Awgrymwyd y gallai Cymru roi arweiniad i'r byd yngl欧n 芒'r ffordd y dylid ymateb i drychinebau fel daeargryn Haiti.
Wrth siarad ar y rhaglen radio Dau o'r Bae ar 成人快手 Radio Cymru Ionawr 22, 2010, holodd yr Arglwydd Roberts o Landudno a oes cyfle i Gymru ddangos i'r byd "y ffordd foesol ymlaen" yngl欧n 芒 thrychinebau fel hyn.
Yr oedd yn cymryd rhan mewn trafodaeth gyda Luned Jones o OXFAM, Terry Davies, cynghorydd Llafur o Gaerfyrddin a Myfanwy Davies, Plaid Cymru.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Rheoli tlodi
Wrth drafod yr ymateb hyd yn hyn i'r trychineb yn Haiti dywedodd yr Arglwydd Roberts, sy'n llefarydd i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Nh欧'r Arglwyddi:
"Fedrwn ni ddim rheoli natur . . . ac mae [hyn] am ddigwydd [eto]; tsunami, daeargryn, corwyntoedd.
"Ond yr hyn fedrwn ni reoli ydi lefel tlodi a dwi'n meddwl, dyna ydi'r cyfle r诺an ein bod ni yn medru buddsodd ac yn medru codi safon byw y bobl sydd yna.
"Roedden nhw yn byw yn isel iawn, yn warthus o isel, cyn y daeargryn yma ac mi fyddwn i'n lecio meddwl ein bod ni yng Nghymru yn medru gwneud rhywbeth," meddai.
"Yr ydych chi eisiau rhoi cyfle . . . a gobaith i'r bobl sydd yna r诺an. Beth am inni agor ein drysau?
"Cyfle efallai, dwedwch, efo ysgoloriaethau. Efo cyfle addysg ac hyfforddiant a'n bod ni yn cyrraedd allan i Haiti ac i bobl Haiti ac yn cynnig rhyw gymorth sylweddol a fydd yn help iddyn nhw i ailadeiladu yn y dyfodol."
Cyfle i Gymru arwain?
Yn ddiweddarach yn ystod y sgwrs ymhelaethodd trwy ychwanegu:
"Onid oes yna gyfle yma r诺an - r么l newydd i Gymru?
"Roeddwn i yn gobeithio ar hyd y blynyddoedd y byddai rhyw wlad yn dangos ffordd foesol ymlaen . Ffordd o wasanaethu, o gynorthwyo.
"India pan oedd Gandhi yno. Yn y dechrau, Israel. Ond onid r诺an Cymru. Oni allwn ni os oes raid, pwyso - os oes rhai o aelodau y Cynulliad yn gwrando ein bod ni yn dangos rhyw ffordd ymlaen.
"Roeddwn i'n awgrymu addysg ac yn y balen. Cyfle," meddai.
Awgrymodd hefyd hwyluso dan amgylchiadau fel hyn reolau ymfudo.
"Oherwydd mae yna angen yma ac mae'n bosib i ni yng Nghymru a thrwy weddill Ewrop gyfarfod a llawer o'r angen yna," meddai.
Baich dyled
Yn ystod y drafodaeth a lywiwyd gan Vaughan Roderick ac Elin Gwilym dywedodd Myfanwy Davies nad yw hi yn hapus fod y gwledydd cyfoethog yn gwneud digon a chan gyfeirio at benderfyniad Banc Rhyngwladol y Byd i gynnig $100biliwn o fenthyciad dywedodd mai'r hyn fyddai hynny yn ei wneud fyddai "cynyddu'r ddyled sylweddol sydd yno yn barod".
Ychwanegodd mai'r hyn allai Cymru ei wneud fyddai cefnogi'r alwad i ddileu dyled Haiti fel y gall gychwyn 'r newydd gyda sefydliadau cryfach na rhai'r gorffennol.
Dywedodd Luned Jones o OXFAM fod gan OXFAM ymgyrch i'r cyfeiriad hwn.
Galwodd hefyd am i Haiti beidio a chael ei anghofio wrth i'r stori bresennol ddiflannu o'r penawdau.
- Trwy glicio ar y blwch llwyd uchod gellir gwrando ar rai o sylwadau Terry Davies, Myfanwy Davies, Luned Jones a'r Arglwydd Roberts.