Jeff Williams, Cymorth Cristnogol yn sgrifennu o'r gynhadledd newid hinsawdd yn Copenhagen
Dydd Mercher, Rhagfyr 16, 2009
Ar drothwy ymweliad Barack Obama 芒 Chopenhagen, mae'r Pan African Climate Justice Alliance ( PACJA) wedi ysgrifennu llythyr emosiynol at Arlywydd Unol Daleithiau'r America.
Mae PACJA yn un o bartneriaid Cymorth Cristnogol a chyfarchiad agoriadol y llythyr yw; "Annwyl Arlywydd, cadwn freuddwydion ein tadau yn fyw!"
Maent yn galw ar "fab Affrica" i gadw at yr addewidion a wnaeth yn ei araith forwynol:
"Allwn ni ddim fforddio bod yn ddi-hid tuag at ddioddefaint y tu hwnt i'n ffiniau ac ni fedrwn dreulio adnoddau'r byd heb sylweddoli'r effeithiau".
Cyn waethed ag erioed
Ond flwyddyn yn ddiweddarach mae amodau yn Affrica cyn galeted ag erioed.
"Mae'n hafonydd ni'n sychu. Mae'n cnydau ni'n troi'n llwch," meddai PACJA gan feirniadu polis茂au'r America ar newid hinsawdd yn hallt.
Maent yn pwysleisio diffyg ymrwymiad America i brotocol Kyoto, a bod maint eu hallyriadau carbon yn weithred drychinebus i'r gwledydd tlotaf.
"Mae gadael i dymheredd y byd gynyddu 2'C yn fyd-eang yn golygu y byddai'n codi 3.5' Cyn Affrica [yn 么l gwyddonwyr IPCC] a byddai hyn yn llythrennol yn dedfrydu miliynau o bobl Affrica i farwolaeth."
ffigurau brawychus
Gallem wynebu ffigurau brawychus yn Affrica petai tymheredd y byd yn parhau i godi, gan gynnwys:
- 40-60 miliwn o bobl yn wynebu malaria yn Affrica, a hynny mewn ardaloedd nad oedd mosgitos yn gallu byw a magu ynddynt cynt.
- 30 miliwn o bobl yn newynu wrth i dir amaeth sychu neu ddiflannu
'Ofni am bob mab a merch'
"Rydyn ni'n ofni am ein mamau a'n tadau, ein brodyr a'n chwiorydd, a phob mab a merch i Affrica. Mae newid hinsawdd nid yn unig yn bygwth ein teuluoedd ni, ond hefyd eich teulu chi, Arlywydd Obama!" meddai PACJA.
Prif Weinidog dan bwysau
Roeddem yn falch o unoliaeth Prif Weinidog Kenya rai dyddiau yn 么l wrth iddo ddod heibio ein stondin er mwyn arwyddo cerdyn post dros gyfiawnder hinsawdd ond mae angen mwy o bwysau ar eraill o arweinyddion gwleidyddol Affrica - gan gynnwys Prif Weinidog Ethiopia, Meles Zenawi.
Mae'n debyg ei fod ef yn llawer rhy barod i gyfaddawdu. Achosodd ei fargeinio gydag Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarcozy,, anhapusrwydd mawr o fewn y gr诺p Affricanaidd.
Erbyn hyn, mae PACJA wedi galw arno naill ai i newid ei feddwl, neu ymddiswyddo fel Cydlynydd Arweinyddion Gwleidyddol Affrica ar Newid Hinsawdd.
Ydi, mae pethau'n poethi yma - er ei bod yn bwrw eira ac ond yn 1'C tu allan!
Ac mae'r cloc yn tician . . .