒d y diwrnod ioddi hi fel Almaenes ifanc.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Yn siarad gyda Bethan Jones Parry ddydd Sul Ionawr 24 2010 dywedodd fod Auschwitz yn golygu i bawb yn yr Almaen "gywilydd dwfwn " a'r diwrnod cofio'r Holocost ei hun yn golygu cywilydd a "brwydro'n 么l yn erbyn unrhyw dueddiadau gallai fod o ffasgaeth."
"Mae hyn," meddai, "yn bennod dywyll iawn, iawn, yn hanes yr Almaen ac yn un sy'n gwneud i mi deimlo yn euog , yn drist ac yn grac iawn bod Almaenwyr wedi gallu gadael i hyn ddigwydd."
Bu'n s么n hefyd sut y mae rhai o awduron mawr yr Almaen wedi delio a'r peth.
"Mae r么l yr awdur . . . yn bwysig iawn," meddai. "Yr awdur yw cydwybod y genedl a dyna pam mae pobl yn mynd mor ypset pan fo un o'r awduron mawr fe; Gunter Grass yn cyfaddef ei fod e fel llanc ifanc iawn, iawn, . . . yn gorfod ymuno a'r fyddin mewn rhyw ffordd ac [mai] uned o'r SS oedd hi."
Fe'i holwyd hefyd am yr arweiniad mae'r sefydliadau crefyddol yn ei roi.
Yngl欧n 芒 phwysigrwydd y cofio dywedodd:
"Mae'n bwysig iawn cofio gan fod y genhedlaeth olaf sydd yn cofio fel tystion yn diflannu ac mae gen i ddau o blant, pump a saith mlwydd oed, mae'n rhaid iddyn nhw wybod beth ddigwyddodd oherwydd dim ond trwy wybod a gweithio drwy'r hyn ddigwyddodd i bob cenhedlaeth mae modd cychwyn eto ac mae modd ffeindio ffyrdd mwy creadigol i ddelio gyda'r cof ac mae'r delio, wrth gwrs, yn cynnwys gwneud yn si诺r fod hyn byth yn digwydd eto."
- Gellir gwrando ar y sgwrs trwy glicio ar y darn llwyd ar gychwyn yr erthygl hon.